Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Date: 15 December 1917

Transcript:

Y RHYFEL.

[...]

SYDDIAD Y LLONG 'APAPA.'
TRYCHINEB AR DRAETHELL CYMRU.

Y mae ychydig o hanes suddiad y llong Brydeinig 'Apapa,' yn agos i draethell Cymreig, wedi ei gyhoeddi. Dywed un o'r rhai a waredwyd fod y llong ar ei ffordd adref o Orllewinbarth Affrica, gyda tua 160 o deithwyr, yn eu mysg o ddeutu dwsin o wragedd a phlant, a nifer o forwyr Prydeinig analluog. Yr oeddynt wedi gadael y nawdd-longau (convoy), ac yn cyfeirio at y porthladd. Yn sydyn foreu Mercher cymerodd ysgytiad le, a gwelwyd fod y llong wedi ei tharaw gan ergyd o sudd-long Germanaidd, a gwnaed twll mawr yn ei hochr[.] Lladdwyd nifer o negroaid a nifer o forwyr. Dechreuwyd gollwng y cychod, ond nid oedd unrhyw gyffro ar ffwrdd y llong. Yn fuan cafodd y llong ergyd arall, a gwnaed difrod mawr arni. Maluriwyd rhai o'r cychod, ac anafwyd rhai o'r personnau oedd ynddynt. Lladdwyd amryw o bersonau trwy i gorn simne y llong ddisgyn arnynt. Gwelwyd y llong yn suddo yn raddol i'r mor, a golygfa drist ydoedd hon o'r cychod.

Yr oedd pedwar ar hugain o bersonau mewn un cwch, ac ychydig iawn o ddillad oedd ganddynt. Yr oeddynt bron a rhynu gan yr oerfel, a cheisient gyfeirio at y lan. Gwelsant un neu ddwy o longau, ond ni lwyddasant i dynu ei sylw. Ar ol cyrhaedd y lan cawsant eu ccymmeryd i mewn i gaban nifer o chwarelwyr, ac yna cerddasant filldir a hanner o ffordd i westty a elwir y Station Hotel, lle y derbyniasant ymgeledd a dillad.

Tystiai amryw o'r rhai a waredwyd mai yr ail ergyd o'r sudd-long Germanaidd fu yr achos i fywydau gael eu colli.


Source:
"A Rhyfel. [...] Suddiad y llong 'APAPA'." Baner ac Amserau Cymru. 15 Dec. 1917.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment