Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Notes by Prof. T. J. Jenkin (Aberystwyth) on 'a typical days work in years gone by' in response to the 1957 Welsh Folk Museum questionnaire


Transcription

[MS 1151_0001]

 

                         AMGUEDDFA WERIN CYMRU

                   Diwrnod gwaith cyffredin ers lawer dydd.

 

Atodiad yw hen i’r Holwyddorog ar Ddiwylliant Gwerin (cloriau melyn). Os gellwch ymdrin yr un mor fanwl ag unrhyw bwnc arbennig yn yr Holwyddoreg honno,byddwn yn dra diolchgar. Byddwn bob amser yn barod i anfon cyfarwyddyd pellach ynglŷn ag unrhyw bwnc. Anfoner pob atebion ac ymholiadau at y Ceidwad, Amgueddfa Werin Cymru,Sain Ffagan,Caerdydd.

 

Awgrymiadau am y math o wybodaeth i’w chofnodi.Nodwch eich enw, am ba aledigaeth yr ydych yn sôn,ym mha ardal , ac ym mha adeg yn y gorffennol.

 

1.     Amser codi arferol. Pawb yr un amser? Unrhyw waith cyn brecwast? Beth oedd amser brecwast a beth a fwyteid? A fyddai pawb yn cael yr un bwyd ? A oedd enw arall am frecwast? A oedd hi’n arfer I gadw dyletswydd ? Os felly, pa bryd yn ystod y dydd? Pwy fyddai’n cymryd rhan ? ( Pawb yn ei dro?)

2.     A oedd hi’n arfer i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio ? Os felly,pa fwyd ? Beth oedd enw’r pryd ac ymhle y bwyteid ef? A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?

3.     Am faint o’r gloch yr oedd cinio fel arfer ? A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? A oedd enw arall am ginio? A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?

4.     Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y pnawn, a beth oedd yr enw ( neu enwau) arno ? Beth a fwyteid ac ymhle?

5.     Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos a beth oedd yr enw ( neu enwau) arno? Beth a fwyteid, a phwy fyddai yno – y gweison er enghraifft ?

6.     Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn,er enghraifft , godro neu ddyrnu a ffust ? Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld ȃ’u cymdogion ? A beth am y dynion? Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? ( Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau “cerdded tai” neu “cymowta”, er enghraifft).

7.     Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely ? A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd.

8.     Yr oedd yr adeg ar y flwyddyn,mae’n siwr,yn gwneud gwahaniaeth i rai o’r pethau a’r amserau yr ydych wedi eu hysgrifennu wrth ateb yr uchod; er enghraifft, a oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r haf? A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu,neu yn ystod y cynhaeaf ? Byddai’n help pe gallech nodi’r amrywiadau hyn yn nhrefniadau’r diwrnod gwaith.

9.     Yn olaf, beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd ( neu’r rwmydd) tŷ yn eich ardal ? A beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morwynion ( er enghraifft, “ hwsmon”,” gwas mawr” ac enwau tebyg). Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal ?

 

[MS 1151_0002]

                          Amgueddfa Werin Cymru

                    Diwrnod gwaith cyffredin “Slawer Dydd”.

Ni chofiaf i mi o’r blaen rodi ateb i’r holiadur hwn er y rhaid ei fod gennyf ers dwy mlyned neu fwy.Hwyrach nad oedwn ar y pryd yn barod iawn i datgudio pob manylion o [ bywyd] bod safon byw yn yr amser cyntaf a gofiaf mor ofnadwy o “isel” yn ol ein syniadau ni am safonau byw. Erbyn hyn,er bod hynny i ryw fesur yn dangos tlodi’r teulu,teimlaf y dylid rhodi’r manylion yn onest,a dwedaf bod y safon yn debyg ar holl ffermydd y cylch y pryd hynny,neu ni fyddai gwas neu forwyn yn barod i aros am fwy na blwyddyn.

 

Y Lle : Ffarm Budloy, Plwyf Castell Henri, Sir Benfro.

Y Cyfnod : Tua 1890 i 1910

 

Mewn gwirionedd, dylid rhannu hwn yn dau gyfnod –

 

1890-1900 : Cyfnod o wasgfa amaethyddol anghyffredin iawn – yn waeth ar y cyfan na’r 1880-iau gyda prisiau pob cynnyrch ffarm yn isel iawn

 

1900-1910 : Cyfnod o wella gradol iawn yn cyrraedd ei uchafbwynt yn 1912; y plant hefyd yn dod i gymryd drosod mwy o’r gwaith a’r gofal.

 

Y Cefndir : Priodwyd David Jenkin a Sarah Alice Llewelyn ym mis Hydref 1879. Yr oedd David Jenkin wedi ei fagu yn Budloy. Bu farw ei fam pan yr oedd ef tuag wyth mlwyd oed a phriododd ei dad drachefn fel mai ei lys-fam Eleanor ( Nel Budloy) a fagod fy nhad, David Jenkin o hynny ymlaen.

Bu farw ei dad yn 1870 gan adael ei eiddo,na farnwyd yn werth ond….. at brofi ei ewyllys, yn eiddo cyfartal i David Jenkin a’i lysfam Nel.

Yr oedd i Nel ŵyres ( o’i gwr cyntaf ac felly heb fod yn perthyn o gwbwl i David Jenkin), Mary Anne Howell, ac yn ei hewyllys hi dyfarnod Nel bod ei rhan hi o’r eiddo i fynd i’r ŵyres a bod David Jenkin felly i dalu mewn arian i Mary Anne Howell ar gyfer hanner gwerth yr eiddo er nad oedd yr arian hynny yn bod. Pan fu Nel Budloy farw yn 1878 felly,yr oedd David Jenkin yn ddwfn mewn dyled i Mary Anne Howell ac yr oedd y ddyled honno yn aros pan briododd ef a Sarah Alice Llewelyn yn 1879.

Nid oedd gan Sarah Alice Llewelyn waddol mewn arian ( wedi gael gwadol mewn celfi a llieiniau a gwahanol bethau i’r tŷ ), ac felly dechreuasant eu byd mewn amser argyfyngus mewn dyled mi gredaf o £ 200 os nad rhagor. Ond yr oedd y ddau o honynt yn weithwyr caled iawn pan yr oedd eu hiechyd yn caniatau.Bu iddynt bedwar o blant –

1)    Merch a anwyd Awst 4,1880

2)    Merch ‘’     ‘’       Hydref 20,1881,

3)    Mab    ‘’     ‘’       Ebrill 16, 1883,

4)    Mab    ‘’     ‘’       Ionawr 8, 1885

 

Yr oedd y ffarm a’r gwaith yn ormod i wr a gwraig ei rhedeg eu hunan ac felly tra yr oedd y plant yn cael eu magu yr oedd gofyn cyflogi un gwas di-briod ac un forwyn ddi-briod,y ddau i fyw “i mewn” gyda’r teulu heblaw gweithiwr achlysurol yn ol fel y byddai galw, ond fel y tyfai y plant i helpu gyda’r gwaith,hyd yn oed tra yr oeddynt yn yr ysgol-bob-dydd ( yr ysgol elfennol yn unig a gafod pob un o’r pedwar plentyn), gellid gwneud gyda gwas a morwyn rhywfaint yn iau,ac yn y diwedd wneud hebddynt yn gyfangwbwl.

  Gorffenodd y forwyn ddiwethaf yn Hydref 1891 pan yr oedd y ferch hynaf yn 11 oed ond ni chofiaf a adawodd hi yr ysgol yn llwyr y pryd hynny. Gadawodd y gwas diwethaf yn Hydref 1894 pan yr oedd y mab hynaf yn 11 ½ oed, ond ni adawod ef yr ysgol yn llwyr am tua blwyddyn arall.

Nid oes gennyf fi ond cof egwan iawn felly o’r amser pan yr oedd gwas a morwyn yn ran o’r teulu o herwydd ymadawodd y forwyn ddiwethaf cyn fy mod i yn saith oed. Er hynny,cofiaf ei hymadawiad hi yn hollol glir. Cofiaf [hofed] William Harries (1889 – 1891), Phillip John ( 1891-1893) a David Edwards

 

 

[MS 1151_0003]

 

(1893 – 1894) yn weision yn Budloy a chredaf fy mod yn cofio Vaughan Harries ( 1888-1889) a hyd yn oed Enoch John ( 1886 – 1888) er nad oeddwn yn llawn pedair oed pan yr ymadawodd ef.

 

Yn awr at yr holiadur :

 

par 1 : Amser codi arferol .  Y peth cyntaf a ddylwn ei ddweud yw mai fy mam ( gwraig y tŷ) oedd yn codi gyntaf ( os na fyddai yn sal) dros yr holl gyfnod o 20 mlynedd a hi fyddai yn galw ar bawb arall i godi,a phawb arall ( ac eithrio’r plant pan yn ifanc iawn) yn codi yr un pryd. Gwaith cyntaf fy mam oedd paratoi cwpanaid o de ( dim bwyd ) ar gyfer pob un a fyddai yn codi fel y gallai pawb gael hynny cyn mynd allan ond nid y frecwast ydadd y te hwn. Nid oedd enw arno o herwydd nid oedd yn pryd bwyd.

Rhaid dweud ymhellach mai amser codi o ddechrau neu ganol mis Mawrth hyd o leiaf ddiwedd mis Medi oedd 5 am ( gydag eithriadau) ac am y gweddill o’r flwyddyn

[ ….oidd] effeithiol y gaeaf, 6 a.m. 

Yr eithriadau mwyaf pwysig i 5 am yn yr “haf” ydoedd dyddiau lladd gwair naill ai gartref neu pan deui i ladd gwair ar dyddynod neu ffermydd cyfagos. Y mae gennyf rithe cof am gwmni o bladurwyr wedi dod i ladd gwair yn Budloy ac wedi dod i mewn i frecwast. Na gallai hynny fod yn ddiweddaradd na 1889 o herwydd cawsom beiriant lladd gwair yn gynnar iawn a gall yn iawn mai 1888 oedd y flwyddyn.

  Wedi i’r peiriant lladd gwair dod, er nad enillem ond swllt yr erw am wneud hynny,elem i ladd gwair pobl eraill. Ery gallai fod y gwlith yn drwm ar y gwair oedd ias ladd,yr oedd codi yn fore at y gwaith yn gwneud y gwaith yn haws I’r ceffylau na [….. caeau] yn lladd gwair ym mhoethder y dydd. Heblaw hynny bydden yn gadael lladd gwair tua naw o’r gloch er mwyn mynd, weddill y ddydd i gwiro ( GWȊRO = gyweirio) gwair oedd eisoes wedi ei ladd naill ai gartref neu ar lefydd cyfagos.Pan fydd un yn lladd gwair felly,codem rywbryd cyn pedwar o’r gloch y bore. Fel enghraifft yr wyf yn hollol sicr o hon; ar fore yn 1908 pan oeddem yn mynd i ladd gwair yn y Gotty Uchaf,galwodd fy mam ar fy mrawd a minnau i godi ychydig wedi dau o’r gloch y bore ac yr oeddem yn cydio’r ceffylau wrth y peiriant am dri o’r gloch – cyn bod y dydd wedi goleuo! Ond eithriad oedd codi cyn tri o’r gloch, ac ar wahan i fod fy mam yn codi i’n galw a pharatoi cwpanaid o de i ni,byddai pawb yn aros yn eu gwelyau hyd bump o’r gloch.

        Eithriad arall, hyd tua 1905, oedd bod rhaid codi yn foreach nag arfer pan fyddai gennym ŵyn i fynd i ffair Maenclochog. Un rheswm am hyn oedd bod ffeiriau Maenclochog yn agor yn gynnar yn y bore yr amser hwnnw. I ateb hynny, rhaid oedd cael y defaid adref o’r mynydd a bod yr ŵyn oedd i fynd i’r ffair wedi eu nodi ( a nôd coch) y diwrnod cyn hynny ac nid gwaith bychan ydoedd hynny gan nad oedd gennym yn Budloy gi defaid a allai eu casglu ac anaml iawn oedd cwn o’r fath ar ffermydd y cylch. Yr oedd y defaid felly yn wyllt iawn a’r ŵyn yn wylltach na hynny ar ol eu gwahanu oddiwrth eu mamau.Yr oedd y cloddiau hefyd y rhan fwyaf o’r ffordd o Budloy i Faenclochog yn foel iawn a’r ŵyn yn ceisio dal ar bob cyfle i ruthro yn ol tuag adref. Gau fod miloedd o  ŵyn yn mynd i ffeiriau Awst a Medi a llawer iawn o’r rhai hynny mor ddilywodraeth a’r lŵyn ninnau, yr oedd rhaid ceisio cyrraedd Maenclochog tra yr oedd y ffordd yn gymharol wag o heidiau o ŵyn neu byddai yr heidiau yn mynd yn gymysg.

            Rhaid hefyd oedd codi yn gynharach os byddai gwartheg i fynd i ffair Dreletert ac yn arbennig os byddai rhai i fynd i Ffair Feigan ger Eglwyswrw ym mis Tachwedd,a chroesi’r Preselau dros ben Bwlch Gwynt i gyrraedd yno. Yn y gaeaf,hefyd,cyn chwech o’r gloch i fynd ag ymenyn i farchnad Arberth bob dydd Iau ac y cymerai dau awr i gyrraedd yno.

 

Yr oedd pob un a’i waith neu [ ard…l] arbennig cyn brecwast. Yr oedd y benywod yn godro, yn rhoddi llaeth i’r lloi bach,yn y gaeaf yn rhoi “ hwtsh” ( moethfwyd) i’r gwartheg blith ac yn golchi’r llestri godro cyn brecwast,ac,yn yr haf, yn paratoi llaeth at wneud caws.

           Pan ddeuthum i yn ddigon hen i wneud hynny,fy ngwaith i cyn brecwast oedd mynd i’r mynydd i rifo’r defaid a’r wyn i weld nad oedd un ar goll a hefyd i weld nad oedd

 

 

[MS 1151_0004]

un ddafad nac oen yn afiach neu yn cynrhoni. Gwaith fy nhad cyn brecwast oedd ( yn y gaeaf) bwydo’r gwartheg a’r lloi oedd yn y beudai a’r rhai hesb oedd allan yn y caeau,ac yn yr haf i weld bod y gwartheg o bob oedran yn iach a hefyd y rhai hynny o’r defaid nad oedd ar y mynydd. Gwaith y gwas ( neu fy mrawd ar ol i’r gwas diwethaf ymadael) ydoedd bwydo’r ceffylau, eu glanhau a’u trwsio gydag ysgrafell, brwsh a chrib,a charthu’r stabal.

 

Dysgwyliem i bawb fod wedi gorffen y gorchwylion hyn a bod yn barod am frecwast am saith o’r gloch. Nid oedd enw ar y pryd hon ond brecwast.

  Yn fy nghof cyntaf oll,a ninnau yn fychan iawn a mewn cadair uchel ar y cyntaf ( wedi hynny ar cadair gyffredin a Beibl trwchus mawr Peter Williams odditanaf) cawn i a’m brawd ( y ddau ifancaf o’r plant) ein brecwast yn y parlwr gyda’n tad a’n mam tra y rhaid bod fy nwy chwaer eisoes yn cael eu brecwast gyda’r gwas a’r forwyn yn y “rhwm ford” – ystafell hirgul y tu ol i’r gegin (Ni chofiaf neb yn cael pryd o fwyd yn y gegin ei hun erioed).

     Yn ol pob tebyg yr oedd fy nwy chwaer yn gynnar iawn yn cael yr un bwyd a’r gwas a’r forwyn ond[ mi] [ni] gallaf fod yn sicr beth ydoedd hwnnw. Yn anffodus,efallai,yr oedd oes yr uwd,a’r bwdran ( ond yn achlysurol iawn) eisoes wedi mynd heibio a bara a chaws gyda [llaeth] [the] oedd prif ddefnyddiau brecwast gydag ychydig fara – menyn i orffen. Ond brysiaf i bwysleisio bod y caws,er mai gwaith cartref ydoedd,o ansawdd uchel iawn am na thynnid yr hufen yn llwyr o lawer oddiwrth y llaeth a ddefnyddid. Yn wir,hyd yn oed yn awr,hiraethaf am y caws hwnnw yn fynych yn enwedig pan ( yn 1964) yn bwyta “ English Cheddar” neu hyd yn oed Cheshire neu gaws Caerffili.

      Yr oedd bara can ( = bara gwenith) a bara brown ( cymysg o gan a blawd barlys) ar fwrdd y parlwr gyda chaws a menyn ond ni chofiaf y manylion am yr amser cynnar iawn hwnnw.

Ni chofiaf y chwaith pa bryd yr aeth yr holl deulu gyda’i gilydd i gael eu brecwast yn y  “ rhwm ford” – digon tebyg mai ar ol i’r forwyn ddiwethaf ymadael yn 1891,ond cofiaf mai ein bwyd yn y rhwm ford i frecwast ydoedd bara brown ( fel uchod) a chaws          ( cartref,da iawn),ond ambell dro [   ] ysgadenyn hallt sych ( bloater) ac ambell dro wy yr un ar ol i’r pris ostwng tuag adeg y Pasg i ddimeu yr un ond nid oedd dim seremoni ynglyn ag wyau y Pasg,a [chelai] pawb yr un bwyd – gydag un eithriad. Yr oedd yr arferiad i halltu un crochenaid pridd o fenyn pan oedd y pris yn isel yn ystod yr haf ar gyfer ei ddefnyddio yn ystod y gaeaf ( a chadwai yn berffaith). Ond cadwai fy mam ychydig ymenyn llai hallt bob wythnos iddi hi ei hun ac ar gyfer dieithriaid a fyddai yn galw ar dro yn enwedig i de ar brynhawn Sul.( Gan y gwn am rai yn nhref Aberystwyth a garai gael “ menyn ffarm” o herwydd bod blas y llaeth enwyn arno,dylwn ddweud nad oedd fyth flas llaeth enwy)n ar’ fenyn Budloy – ni fyddai hwnnw yn cadw,ac nid oedd cwsmeriaid ‘menyn Budloy yn disgwyl blas llaeth enwyn).

 

Yr oedd “cadw dyletswydd” yn union ar ol brecwast yn ddeddf na thorrid [uchai] ar un cyfrif yn Budloy,a hynny bob dydd o’r flwyddyn. “ Darllen “ oedd ein enw syml ni am y gwasanaeth. Yn fy nghof cyntaf,tra yr oeddwn i yn cael brecwast yn y parlwr,deuai pawb oedd yn cael brecwast yn y rhwm- ford i’r parlwr cyn mynd allan ac eisteddem bob un ar gadair tra y byddai fy nhad yn darllen o’r Beibl. Pan orffenai ddarllen,troai pob un ( nid fy nhad yn unig) ar ei liniau wrth ei gadair a chofiaf yn dda batrwm sed fy stol dderw i hyd heddyw! Nid dewis darn o’r Beibl bob dydd ar antur a wnai fy nhad on dechreuodd (rywbryd) yn nechrau Genesis gan ddilyn ymlaen o ddydd i ddydd nes cyrraedd (rywbryd) ddiwedd Datgudiad,ac yna ail – dechrau yn Genesis. Yr unig rannau na ddarllenai oedd penodau nad oeddynt ddim ond rhibyn o enwau.Os oedd hyd yn oed un adnod yn y bennod o enwau oedd heb fod felly;darllenai honno,fel y mae yn rhywle son am rhyw Jabes y dywedir am dano rywbeth fel : “ A Jabes a alwodd ar Dduw” fel pe mae ef yn eithriad.

                                  Ond pan y daeth y pedwar o honom ni,y plant,i fedru darllen yn weddol dda, y ni oedd,pob un yn ei dro,yn darllen “ y bennod”. Nid pennod gyfan mohoni o anghenrheidrwyd. Amcanni fy nhad at rywle rhwng 20 a 30 o adnodau bob dydd fel os oedd pennod tua 35 o adnodau neu fwy,rhannai ef y bennod yn ddwy ran gan nodi’r man yr oedd y rhanni i fod. Yr un mod,gosodai dwy neu ragor o’r salmau at ei gilydd i’w darllen yr un bore. Felly,yng nghwrs amser elem,yn

 

 

[MS 1151_0005]

 

ymarferol, drwy’r Beibl i gyd ac mi gwn pa sawl gwaith yr aethom drwyddo fel hyn yn ystod yr ugain mlynedd. Yr unig droion pan na chedwid y drefn hon oedd pan y byddai pregethwr yn aros gyda ni a byddai hwnnw yn darllen ac yn gweddio.

        Ni chofiaf yn bendant beth a ddigwyddodd yn ystod gaeaf 1904-05 pan fu fy nhad yn (wael) ond credaf i ni gario ymlaen i ddarllen fel arfer ond heb y gweddio o herwydd ni chofiaf i fy mrawd na minnau gymeryd y weddi er y gallwm wneud.

 

2.   Ydoedd,yr oed yn arferol i gael “ te deg “ tua deg o’r goch y bore a’r rhai oedd yn gyfleus yn agos i’r dŷ ar yr amser hwnnw,ond ni cherid “ te deg “ i’r caeau i neb.Rhaid oedd mynd i’r ty i’n gael. Anbell dro gelwid ef yn “lwnsh” ond ni chyfrifid hwn yn “bryd” o fwyd – cwpanaid o de a darn bychan o gacen.

 

3. Deuddeg o’r gloch ( hanner dydd) oedd amser cinio. Ni fu fy nhad yn berchen watch erioed. Os byddai ef allan ar y caeau yn aredig neu wrth ryw arall,elai fy mam allan i ben clawdd yr Offt a rhoddai ysgrech o fath arbennig ( un soniarus ddigon o herwydd yr oedd ganddi lais soprano da ) ychydig cyn deg o’r gloch. Os na chlywai fy nhad,clywai y ceffylau a cherddent ymlaen yn fwy cyflym nes mynd a’r gŵys i’r dalar a throant yn ol i gael yr aradr i’r tu ar gyfer y tro nesaf ond nid aent ar un cyfrif fwy na thua phum llath.Dibynnai rhai gweithwyr eraill ar yr ysgrech honno fel y gwnai Euros Griffiths oedd yn gweithio yn y Bla’cnwc Uchaf. ( “Blacknwalk” B.G Charles ond yr wyf yn sicr mai Bla’cnwc sydd yn iawn =Blaencnwc ). Digwyddodd un diwrnod bod fy nhad i “ollwng” am unarddeg o’r gloch yn lle deuddeg ac aeth Euros adref i ginio!

     Byddai pawb yn cael yr un bwyd i ginio. Cawl-cig-mochyn gyda bara a ddelai cyntaf gyda thatws a dail ( cabbage) ynddo.Nid oedd cennin ynddo am nad hoffai fy nhad hwy ond codid phiolaid o gawl heb gennin I fy nhad a gosodid cennin heb eu berwi ond wedi eu torri yn weddol fan yn phiol pob un arall ( a dyna,heb yn wybod i ni,gael y goreu o’r fitaminiau oedd ynddynt). Ar ol y cawl, cig mochyn a thatws ac yn fynych erfin ( swedes) a/neu ddail (cabbage). Anfynych iawn y ceid moron o herwydd defnyddid y rhai hynny i gael e sudd i liwio’r ymenyn – a dyna eto,heb yn wybod i ni,ychwanegu fitaminiau y moron at yr ymenyn a’r rhai hynny fel y gwyddys erbyn hyn yn rai pwysig iawn.

        Llewni pwdyn reis-a-llaeth yn fynych i orffen cinio.

        Ond nid oedd cinio mor unffurf ac unflas ag yr ymddengys o herwydd gyda’r uchod yr oedd winwns ( onions neu shallots) neu Dail Cochion ( red cabbage) wedi eu piclo.

       Ar amser cynhaeaf llafur [bron] bob tymor hefyd lladdem oen a [chaem] gig hwnnw wedi ei rostio neu ei ferwi am dro. Peth lled gyffredin hefyd oedd cael cyw iar wedi ei ferwi neu ei rostio,neu hwyaden wedi ei rhostio. Adeg lladd mochyn hefyd delai llawer o “gig mȃn” gan gynnwys yr afu a’r ysgyfaint a’r “ haslet” – y clustiau a’r traed- ond ni wnaem ni ddefnydd o’r coluddion. Elai hyn ym mhellach nag yr ymddengys o herwydd yr oedd yr arferiad I rannu “cig mȃn” y mochyn rhwng cymdogion a chael peth yn ol yn ein tro yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn cynnar.

             Yn rhyfedd iawn,ni chofiaf i ni gael gŵydd i ginio ond un waith er ein bod yn magu gwyddai. Rhaid oedd gwerthu’r rhai hynny i gyd ar gyfer y Nadolig a chael pris cymharol uchel am danynt, ac yna brynu cig eidion ar gyfer gwledd fawr y gaeaf – yr Hen Ddydd Calan ar Ionawr 12.( Nid oedd y Nadolig yn ddydd Gŵyl yn yr ardal).

            Rhaid hefyd son yn arbennig am ginio’r cynhaeaf gwair.Yr oedd cyd- ddealldwriaeth drwy’r holl ffermydd yn y fro mai cawl yn cynnwys tatws a “dail” (cabbage) gyda bara ( a chaws ar y ffermydd) oedd cinio i bawb ( Gwelais dros 40 o bobl yn Budloy ar ddiwrnod cywain gwair y Weinglodd) fel nad oedd yn faich ar y  tlotaf o’r tyddynwyr. Yr unig eithriad ydoedd dydd cywain gwair y gweirglodd isaf y Barnaswil (Bernardswell) Isaf oedd yn rhy bell o’r ty. Yno,ar y dydd hwnnw yn unig,ceid cawl a chig mochyn yn dilyn a hynny allan ar y cae. Cawl cig mochyn hefyd oedd ar bob ffarm a thyddyn ond ar ffarm Barnaswil Uchaf a chawl cig eidion oedd hwnnw wedi ferwi ar dan mawn a blas mwg y mawn yn lled gryf arno! { Gweler isod am ginio dydd Sul}.

 

4. Ar ffermydd yn gyffredin,byddai tê ( dyma’r enw’r pryd) rhwng tri a phedwar o’r

 

[MS 1151_0006]

gloch ac oes oedd rhyw un yn gweithio allan ar y caeau, dygid y “tê” ato – te a bara-menyn, efallai gydag ychydig gacen oedd y pryd bwyd hwnnw ac yn y man y byddai dyn yn gweithio y bwyteid ef.Yr oedd hyn hefyd yn wir am y cynhaeaf gwair a’r cynhaeaf yd. Dim ond yr unigolion a fyddai yn ymyl a elai i’r ty i gael “te”,ond ar ddiwrnod cywain gwair, elai y rhai oedd yn gweithio yn yr ydlan i’r ty i gael tê.

 

5. Saith o’r gloch oedd amser swper ( a dyna’r enw ar bryd bwyd yr hwyr). Amrywiai y fwyd ar swper gryn lawer. Fynychaf, cawl o ginio wedi ei aildwyma fyddai,ond gallai fod yn fara-a-llaeth; reis ( rice) -a – llaeth ( yn fynych gyd cwrens ( currants) drwyddo; bwdram (o flawd ac eisin ceirch heb ei ogryn ond wedi ei wlycho (soaked) ac wedi suro ychydig; [   ] ( o [  ] a chyda chwrens eto),neu rywbeth arall,ond anfynych iawn y ceid cig i swper.

 

Dydd Sul     Dylwn ddweyd yma,megis mewn cromfachau bod dydd Sul yn wahanol i’r dyddiau eraill. Yr oedd rhaid mynychu’r gwasanaeth crefyddol yn y bore, y prynhawn,a’r hwyr ac yr oedd yr amser felly yn brin i baratoi bwyd.                              

   

 Byddai y gwas a’r forwyn yn mynd i’r cwrdd i’r lle y mynnent yn y bore ac wedi hynny yr oeddynt yn rhydd hyd amser tê yn y prynhawn. Gallent ddod adref i Budloy i ginio os mynnent, ond fynychaf elynt i’u cartrefi hwy eu hunain.

   Ar gyfer cinio yn Budloy, paratoid sospanaid o datws ac ar draws wyneb y tatws taenid tafellau tenau o gig mochyn ( hallt,wrth gwrs) gyda digon o ddwr I orchuddio’r cwbl.Gosodid y sospan ar bentan agored y gegin lle yr oedd tan “cols” ( wedi ei wneud o fȃn–lo glo caled),neu,yr oedd yr sospan yn rhannol ar y pentan ac yn rhannol dros y tan. Gosodid y sospan yno am 9.40 pan y byddem yn cychwyn i’r cwrdd neu yr ysgol Sul ( fel y digwyddent bob yn ail Sul), a byddai y ginio yn agos i fod yn barod erbyn y byddem yn dychwelyd rywfaint cyn deuddeg o’r gloch.

   Rhaid eto gychwyn i gyfarfod y prynhawn am 1.40 ond byddem adref drachefn dipyn cyn pedwar o’r gloch. Yr oedd y gwas a’r forwyn yn dychwelyd i de a chaent hwy eu te yn y rhwm-ford ond caent fara-menyn can ( blawd gwenith) i de ar ddydd Sul.

      Hyd nes yr oeddwn yn ddeg oed ( neu efallai fwy) yr oedd ein gwenidog yn ddyn di-briod a phob pythefnos pan fyddai ef yn pregethu yn Horeb yn y prynhawn a’r hwyr,deuai i Budloy i de ac efallai y deuai rhywun arall hefyd. Nid oedd digon o le i ni,y pedwar plentyn,gyda’r tri neu pedwar lyn wrth ford y parlwr a rhaid oedd i ni ddisgwyl tan y byddent hwy wedi gorffen,ond yr un bwyd a geleni – te a bara-menyn can wedi ei dorri yn denau a chyda rhyw fath o jam ac efallai darn o gacen neu flasusfwyd arall i orffen.

         Bob yn ail Sul a’r gweinidog,delai y codwr canu, Tom John, Penrallt atom i de o’r ysgol Sul ermwyn iddo allu bod yng nghwrdd gweddi yr hwyr. Yr oedd yn byw yn rhy bell o’r Ty Cwrdd i allu gwneud hynny os elai adref.

         Yr oedd Swper nos Sul yn dipyn o broblem am y byddai fy mam erbyn hynny wedi blino oblegid yr oedd dydd Sul yn ddiwrnod trwm iddi hi. Ni chofiaf beth oedd y swper arferol ar nos Sul ond saif un nos Sul allan ar fy nghof am ei fod yn eithriad clir. Yr oeddem yn “macsu” ( gwneud tablen – cwrw brag diniwed ) yn achlysurol drwy’r flwyddyn – at Hen Ddydd Calan; at y cynhaeaf gwair, ac at y cynhaeaf medi.-Nid oedd “ Dirwest” ( Llwyrymwrthodiad) eto wedi cydio yn yr ardal er bod Gobeithlu yn y Tabernacl, Maenclochog, ac yr oedd pob ffarm yn macsu fel hyn ond neb byth yn meddwi ar y “dablen”. Felly, nid oedd dim allan o le yng waith fy mam yn awgrymu mai “ bara-chaws a thablen” a gaem i swper y nos Sul hwnnw,ond nid oeddwn i yn hoffi bwyd felly,a dyna paham y cofiaf yr amgylchiad ond ni wrthryfelais. Rhaid mai rhyw bryd yn 1895 yr oedd hyn, a ninnau yn ddeg oed ac nid aethum yn llwyrymwrthodwr hyd nes yr oeddyn yn 12 oed ( ar hynny ar fy mhen fy hun yn y teulu). Pan y codod  Tom Owen Obeithlu ymhen tua dwy flynedd wedi hynny drachefn yn Horeb, er nad oeddwn i yn credu mewn ardystio, gwasgodd ef arnaf i ymuno ac fe wnes, ac o’r amser hwnnw y daeth yn arferiad yn Budloy bod yno ginger beer i ddisychedu llwyrymwrthodwyr yn y cynhaeaf gwair a’r cynhaeaf yd, a daeth hynny yn arferiad cyffredinol ar yr holl ffermydd ( gyda thablen) oblegid yr oedd y rhan fwyaf ( ond nid pawb) o’r plant a fyddai yn gadael yr ysgol-bob-dydd erbyn hyn yn llwyrymwrthodwyr a buont felly am rai blynyddau er mai ychydig o honynt a barhaodd felly, fel y gwnes i, hyd y diwedd.

 

6. Yr oedd godro yn y bore yn dod rhwng y cwpanaid yn syth ar ol codi a brecwast am 7 o’r gloch, a’r

 

 

[MS 1151_0007]

godro’r prynhawn yn dod rhwng tê’r prynhawn a swper am 7 o’r gloch – trefniant da iawn, gyda llaw, i gadw’r gwartheg rhag mynd yn hesb am fod y ddau gyfnod rhwng godro yn ogyhyd.

  Yr oedd piriant dyrnu wedi godi yn Budloy yn 1869 ond gallwn feddwl mai gwaith ar ol swper oedd dyrnu a ffustiau yn ffarm y Dyffryn, y tu arall i’r cwm o herwydd pan elem ni allan i swpera’r anifeiliaid am wyth o’r gloch yn y gaeaf,clywem swn y ddwy ffust yn gweithio mor gyson a phendil cloc – John, y tad, a Dafi’r mab bob yn ail ergyd.

            NId oedd yn arferiad ond yn achlysurol iawn i wragedd i ymweld a’u cymdogion – peth hollol anghyffredin a fyddai hyn. Yr oedd bywyd cymdeithasol y gwragedd bron yn llwyr yng ngwaith y Ty Cwrdd – ar y Sul yn arbennig, ac i fesur llai, y cwrdd gweddi bob nos Wener ( nos Iau yn ddiweddarach). Yr oedd y gwragedd yn rhy brysur yn ystod y dydd – yr oedd golch mawr iawn o ddillad dydd Llun; stilo            (ysmwddio) dydd Mawrth; corddi a gwneud ymenyn dydd Mercher; mynd a’r menyn i farchnad Arberth (10-12 milltir) dydd Iau, a phobi bara dydd Gwener. Rhaid oedd glanhau’r ty drwyddo dydd Sadwrn a’i gael yn barod ar gyfer y Sul. Hefyd,yr oedd rhaid gwneud gwaith dydd Sadwrn yn lle dydd Sul – cael bôls i’r ty; cael dwr o’r ffynnon etc o herwydd nid oedd cario bôls i’r ty na chario dwr o’r ffynnon i fod ar un cyfrif ar ddy’ Sul. Yr oedd rhaid trefnu bwyd ar gyfer yr anifeiliaid dydd Sadwrn ar gyfer y Sul – malu’r eithin i’r ceffylau nos Sadwrn i gael digon dros y Sul a gofalu bod digon o wair yn y pasetsh ( passage – mi ddefnyddiwm ni y gair “bing”). Os neu pan yr elai gwraig y ty i weld un o’i chymdogion,yn y prynhawn y byddai hynny fel yr elem i weld rhai o’r perthnasau a oedd o fewn cyrraedd.

                                                               Yr un fath gyda’r dynion ond byddai y gwas yn rhydd ar ol swper i fynd lle y [    ] os na fyddai rhyw waith arbennig iawn ac fe ddaeth amser ( ar ol y cyfnod arbennig y soniaf fi am dano) pan yr elai gwas oddicartref ar ol swper pa waith bynnag a fyddai ymlaen. Yn gyffredin, mynd i bentref Maenclochog a wnai y bechgyn ifeinc, i gwrdd a’i gilydd yno, ond eithriad mawr a fyddai i neb o honynt fynd i mewn i dafarn. Elai rhai i weithdy Jac Jac (John John) y crydd ond ychydig o le oedd yno. Ambell dro,deui o’r naill ffarm i’r llall – ond i’r stabal y byddai hynny ac nid i’r “ ty byw”. Ar wahan i’r cynhaeaf gwair hefyd pan yr oedd pawb o fan cylch yn helpu ei gilydd a dynion a merched yn mynd o’r naill ffarm i’r llall, codai ambell neges a chaent felly gyfle i weld yr ardd,gweld rhai o’r gwartheg ac efallai rai o’r defaid. Yn yr haf, byddai gwraig y ty yn dangos yr ardd i bod ymwelydd ac yn dangos y caws ( y cosynnau – rai o honynt) ar lofft arbennig o dan dô gwellt – y lle gorau i aeddfedu caws. Byddai hithau hefyd yn y gaeaf yn dangos y mochyn tew a’r lloi a fyddent yn cael eu magu. Os byddai amser gan yr ymwelydd gwrryw yn ystod y dydd, dangosai rhywun y beudai, y gwartheg godro, ac yn enwedig y tarw iddo.

                                    Nid oedd enw arbennig o gwbl ar neb o’r ymweliadau hyn, o herwydd damweiniol yn hytrach na bwriadedig yn ol cynllun a threfn oeddynt.

 

7. Yn yr haf,ychydig iawn o amser oedd gan feibion ffermydd am fod gwaith y ffarm yn ddiddiwedd, ond cofiaf yr arferai fy mrawd a minnau ambell dro chwareu coits ( quoits) gan ddefnyddio at hynny bedolau ceffylau trwm. Ar ol glaw, awn i bysgota brithyllod yn yr afon Syfnau ( nid oedd eogiaid yn ein rhan ni o’r afon).

      Yn y gaeaf, yr oedd cwrdd gweddi ( fel yn yr haf ) bob nos Wener a chwrdd Gweddi Cenhadol bob nos Lun cyntaf yn y mis. Gwelais fy nhad ( gwr y ty ) ar adegai yn  gwneud cewyll gwiail a hefid yn gwneud  lipau o wellt a drysni – yn union fel y dangoswyd rhywun yn gwneud ar y teledu rywbryd ym mis Chwefror (?) eleni (1964) ond bod fy nhad yn defnyddio drysni ( mieri ) hir iawn – y rhai hiraf y gallai ei cael. Ni ddywedwyd ar y teledu drwy ba beth y tynnid y gwellt wrth wneud lip er mwyn ei gael yn dynn iawn ac yn gyson o ran trwch ond darn tua dwy fodfed o hyd o corn buwch a ddefnyddai fy nhad am nad oedd berygl i hwnnw hollti. Peth arall oedd gwneud penwast neu goler i geffyl o frwyn wedi eu pwyno a’u sychu ( dyma hefyd ddefnydd llyffetheiriau defaid. Bum ninnau yn ceisio gwneud rhai o’r pethau hyn o dro i dro.

Yr oedd adnodd storiau ar aelwyd y gegin hefyd yn ran o’n hadloniant a gwneud maglau o wifrennau pres main i ddal cwningod ac i lanw’r amser,darllenem lyfrau ond yr oedd y rhai hynny yn brin. Cofiaf yn arbennig er hynny am y gwas Phillip John (1891-1893) yn darllen “ Taith yr Pererin” ar aelwyd Budloy.

            Deuai y papur wythnosol, “Welshman” ( Caerfyrddin) i’r ty bob wythnos a hefyd “Seren Cymru” gyda’r misolion, “ Yr Athraw”, “ Seren yr Ysgol Sul” ( o’r pan yr ymddangosodd gyntaf); Cymru’r Plant ( [ yr un fath])

 

 

[MS 1151_0008]

ond yn fy machgendod cyntaf a thros hynny,nid oedd dim yn “ Yr Athraw” i’m diddori i ond y posau ar y diwedd a’r “difyrion” ar y tudalen ddiwethaf. Yr oedd “Seren yr Ysgol Sul” yn hollol wahanol, ond ar y cyfan, yn rhy debyg i “ Drysorfa’r Plant” yn yr hwn yr oedd gormod o lawer o gofiannau plant a oedd lawer yn rhy dda i fyw! “ Cymru’r Plant” oedd o ddigon y goreu o’r misolion hyn a chofiaf o hyd am rai o’r pethau oedd ynddo fel “ Y Goedwig Ddu” gan ryw Winnie Parry; “ Y Ddau Hogyn Rheiny ”,” Cwn adwaenwn I ”, a “ Pawb a’I gig ei hun “. Yn fuan ar ôl gadael yr ysgol yn bedair-a- ddeg oed ( ddiwedd Mawrth,1899 ) dechreuais i dderbyn “ Y Geninen” ( Eifionydd ) drwy garedigrwys Ben Phillip, y gof, y Môt ( New Moat ). Cawn hi am naw ceiniog y rhifyn ( yn lle swllt ) ganddo ef. Yna ym mhen blwyddyn neu ddwy cefais, ar gymhelliad Brynach Davies fel beir[n]iad eisteddfodau lleol i rai na wyddent ddim am englyn,prynais “Ysgol Farddol” Dafydd Morgannwg, a bum yn astudio digon ar honno i fedru gwneud englyn cywir ei gynghaneddion ( ond gwael ei farddoniaeth) ac i ennill am englyn mewn eisteddfod fechan leol.

         Yr oeddwn flynyddau cyn hynny ym mhell – pan oeddwn tua wyth neu naw oed – wedi cael yn rhoddion ddwy nofel Saesnaeg ond nid wyf yn sicr pa un o’r ddwy, “Jacob Faithful” ( Captain Maryat) a “The Vicar of Wakefield” ( Oliver Goldsmith) ac wedi eu mwynhau yn fawr iawn – nid wyf yn cofio pa un o’r ddwy a ddarllenais gyntaf.

     Beth bynnag,nid oedd gennym lawer o amser ar law hyd yn oed yn y gaeaf. Nid oedd dim amser rhydd hyd ar ol swper ac wyth o’r gloch ar ei ben ydoedd yr amser i fynd allan i roddi eu swper i’r  ceffylau, y gwartheg godro a’r anifeiliaid hesb a oedd yn y beudai dros nos. Gan ein bod yn codi am chwech o’r gloch y bore,rhaid oedd mynd i’r gwely am naw neu ychydig wedi hynny,ac yr oedd rhaid i bawb fod adref erbyn deg o’r gloch o herwydd cloid y drws pryd hynny. Os byddai bachgen o was yn dewis cysgu ar llofft y staba yn hytrach nag yn y ty, gallai ddod adref pa bryd i mynnai. Arferai fy mrawd a minnau ddarllen am dro ar ol mynd I’r gwely ( yr ail ran y cyfnod ) a’r pryd hynny y darllenais i rai o lyfrau Charles Dickens am y tro cyntaf. Cofiaf yn arbennig ddarllen Barnaby Rudge yn y gwely wrth oleu canwyll.

 

8. Cyfeiriais eisoes at rai pethau a oedd yn wahanol fel bwyd cynhaeaf gwair; lladd oen ar gyfer y cynhaeaf “llafur”, a’r gwahaniaeth ar ddydd Sul. Nid oedd cneifio yn waith mawr i ni gan nad oedd yn Budloy ond tua 60 o famogiaid i’w cneifio ac nid oedd y dyrnwr mawr yn dod i Budloy am fod gennym ein dyrnwr a weithnid gan [rod] ddwr oddiar 1869.

 

9.Ystafelloedd:- Nid oes gennyf fesuriadau ond rhywbeth fel hyn oedd ystafelloedd llawr y “ty byw” gydag atodiad i’r de- ddwyrain

          1) Y cyntedd ond heb enw iddo

           2) Y grisiau isaf i’r llofft.

           3) Y Gegin gyda’r rhif (3) ar y man lle yr oedd trawst y shime fawr.

            4) Ffwrn crasu bara

             5) Bwyler (boiler) mawr iawn (Pair wedi ei adeiladu i mewn)

6) Yr aelwyd fawr y tu hwnt i’r drawst y shime fawr.

 

7) Odyn crasu yd – gwelai ei defnyddio at hynny

8) Y rhwm – ford ( gwel yr ysgrif)

9) Y deiri ( ni ddefnyddiem ni y gair llaethdy ).

10) Y rhwm -bach - lle yr oedd y cwpwrdd bara ( a’i barilau tablen pan fyddai diod fain yn bod.

 

11) Y Parlwr – yr ystafell barchusaf ond nid “ ystafell barch” yn unig o bell ffordd.

12) Y selar – o dan y grisiau i’r llofft.

13) Y gegin mȃs.

14) Adran i’r “cols” at danwydd.

15) Ty’r ieir a’r hwyaid ( dros nos ).

 

Trefn ystafelloedd y llawr: nid ydynt “to scale” ond y mae’n wir mai y gegin oedd yr ystafell fwyaf o lawer. Nid oedd fynedfa o’r “ty byw” i’r gegin mȃs o gwbl.

 

Codwyd y “ ty byw “ a’r tai eraill yn y sefyllfa y maint heddyw yn ( neu thua) 1884 – ar ormod o lethr o lawer a’r sylfeini yn nhy fȃs fel yr oedd y [   ] wedi ei olchi oddiwrth sylfeini wal y ffrynt cyn fy nghof i.

 

T.J.Jenkin.

 

Mis Mawrth,1964

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment