Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Description
Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council, and completed by John Fflewyn Williams, Llanddeusant, Anglesey, on the subject of 'a typical work day in years gone by'.
Transcription
[MS 346_0001 ]
Beth oedd amser codi arferol?
Tua 5 o’r gloch ac ym mhellach ymlaen 6 o’r gloch
A godai pawb yr un amser?
Na [wnast], Byddai y gweision a’r morwynion yn codi o flaen teulu’r ty
A wneid unrhyw waith cyn brecwast?
Gwneid. Byddai llawer o’r anifeiliaid wedi eu bwydo a charthu o danynt cyn brecwast
Pa bryd oedd amser brecwast?
Tua 6 i 6.30
Beth a fwyteid i frecwast?
Bara ymenyn, brwas bara ceirch,eto,
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Byddai yn aml er byddai y teulu yn cael tipyn gwell tamaid
A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?
Oedd yn rhan fwyaf o’r cartrefi
Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd?
Rhai wedi becwast, eraill wedi cinio, eraill cyn mynd i’r gwely
Pwy fyddai’n cymryd rhan?
Y pen teulu yn fwyaf mynych, ac hefyd ambell un o’r gweithwyr os byddai yn ddyn cyhoeddus
A gymerai pawb ran yn ei dro?
Gwneid mewn rhai lleoedd byddai pawb yn darllen adnod bob yn ail.
A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?
Oedd yn y rhan fwyaf o’r ffermydd.
Os felly, pa fwyd?
Tafell o fara a chaws, a diod o laeth emoyn
Beth oedd enw’r pryd?
Y paned
Ym mh’le y bwyteid ef?
Yn mha le bynag y byddid ar y pryd, yn y maes, yn un o’r adeiladau allanol neu yn y ty
A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?
Oedd o 9 i 9.30 ar y gloch
Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?
Am haner dydd, sef 12 o’r gloch
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Gawsai y meistr a’r teulu damaid tipyn gwell na’r gwasanaethyddion yn fwyaf mynych.
Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?
Tatws a chig berw a brwas, tafell o fara a diod o laeth emoyn, dydd Sul efallai y ceid tamaid o bwdin, tatws llaeth
A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?
Na fyddai, byddai y gweision a’r morwynion yn bwyta yn y briws, a theulu’r ty yn bwyta drwodd
A oedd enw arall ar ginio?
Chlywais i ddim
[MS 346_0002]
A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?
Byddem weithiau pan yn rhy brysur i ddod at y ty, a’r ffordd ymhell
Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?
Ni cheid cinio poeth yn y caeau
Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio?
Trwy dyny rhaff oedd yn hongian wrth gloch a honio yn caeau
Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn?
Tua 4 o’r gloch yn y cynhaeaf ond tua 6 pan fyddai dydd bur yn y gaeaf
Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno?
Te neu cynwyswd, te chwech,
Beth a fwyteid?
Tafelli o fara ymenyn, a the
Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?
Yn y ty y byddai y dynion yn bwyta yn y gaeaf ond yn y caeau neu’r adeiladau yr haf
Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?
Tua 7 o’r gloch
Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?
Swper
Beth a fwyteid iddo?
Te a bara ymenyn, weithiau powliad o uwd a chwpanaid a brechdan wefyr
Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)
Y gweision a’r morwynion a fyddai yn cysgu ar y lle, yna teulu’r ty
Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?
-
Pa amser a wneid y godro?
Y peth cyntaf wedi brecwasta y bore, a thua 5 i 5.30 y prydnawn
A fyddid yn dyrnu â ffust?
Byddid
Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?
Yn y prydnawn a byddai gwraig y ty yn gwneyd cremfiog fel croeso i’w chymdogion
A beth am y dynion?
Tarawant ar eu gilydd yn y caeau pan yn edrych eu ‘stock’ yn y boreau
Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)
Mynd i de, a hel visit
Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?
Drwy darllen neu ganu, rhai o’r merched yn gwau neu wnio
Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?
Tua 9 o’r gloch
A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?
Gwneid, merched yn trwsio sana a thrwsio dilladau, a’r dynion yn coblio esgidiau neu gwneyd tipyn o waith coed
A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?
Oedd, bwyd trwm cynnes yn y gaeaf, bwyd tipyn ysgafnach yn yr haf.
[MS 346_0003]
Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd ty yn eich ardal?
Briws, ty llaeth, pantry, gegin parlwr, y lobby, twll dan y grisiau a’r gwahanol lofftydd a chegin llamiau
A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod cynhaeaf?
Byddai, ceid tatw a chig eidion wedi ei rostio i ginio, a phwdin mewn ambell i le, a bara ymenyn a chaws i de.
Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’ gwas mawr, gwas bach)?
Hwsmon, eilgwas, pen certmon, eil gertmon, trydydd certmon os byddai y fferm yn fawr, dyn caled, gwas bach
Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?
Beudy, ystabl, ystabl bach, cwt boeler, cwt malu, cytiau moch, cwt glo, hofel
Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?
O berthynas i weithio cyn brecwast, clywais fy nhad yn dweyd y byddai ef a dyn arall yn rhwymo yd yn ysgubau am ryw awr cyn brecwast, ac y byddent mewn diwrnod yn rhwymo ac yn stookio 60 stook bob un. Roedd stook yn golygu 12 o ysgubau sef 9 yn y gwaelod a thair fel to ar y pen, a’r ysgub ucha wedi ei rhwymo yn y ddwy arall. Golyga hyny y byddent wedi rhwymo 720 o ysgubau bob un a’u stookio, ystyrid hyny yn gryn orchest. Byddai llawer yn godro defaid cyn brecwast, y merched fyddai yn cyflawni y gwaith hwn amlaf, torchen ar eu pennau a’r piser llaeth ar ben hwnw. Ynglyn a chadw’n ddyletswydd deuluaidd byddent yn darllen pennod o’r Beibl ac yn canu emyn cyn mynd i weddi mewn ambell i le.
Do you have information to add to this item? Please leave a comment
Comments (0)
You must be logged in to leave a comment