Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

This letter reads as follows:
'Aber Anystwyth, Novr. 15th 1742. 3 aft.noon,

Barchedig Sr,
Y munud yma daeth eich Cennad attaf, a'r llythyr lleiaf a welais erioed, ag fe fuasai well genif weled un o'r Tylwyth Teg a Baich o dd_l ar ei gefn, na gweled ei wyneb brutanaidd ar y Cyfryw achosion, er na ddaethwn i'ch ymweled Chwi o flaen ungwr a Bisodd y Borau, ag a ddeuaf etto ond Edrych o'm deutu. Ond Dyma Fytheiad Ch. Richards, gynddeiriog gwedi fy mrathu yn fy nghoes, am fyned ddoe i Edrych am ei feistr; a digon o waith a gaf roi mwttias am danaf.
Heblaw hyn dyma genif Longig fach neu Gwch mawr, i'w Lwytho ag Ysgaden i fynd i Lerpwl, ag y mae'n Angenrhaid gweled y rheini gwedi eu llwytho, ag yn Cychwyn ymaith, oblegid rhaid Cyflogi llaw. - Heblaw'r Cwbl mae gennif Ddynion dan y ddaiar yn Tirio fal môch, ag yn chwilio am arian, ag mae'n Angenrhaid hefyd edrych na Lyngcont mor meini Gwerthfawr a'r mwnai a gaffont yno, ag hefyd rhoi digon o waith Tirio iddynt onide hwy a wnant ddrwg ddigon hyd y maesydd.
Ond yn ddiweddaf o'r Cwbl, dyma Arglwyddi'r Amralti yn gweiddi fal y diawlaid, fy mod yn gwarrio f'amser yn segur, a pham na ddof a'r papurau i'w dangos bellach? Esgus gwan imi ddwedyd, mae yfed Cwrw a Cholli nghof y bum gyda'g Ysgwieriaid Cymru: o Lymgi! o Grwydgi! fydd yn henwau gorau a ro'nt arnaf. Ond mewn difri da ma gennif waith 3 mis sydd raid imi wneuthur mewn chwech wythnos, a gweithio nos a dydd ag awr ag Ennyd.
However, To morrow I must Endeavour to load ye sloop, a Wednesday must go to ye Mines & set Bargains. A Friday will Endeavour to Face about towards Gwynedd and stay with you one day & return ye 2d, oblegid mae yma ryw Faterion eraill ar fy llaw that you never dreamt of and that no man in ye Country knows of.
Matterion mawrion i mi
a Rhinwedd ar y rheini!
I am Sr your ever obliged & your Ufudd wasanaethwr,
Llewelyn Ddu'.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment