Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council, and completed by William Idwal Thomas from Dwyran, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in years gone by'.


Transcription

[MS 342_0001 ]

[Beth oedd amser codi arferol?] [A godai pawb yr un amser?]

5 am  8.0 pm

 i rai yn gofalu am Anifeiliaid

 

[A wneid unrhyw waith cyn brecwast?]

Ffidio yr anifeiliaid yn enwedig y ceffylau

[Pa bryd oedd amser brecwast?]

6am.

[Beth a fwyteid i frecwast?]

Bara llaeth neu friwas Bara Ceirch

[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]

yr holl weision

[A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?]

Rhai manau

[Pa bryd yn ystod y dydd y cedwir dyletswydd?]

Bore fwyaf mynych

[Pwy fyddai’n cymryd rhan?]

Y meistr, a rhywun arall os yn arfer cymryd rhan

[A gymerai pawb ran yn ei dro?]

 

[A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?]

nagoedd

[Os felly, pa fwyd?]

 

 

[Beth oedd enw’r pryd?]

 

[Ym mh’le y bwyteid ef?]

 

[A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?]

 

[A faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?]

12

 

[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]

 

[Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?]

Tatws Llaeth, Beef, Pork, mutton wedi ei halltu fel bo amgylchiadau y meistr

 

[A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?]

Mewn rhai manau ond ar fwrdd gwahanol

[A oedd enw arall ar ginio?]

 

[MS 342_0002]

 

[A fyddech chi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?]

 

[Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?]

 

[Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?]

Gyda chragen neu ffliwt

 

 

[Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?]

6pm

 

[Beth oedd yr enw, neu’r enwau arno?]

Cnysawyd? - Cynesfwyd mae’n debyg

 

[Beth a fwyteid?]

 

[Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?]

Yn y Briws enw rhan or [sic] ty dynion.

 

[Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?]

8pm ir[sic] Bechgyn dibriod? arferai gysgu yn lloft [sic] y stabl

 

[Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?]

Uwd ? blawd ceirch

 

[Beth a fwyteid iddo?]

 

[Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)]

y gweision Sengl ar[sic] morwynion

 

[Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?]

Ai yr Hwsmon at y meistr am y trefniadau ac yna âe [sic] yntau at y gweision.

 

[Pa amser a wneid y godro?]

ar ol Brecwast, a chyn Cynhesfwyd.

 

[A fyddid yn dyrnu â ffust?]

Cyn fy amser I ond gwelais ffust ar[sic] modd y defnyddid hi

 

[Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?]

 

[A beth am y dynion?]

Ni fyddai dynion priod yn gweld eu plant yn effro ond bob yn ail Sul, yn enwedig y rhai ofalai am yr anifeiliaid

 

[Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)]

 

[Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?]

Yr ifangs [sic] – Lloff [sic] ystabl – Trwy ganu cerddi ac adrodd

 

[Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?]

 

 

[A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?]

Nyddu a gwau, gwneud offerynau ar gyfer fferm, Basgedi, Ffyst penffystiau  etc?

 

[A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?]

 

[MS 342_0003]

 

[Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd yn eich ardal?]

Tai Gweithwyr – un llawr yn cael ei rannu yn ddau gyda gwelau pren i wneud ystafell fyw a un i Gysgu

 

[A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf?]

Bydda ar ddiwrnod Dyrnu – Tatws Rhost a Pwdin

 

[Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’, gwas mawr, gwas bach)?]

Pen certmon. ail a trydydd certmon

Dyn Rhydd i gyflawni gwahanol oruchwilion[sic] or[sic] fferm

 

[Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?]

Ystabal, Beudai, Shediau, Cwt Lloi, ysgybor[sic], Hoewel [sic] cwt gwair

 

[Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?

Mae rhai cwestiynau na allaf eu hateb oherwydd nad oeddwn yn ffermwr na gwas.

Gan fy mod mewn Shop ar Groesffordd y pentref cefais fantais I adnabod llawer or[sic] dynion ieuangc [sic] ar nosweithiau braf yn yr Haf gan y byddant yn tyru at eu gilidd [sic] ac    y gorau ganu Hen Gerddi, rhai am ddigwyddiadau mawr y cyfnod megys llongddrylliad, Llofruddiaeth. Rhaid cofio nad oedd Papurau Newyddion yn dod ir[sic] ardal y pryd hyny [sic]. Chware “Quots” oedd ei “game’ gyffredin Cant? Fenthyg 4 Hen bedol gan y Gof a dwy garreg go fawr ym mhob pen.

Rhaid cofio nad oedd moddion teithio y pryd hyny[sic] ond ar draed. Rwyf yn Cofio y “pennyfarthing” cyntaf ddaeth ir[sic] ardal a bum ar ei gefn, er loes i mi, cofiaf hefyd y Bike “Cushion Tyre’ cyntaf hefyd ddaeth ir[sic] ardal.

 

[MS 342_0004]

CAERNARVONSHIRE 18 OCT 1957

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment