Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Notes by Bethan Hughes, Rhydlewis, Llandysul on foods and housekeeping on farms in the area 'about 60 years ago'. Response to Welsh Folk Museum questionnaire, 1970.


Transcription

 

[MS 1689_0001]

 

Bethan Hughes, Penffin, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion

Patrwm bwydydd a chadw tŷ ar fferm – tua 60 mlynedd yn ôl

Bwyd yn nhymer y gaeaf

Bwyteid cawl I ginio ran amlaf ac eto I swper neu hyd yn oed trannoeth fel cawl aildwym.

Prydiau ereill – Brecwast – te, bara ymenyn a chaws  naill ai gwenith neu farlys oedd y bara. Bwyd arall: brecwast oedd maidd a bara barlys

Cinio – adeg cynhaeafydd, sican bob amser ac efallai ar adegau ereill hefyd.

Cawl o gig mochyn gyda bresych a moron ynddo ambell waith wedi ei dewhau gyda dyrnau o flawd gwyn ne flawd ceirch. Yr olaf oedd yn gwneud y cawl mwyaf blasus. Llenwid y cawl â bara ac ambell dro bwyteid llond basn dato wedi ei malu ar ôl y cawl. Byddai'r rheini'n bwyta tatw a chig mochyn ar plât.

Bwyteid potes – darn o gig eiden neu ddafad wedi ei ferwi ynddo.

I blant ysgol gwneud doeyn o bara farlys ac ymenyn a chaws fel ginio.

Roedd bwyta cinio twym yn reidrwydd ar  fferm bob dydd.

 Te – diod oedd te. Shot (blawd ceirch yn cael ei roi mewn powlen a'i llenwi â llaeth enwyn). Bara a chaws neu ymenyn. Abell waith byddai rhyw fath o gacen ar y bwrdd.

Swper – cawl aildwym neu cawl llaeth wedi ei wneud o geirch. Bara a llaeth neu bara farlys i'r tlodion. Yn y gaeaf bwyteid bwdren amser âi'r grwartheg allan i'r borfa. Gwneid hwn o flawd ceirch a dŵr wedi ei hilio ac yna ei ferwi.

Amserau prydiau

 

 

[MS 1689_0002]

 

Brecwast – 7 o'r gloch

Te 10 haf yn unig. Bara barlys a chaws a chwpanaid o de.

Cinio – 12

Te prynhawn tua – 3-3.30

Swper – 6-7 o'r gloch

 

Ceid y bwyd gorau yn yr hydref  adeg lladd mochyn pryd y gwneir “faggots” ac yn y blaen allan o'r briwfwyd. Adeg y gwanwyn byddai mwy o wyau i'w cael. Nid oedd llawer o amrywiaeth o un diwrnod i'r llall pan oedd bwyd yn y cwestiwn. Os ai rhywun i'r farchnad efallais prynnir sgadan. Byddai hwn naill ai n cael ei fwyta yn ffres ynteu ei cael ei hallti. Mewn ardaloedd môr fel Cei Newydd roedd sgadan bwyd yn eithaf cyffredin.

 

Bwyd y Sul

 

Ystyried cyw iar neu hyd yn oed cig ffres yn [folltyn] Byddai pwdin reis: pwdin efallais a cheid bara gwyn yn lle bara ceirch i de yn aml.

Fel rheol roedd prydiau Sul yn well. Prydiau twym a geid bob amser a chawsai r cawl ferwi tra byddai'r teulu yn y capel neu'r eglwys os cawl fyddai I ginio.

Ar y fferm y wraig fyddai'r paratoi'r bwyd ond ar ambell i fferm cawsai'r forwyn fawr wneud y bwyd ar gyniatad a chyfarwyddid y wraig.

 

Ysyfeloedd y tŷ – cegin, parlwr, llaethdy, roombord – paratoid y bwyd yn y roombord a fe gedwid bwyd yn y llaethdy. Roedd cadw bwyd yn problem. Cawsai'r sgadan fygy yn y simne fawr. Cig mochyn - ei halltu a'i hongian o dan y lloft. Bara - cedwir hwn o un wythnos i'r llall o dan y lloft. Rhoir y cig ffres ar fflagen oer yn y llaethdy. Mae rhyw son am gladdu rhai bwydydd wedi eu gorchuddio â dinad polthion

 

 

[MS 1689_0003]

 

Bwyteid y prydiau yn y roombord. Ambell dro bydai'r pen teulu a'r wraig yn bwyta ar ford gron o flaen y tân a'r  wahan i'r gweision. Pan fyddai crefftwyr yn ymweld bwytaent gyda'r gwedill y teulu.

Offer cegin

   Ar gyfer digoni cig - bachyn i'w hongian cyn coginio i'w hongian i'w wneud yn feddal. Ran amlaf fe'i digonid mewn fwrn gast gyda chaead iddo. Byddai hwn yn cael ei roi ar y tân glo. I ochr dde y tân glo ceid ffwrn fach a boiler i'r  ochr chwith fel arfer.

  Roedd offer bwyta bwyd yn cynwys llwyau pren a ffiolau, cyllell a ffyrc haearn - ffyrc tair pig a choesau asgwrn. [Trenshiwrn] a ffiol pren a ddefnyddid ar gyfer bwyta bwydydd llwy.

Prynnid yr offer yma yn y ffeiriau gwledig fel rheol ond byddai crefftwyr lleol ar gael hefyd e.e. twrner lleol i wneud llestri llaeth a thrwnshiwyr ymenyn offer i scimo llaeth. Y mannau poblogaidd yn Sir aberteifi oedd ffeiriau Llanybyther ar Dachwedd 1af a Chapel Cynnon.

Ceid y llestri pridd o'r trefi a byddai nifer o siopau gwledig yn cadw amrywiaeth gweddol hefyd.

Yr Wythnos waith

Dydd Llun - golchi dillad

Dydd Mawrth – Sychu a chrasu'r dillad. Cwyro dillad a'u tacluso.

Dydd Mercher – corddu

Dydd Iau -

Dydd Gwener – Glanhau'r tŷ a phobi bara.

Dydd Sadwrn – Paratoi ar gyfer y Sul. Glanhau'r esgidiau gyda ired a rhyw fath o stwff i dduo ynddo. Ysgibo'r clos

 

 

[MS 1689_0004]

 

Gloywi'r cyllell a'r ffyrc

Efallai cogino cig neu gawl ar gyfer y Sul – ei hanner ddigoni yn unig

Y Diwrnod Gwaith

Yr amser codi arferol ar y fferm fyddai pump o'r gloch y bore a phawb yn codi yr un amser. Roedd tipyn o waith i'w neud cyn brecwast fel codi'r hufen o'r llaeth yn y badell las a'i roi mewn crochan. Byddai llaeth glas (y gwedill o'r llaeth) yn mynd i wneud caws a'r hufen yn gwneud ymenyn wrth gwrs. Ambell dro byddai'r caws yn cael ei wneud cyn brecfast – rhoid cwyrdeb ar y llaeth i'w gurdlo yna tynnu'r dŵr gan adael maidd. Hwn fyddai'n cael ei colfrannu i wneud caws a roid yn y cawslist I ffurfio I gosyn.Yn yr haf arferid yn rhwbio'r badell llaeth â dinad polthion.

Mewn ambell deulu byddai gŵr y tŷ yn bwyta wyau I frecwast tra fyddai'r gweision yn cael cig mochyn gwyn ond mewn rhan fwyaf o ffermydd yr un bwyd fydda pawb yn ei fwyta.

Cedwid dyletswydd bob dydd ar ôl brecwast gyda pen teulu yn darllen rhan o'r Beibl ac yn gweddio.

Ceid cinio tua 12 gyda pawb yn bwyta'r un peth. Dilynid y pryd gyda cwpanaid llaeth neu llaeth enwyn ambell waith. Amser cynhaeaf byddai gwraig y  tŷ yn cario'r bwyd i'r caeau os fyddai tywydd teg yn brin i arbed y gweithwyr rhag coll amser. Cadwai ambell i wraig whistl yn y  tŷ ar gyfer galw dynion i fwyd.

Y gwaith bennyddiol – godro a dynnu a ffust cyn brecwast. Gyda'r nos – ymweld â chymdogion efallai. Gelwir hynny yn “mynd i gloncan”.

 

 

[MS 1689_0005]

 

Heblaw'r gwragedd yn ymweld â'r chymdogion byddent hefyd yn gwneud waith gwnio neu wau sanau. Byddai bechgyn yn gwneud eirwon efallai neu waith rhaf tebyg. Math o adloniant poblogaidd oedd canu teuluol yn ychwanegol at y cwrdd gweddi a'r Seiat. Amser wely arferol oedd 10 o'r gloch.

 

Ng. Ystrid cyw iar fel Ystyried l neu unrhyw gig ffres yn aml.

Bwydydd tymhorol

a) ymenyn ffres – drwy'r flwyddyn

b) caws - yn yr haf ar ôl yr gwartheg gael porfa

c) tatws newydd - Gorffenaf

dd) dim llawer o ddefnydd o'r hyn a'r dyfai'n naturiol

e) – Ceid pysgod fel brithyllod yn yr afonydd. Mewn ardaloedd môr byddent i'w prynnu yn aml. Roedd sgadan yn ddigonol yn yr Hydref. Cei Newydd yn ardal dda am pysgod môr a'r afon Teifi â digon o eogiaid ynddi.

Darpariaolthau

a) Lladd mochyn

        “     eidion

        “     dafad

gwneud jam mwyar ac afalau

piclo wniwns

cochu pysgod, sychu sgadan yn y simne

Bwydydd cleifion

ystyried bwydydd llaeth a blawd ceirch yn addas

Doluriau cella – bwyd llaeth

Anwyd – llaeth a phibur ne twymo cwrw ac ychwenegu siwgr bown a bara.

 

 

[MS 1689_0006]

Dywediadau  “Ceffyl a bor â bar”

                      “Magu'r gath” heb rywbeth i wneud gyda'r nos

M   Megid plant bychan a'r laeth y fam

      Bwydydd priodas – dim byd arbennig. Arferiad i fynd â'r anrhegion i'r tŷ noswaith cyn y priodas.

R   Darpariathau meddyginiaethol

           1)   Tyfid acramony at wella cefn

                  Ffa gors at wella cella

                  Abrite - llygaid

3)    Eli'r Dremddu (Llanbedr) at ddarwden

                 ? Penrhiwlas Llanarth – ffalwm

                 Alice ? Pane Llwyndafydd, Llandysul – fflamwydden

Rh  Glendid a Phurdeb

1.     -                                          4. “Mothballs”, camphyr

2.     [cathod]                                5. Glanhau yna rhoi olew

3.     halltu – halen a saltpeter        lamp neu dripiant arno.

 

S         1) Y gwragedd a'r merched yn gwau sanau o'r gwlan

2)    Adeg cynhaeafau: gael dillad i'r penteulu

3)     Stondian gwlanen mewn feiriau byddai y wyniadyddes yn gwneud crysau i'r gŵr ohono.

4)    Ffatrioedd. Danfonid a'r gwlan yno ar ôl cneifio i'w wneud I flancedi, carddeni a cwiltiau.

T         1) Arian wyau - Dim llawer oddiwrth y gŵr. Ni brynnid llawer o'r siopau. Bwyd cartref fynychaf

Th             1) Ffermydd bychan – dim pris ar bethau

2)    Blawd gwael amser rhyfel byd 1

3)    Adeg lleuad wlyb – cynhaeaf gwael – rhoid y gwenith drwg i'r moch

3)    Gwerthu wyau, gwau a gwerthu sanau yn y farchnad.

            

[(F70.372)]

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment