Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Date: 27 February 1915

Transcript:

SUDDO LLONGAU PRYDEINIG.
Y GERMANIAID YN YMYL AMLWCH.
TYNGED LLONG O GAERDYDD.
COLLI PEDWAR O FYWYDAU.

Dydd Sadwrn suddwyd dwy long Brydeinig—un yn agos i Amlwch, ar draethell sir Fôn, a'r llall yn Ynys Manaw.

Y gyntaf i gael ei suddo ydoedd y 'Cambank,' llong o Gaerdydd, oedd ar ei ffordd o Huelva am Garston, gyda llwyth o gopr a haiarn Yspaenaidd. Yr oedd yn ymyl Point Lynas, Mon, rhwng naw a deg o'r gloch boreu ddydd Sadwrn, ac wedi arafu er cymmeryd 'pilot' ar ei bwrdd. Yn sydyn gwelwyd llong tanforawl Germanaidd yn dyfod i'r golwg, ac ar hyny tarawyd y 'Cambank' gan 'torpedo.' Llwyddodd ugain o'r criw i waredu eu hunain, ond collwyd y pedwar gweddill. Suddodd y llong yn mhen ychydig iawn o funydau. Cymmerodd y trychineb le mor agos i'r traeth fel y gallai gwylwyr y glanau, ac edrychwyr gyda gwydrau oddi ar y lan, weled y llong tanforawl yn codi uwch law y dwfr. Ni roed un arwydd o gwbl i'r 'Cambank' o'r hyn oedd yn ei haros, a gwelodd rai o'r criw y torpedo yn cael ei hanelu at eu llestr, a gwyddent beth fyddai ei thynged. Gwnaed prysurdeb am y cychod, ond nid oedd cyfle nac amser i ostwng dim ond un. Ni chaed amser i rybuddio y peiriannwyr yn ngwaelod y llong. Tarawyd y llestr yn ei chanol, a phlygodd fel pe buasai welltyn. Suddodd y llong fel careg. Llwyddodd ugain o'r criw, yn cynnwys y cadben [sic], i neidio i'r cwch gyda chryn drafferth. Yr oedd tri o'r rhai gollasant eu bywydau yn y peiriandy ar y pryd, a lladdwyd hwy gan ffrwydrad, neu anafwyd hwy yn y fath fodd fel nad oedd modd iddynt waredu eu hunain. Y pedwerydd ydoedd y 'donkeyman,' yr hwn a foddwyd wrth geisio neidio i'r cwch. Yr oedd un o'r peiriannwyr wedi ei lusgo bron i ddiogelwch, ond llithrodd yn ol, a boddodd. Yr oedd wedi ei anafu yn ddifrifol, ond gyda'r ychydig yni a feddai gafaelodd yn mraich un Joseph Banbury, ond collodd ei afael, a suddodd Banbury. Yr oedd yr olaf yn cysgu yn ei gaban pan ddigwyddodd y llong gael ei tharaw.

Daeth bywydfad Bull Bay allan yn union wedi i'r ffrwydrad gael ei weled gan y gwylwyr oddi ar y lan, a, llwyddodd i gyrhaedd y cwch a gynnwysai ddwylaw y 'Cambank.' Yr oedd y dynion mewn cyflwr truenus, ac estynwyd iddynt ymborth a chynnhesrwydd, a dygwyd hwy i'r lan, lle y croesawyd hwy gan drigolion yr Ynys, ac y rhoed dillad clyd a sych iddynt.

Yr oedd y llong 'Queen Wilhelmina' yn y gymmydogaeth pan suddwyd y 'Cambank,' a chafodd hithau ddiangfa gyfyng. Yr oedd y llestr hon hefyd wedi arafu er codi 'pilot' ar ei bwrdd. Nid oedd mwy na hanner milldir o bellder rhwng y ddwy long ar y pryd.

Perthynai rhai o griw y 'Cambank' i Liverpool, a chyrhaeddasant adref nos Sul. Yr oedd gan rai o honynt hanesion cyffrous i'w dyweyd am y trychineb. Ymddengys fod y 'pilot' godwyd ar y llong wedi rhybuddio y criw fod llong tanforawl wedi ei gweled yn y gymmydogaeth, a rhoed gorchymyn i gael y cychod yn barod. Yr oedd un o'r badau wedi ei ollwng, pan yn sydyn y gwelwyd llong tanforawl yn codi uwch law y dyfroedd, heb fod nemawr dros gan llath o bellder ymaith. Codwyd gwaedd, a sylweddolwyd fod ergyd yn cael ei thanio at y llong. Ni chaed munyd bron i gael y cwch yn barod. Gwelwyd y torpedo yn ymsaethu ar hyd y dyfroedd, a rhuthrodd y llongwyr rai i bob pen o'r llong. Yr oedd yn funyd ofnadwy i aros am yr ergyd! Gwyddid fod yna beirianwyr oddi tanodd, ond nid oedd amser i'w rhyhuddio! Daeth yr ergyd, a tharawvd y llong yn ei chanol, nes ei phlygu. Yn mhen ychydig eiliadau yr oedd wedi suddo. Y rhai gollasant eu bywydau oeddynt Robert Quigley, Glasgow; Joseph Boyle, Garston; Michael Lyrch, Newry; a Charles Sinclair, Edinburgh.

Source:
'Suddo llongau Prydeinig.' Baner ac Amserau Cymry. 27 Feb. 1915. 7.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment