Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Date: 11 April 1916

Transcript:

DYRCHAFIAD I GAPTEN O GAERNARFON

Da fydd gan drigolion Caernarfon ddeall am ddyrchafiad Capten William Owen (Glasfryn, Llanbeblig Road), brodor o'r dref, yr hwn sydd wedi bod yng ngwasanaeth Cwmni yr Elder Dempster am 26 mlynedd. Mae wedi ei benodi yn arolygydd (superintendent) y


[portrait of William Owen]
Cpt. W. OWEN.

cwmni yn Llundain. Mab ydyw Capten Owen i'r diweddar Gapten Robert Owen (s.s. Tolfaen) ac y mae yn adnabyddus iawn mewn cylchoedd morwrol. Aeth i'r mor gyda'i dad pan yn ieuanc, ac y mae ei yrfa fel morwr wedi bod yn hynod o lwyddianus. Y llong ddiweddaf yr oedd ef yn gapten arno ydoedd y Bengwela [sic], perthynol i'r cwmni. Yn ystod Rhyfel De Affrig yr oedd Capten Owen yn llywydd ar long gludai filwyr o'r wlad hon i Dde Affrig. Y mae yn aelod o Gyfrinfa Leol y Seiri Rhyddion.


Source:
'Dyrchafiad i gapten o Gaernarfon.' Yr Herald Cymraeg. 11 Apr. 1916. 6.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment