Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Responses to a 1957 questionnaire created by the Welsh Folk Museum and distributed by Anglesey Rural Community Council, and completed by R. J. Roberts, Rhos-y-bol, Anglesey, on the subject area of 'a typical work day in years gone by'.


Transcription

[MS 352_0001]

[Cwestiynau wedi ei teipio, rhifau wedi ei ysgrifennu gan llaw ]

1. Beth oedd amser codi arferol? [atebion aneglur/strempiog]

2. A godai pawb yr un amser? [atebion aneglur/strempiog]

3  A wneid unrhyw waith cyn brecwast? [atebion aneglur/strempiog]

4  Pa bryd oedd amser brecwast?

5  Beth a fwyteid i frecwast?

6  A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?

7  A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?

8  Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd?

9  Pwy fyddai’n cymryd rhan?

10 A gymerai pawb ran yn ei dro?

11 A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?

12 Os felly, pa fwyd?

13 Beth oedd enw’r pryd?

14 Ym mh’le y bwyteid ef?

15 A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?

16 Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?

17 A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?

18 Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?

19 A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?

20 A oedd enw arall ar ginio?

 

 

[MS 352_0002]

21 A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?

22 Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?

23 Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ gael eu cinio?

24 Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?

25 Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno?

26 Beth a fwyteid?

27 Ym mh’le y bwyteid y pryd hwn?

28 Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?

29 Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?

30 Beth a fwyteid iddo?

31 Pwy fyddai yno (Y gweision er enghraifft?)

32 Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?

33 Pa amser a wneid y godro?

34 A ffyddid yn dyrnu â ffust?

35 Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?

36 A beth am y dynion

37 Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y feiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)

38 Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?

39 Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?

40 A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?

41. A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r haf?

 

 

[MS 352_0003]

 

“DIWRNOD GWAITH CYFFREDIN ERS LLAWER DYDD”        R.J. ROBERTS.

 

Yr wyf wedi rhifo cwestiynau y cylchlythyr ac felly yr atebion i gyfateb iddynt.

                                                  - - - - -

1. Mewn mwyafrif o ffermydd pump o’r gloch.

2. Codai y forwyn i olau tan, ac i baratoi brecwast.

3. Yn yr haf rhaid oedd nol y gwartheg i’r beudy, a chael y cunogau, a’r llestri godro yn barod. Prin iawn o ynni fyddai y gweision am y daliad hwn gan edrych ymlaen yn farwaidd at y cysur a’r diddanwch oedd yn eu haros amser brecwast.

4. Chwech o’r gloch.

5. Llond bowlan o frwes a paned o de.

6. Dibynnai hyn ar y parch fyddai gan y meistri tuag at y gweithwyr. Eisteddai y teulu o gwmpas bord gron, tra eisteddai y gweision a’r morwynion o amgylch bwrdd mawr, gwyn glân di-lian.

7. Oedd.

8. Ar ol brecwast, tra y berwai sospan llaeth lloi, a chrochan tatw moch ar ffon y grat.

9. Y Pen Teulu, a phawb arall yn eu tro.

10. Ni theimlai pawb eu bod yn gymwys i gymmeryd rhan yn y gwasanaeth.

11. Oedd

12. Ceid paned o de a bara haidd, neu fara ceirch.

13. Paned ddeg.

14. Os yn gyfleus yn y tŷ, ond yn y caeau amser cynhaeaf.

15. O hanner awr wedi naw i ddeg.

16. Am hanner dydd.

17. Dibynnai hyn ar y ffermwyr.

18. Tatw a llaeth, cawl digon dilygad, tamaid prin o gig moch yn awr ac eilwaith. Byddai digon o laeth iw gael iw yfed. Da fyddai wrtho gan mor hallt fyddai y bwyd. Byddent yn cael pwdin ar ddyddiau gwyl.

19. Weithiau byddai y teulu yn bwyta yn y gegin orau, tra mewn fferm arall byddai y teulu yn bwyta yn y briws gyda’r gweithwyr, ond fod ganddynt ford eu hunain.

20. Nac oedd

21. Amser cynhaeaf byddid yn mynd a bwyd i’r caeau rhag gwastraffu amser i ddod at y tŷ

22. Math o ‘gnwswd’ a ddygid. Cynnwys-fwyd, -bara haidd a bara ceirch a llond piser o laeth

23. Gyda cragen neu gloch

24. Yn yr haf te am bedwar, ac yn y gaeaf te am chwech.

25. Prynhawn fwyd, neu yn fwyaf cyffredin te.

 

 

[MS 352_0004]

                                    

                                                       _2_                                        R. J. Roberts.

 

26. Te a bara menyn, caws neu jam.

27. Yn y tŷ.

28. Wyth o’r gloch

29. Swper. Byddai rhai o’r llafurwyr yn cysgu adref ond byddent yn cael “swper adre” neu “hoglyn” fel ei gelwid trwy ras gwraig y fferm.

30. Bara llaeth. Caled a du a fyddai y bara haidd ynddo yn aml.

31. Y morwynion a’r llanciau sengl. Arferai y gwŷr priod a chysgu adref os yn hwylus iddynt.

32. Caled oedd y gwaith a’r oriau gweithio yn faith ond er hynny byddid yn cael yr holl gynhaeaf i ddiddosrwydd mewn pryd. Rhaid oedd ffitio y wadn fel bo’r troed. Yr oedd gan pob gweithiwr waith ei hun.

33. Ar ol brecwast ac ar ol te yn yr haf, ond yn y gaeaf cyn te. Mewn ambell fferm byddid yn godro cyn brecwast. Byddai y gweision allan felly am bron i ddwy awr heb gael eu brecwast.

34. Dyrnu gyda ffust ar lawr dyrnu, fel yn nyddiau’r Beibl, a nithio gyda gwyntyll

35. Prin oedd amser hamdden gwraig fferm, felly nid yn aml yr ai i ymweled a’i chymdogion os na fyddid yn mynd i gysuro rhywun mewn galar neu amgylchiad cyffelyb. Yn y prynhawn y byddid yn mynd. Dro arall byddai y teulu i gyd yn mynd i swper, a chedwid noson lawen.

36. Hawdd oedd i’r meistri uno ymweliad ar fusnes ac ymweliad gymdeithasol. Weithiau ai y llanciau i lawr i efail y pentre ar hwyrnos gaeaf, ac yn canu hen alawon tra fyddai y gof yn troi hen bedolau yn rhai newyddion.

37. Fe ddefnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ hefyd ‘cymwota’ yn y rhan hon o’r wlad. Cewch ambell un hefyd a ddywed ‘mynd i hel straeon’.

38. Byddai y gweision yn treulio eu hamser yn y lloft-stabl. Yno y byddent yn canu rhyw alawon tebyg i’r “Hogen Goch”. Byddent yn ymgynnull yn yr hwyr i dorri gwalltiau ei gilydd ac i adrodd rhyw newydd fyddai ganddynt. Efallai y byddai ambell un yn medru canu y chwibanogl.

39. Fe fyddent yn mynd i’r gwely tua hanner awr wedi naw i ddeg.

40. Byddai gan y merched ddigon o waith trwsio, nyddu a gweu. Treuliai rhai o’r dynion eu hamser yn gwneuthur rhyw ddodrefn bychan, ar unig erfyn fyddai ganddynt oedd cyllell boced.

41. Prin iawn fyddai y gwahaniaeth yn y bwyd.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment