Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Date: 24 February 1915

Transcript:

SUDDO LLONGAU PRYDEINIG
UN Y TUALLAN I AMLWCH.

Dydd Sadwrn suddodd bâd tanforawl Germanaidd ddwy agerlong fechan Brydeinig yn Mor yr Iwerddon,—y Cambank (3012 tunell) o Gaerdydd, a'r Downshire (365 turell). Suddwyd y gyntaf oddeutu pum' milliir o Amlwch, a'r llall y tuallan i Ynys Manaw. Yr oedd y Cambank ar ei mordaith o Huelva i Lerpwl gyda llwyth o gopr, a suddwyd hi oddeutu un-ar-ddeg o'r gloch y boreu heb unrhyw fath o j rybudd. Lladdwyd y trydydd peirianydd a dau o'r criw, a boddodd un arall. Llwyddodd y gweddill i fyned i'w cwch eu hunain ac i lanio yn Amlwch[.]

SUT Y SUDDWYD Y CAMBANK

Cychwynodd y Cambank o Huelva oddeutu wythnos yn ol am Garston. Gan iddi gyfarfod a thywydd mawr yn y Sianel aeth i Falmouth am ddiogelwch, ac wedi i'r storm ostegu aeth ymlaen ar ei mordaith. Cydrhwng naw a deg o'r gloch boreu Sadwrn cyrhaeddodd y tuallan i Amlwch. Yn unol ag arferiad llongau yn mordwyo i Lerpwl cymerodd y pilot ar ei bwrdd.

Pan yr oedd ychydig filltiroedd i'r gorllewin o Point Lynas cododd bâd tan-forawl yn sydyn rhyw 300 llath o bellder oddiwrthi, ac heb fath o rybudd taniodd torpedo yn sydyn ati. Gwelodd Capten Prescott, yr hwn oedd yn ngofal yr agerlong, a'r pilot, periscope y bâd tanforawl, a'r un pryd gwelsant torpedo yn d'od ar gyflymder aruthrol tuag atynt.

Cymerodd ffrwydriad mawr le gynted ag y tarawodd y torpedo yr agerlong, a lluchiwyd tunelli o ddwfr ar ei dec, a dechreuodd suddo ar unwaith. Gorchymynodd y capten i'r cychod gael eu gollwng i lawr ar unwaith.

Yr oedd pump ar hugain o'r dwylaw i'w hachub, ond nid atebodd ond un ar hugain i'r alwad ddiweddaf, gan i dri o honynt oedd yn ngwaelod yr agerlong gael ei lladd gan y ffrwydriad. Llwyddodd y gweddill i fyn'd i'r cwch, gydag un eithriad. Yr oedd un o honynt wedi dychryn cymaint nes iddo yn ei ffwdan neidio i'r mor yn lle i'r cwch, a bu foddi ar unwaith.

Gellir dychmygu nerth y ffrwydriad gan y clywid ef yn eglur gan bobl ar y bryniau oddeutu pedair milltir ar ddeg o'r lle.

Yr oedd rhai yn llygad-dyst o'r digwyddiad, ac ar unwaith rhoddasant rybudd, ac aeth bywydfad Bull Bay allan ar unwaith i fan y digwyddiad er estyn cynorthwy iddynt. Yr oedd llawer o honynt yn haner noeth, ac yr oedd yr oll o honynt yn newynllyd, yn wlyb, ac yn oer. Cynorthwyodd y bywydfad hwy i dd'od i Amlwch, a chyrhaeddodd yno tua thri o'r gtoch, lle yr estynwyd iddynt bob cynorthwy.

SUDDIAD Y DOWNSHIRE.

Yr oedd yr agerlong Downshire ar ei mordaith i Lerpwl i gael glo pan yr ataliwyd hi gan y bâd tanforawl y tu allan i Calf of Man oddeutu pump o'r gloch prydnawn Sadwrn. Gorchymynwyd i'r criw adael y llong mewn pum' munud, ac heb goll amser gollyngwyd y cychod i lawr, ac aeth y Capten Connor a'r criw,—wyth mewn nifer—iddynt[.] Gynted ag y gwnaethant hyn suddwyd y llong. Gwelwyd y criw gan trawler, a chodwyd hwy i fyny a glaniwyd hwy yn Dundrum oddeutu deuddeg o'r gloch nos Sadwrn. Dywed un adroddiad fod y Germaniad wedi tanio deirgwaith cyn y gallodd Capten Connor atal y llong, ac fod pump o'r criw wedi eu cymeryd ar fwrdd y bad tanforawl er cael lle yn y cwch i'r swyddogion Germanaidd i fyn'd a ff[r]wyd-belenau ar yr agerlong.

Bernir mai yr U 21 yw y bad tanforawl, ac nid yr U 12, fel y dywed prif beirianydd y Downshire.

Source:
'Suddo llongau Prydenig.' Yr Udgorn. 24 Feb. 1915. 2.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment