Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Notes by Meinir Saer, Cardif on foods and house-keeping based on information from Mrs(?) Martin (Blaenwaun and Crymych, Pembs.) and Tom Morgans (Cwmbach, Carmarthenshire.) Response to Welsh Folk Museum questionnaire, 1970.


Transcription

[MS 1690_0001]

Amgueddfa Werin Cymry

Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd

Patrwn bwydydd a cadw tŷ

Holiadur 30

 

[MS 1690_0002]

Miss Meinir Saer

Coleg Addysg (Gwyddor Cartref) Llandaf

Ffordd Llantrisant

Llandaf

Caerdydd

 

[MS 1690_0003]

AMGUEDDFA WERIN CYMRU

ADRAN TRADDODIADAY LLAFAR A THARODIEITHOEDD      HOLIADUR 30

PATRWN BWYDYDD A CADW TY

Yn ol ardal:

     a) ar fferm

     b) yn nhy gwladwr

     c) yn ardal chwareli

    ch) yn ardal y glofeydd

d)ar lan y mor

A. Bwyd yn nhmor y gaeaf

1. Mae'n debyg fod cawl yn un o'r prif fwydydd yn y gaeaf. Pa bryd y bwyteid ef. I swper? I ginio?

2.     Beth oedd bwyd y prydiau eiraill – brecwast, cinio, te, swper? Beth oedd amserau prydiau hyn?

3.     A geid rhywbeth rhwng brecwast a chinio yn yr ardal: yn y gaeaf? Yn yr haf? Pa beth y gelwid ef?

B. Bwyd yn nhymor yr haf

1.     Pa beth fwyteid i frecwast, cinio, te, swper?

2.     Ar be adeg y flwyddyn y ceid y bwyd gore yn eich ty chwi? Paham?

3.     P'un oedd ur [sic] adeg hawsaf o'r flwyddyn I ddarpary bwyd? Paham?

4.     Amrywiaday bwyd yn yr wythnos – discrifiwch.

5.     A newidid y beyd [sic] cherwydd digwyddiadau arbennig – ar ol diwrnod marchnad prynu rhywbeth yn y dre?

C.    Bwyd y Sul

1.     Beth am fwyd y Sul? A oedd moethyn arbennig? Pa beth a ystyrrid yn foethyn? Cyw iar?

2.     A oedd bwyd y Sul yn salach o grin dipyn na bwyd yr wythnos – am fod pawb yn mynychu eglwys neu capel? Prydiau oer?

CH. Gweithwyr

Pwy a baratoi bwyd?

1.     Mewn fferm ag un forwyn?

2.     Mewn fferm a nifer o forynion?

 

[MS 1690_0004]

D. Ysyfelloedd y ty

1. Enwch ystyfelloedd llawr y ty – cegin

2. Ym mha le y paratoid y bwyd?

3. Ym mha le y cedwid bwyd yn y ty?

4. Sut oedd gofalu bod bwyd yn cadw?

DD. Le Bwyta

1.     Ym mha le y bwytai'r teulu eu bwyd?

2.     Ym mha le y bwytai'r gweision a'r morynion eu bwyd?

3.     A oedd enw arbennig ar y ystygelloedd[sic] hyn?

4.     Ym mha le byddai creftwyr (y teiliwr, y wniadyddes, y saer etc)yn bwytai eu bwyd pan ymwelent a'r fferm

E. Offer Cegin

1.     Enwch y prif offer y gedwid:

a. ar gyfer digoni cig

b. ar gyfer dal cig

c. ar gyfer bwyta bwydydd, llwy etc

2.     Ym mha le y ceid yr offer hyn

a. y llestri pren – a oedd turniwr lleol? Ymhle?

b. y llestri pridd

c. y llestri eraill

F. Yr Wythnos Waith

1.     Disgrifiwch drefn yr wythnos E.e. Dydd Llun - golchi etc

2.     Pa ddarpariaethau ychwanegol a wneid dydd Sadwrn, ysgubo'r clos, glanhau esgidiau etc

Ff. Y Diwrnod Gwaith

Gweler holiadur Amgueddfa Werin Cymru ar y diwrnod gwaith

G. Gwaith Gyda'r Nos

1.     Beth oedd gwaith gyda'r nos yn yr haf?

2.     Beth oedd gwaith gyda'r nos yn yr gaeaf?

 

[MS 1690_0005]

Ng. Moethau

1.     Pa beth a ystyrid yn foethyn?

2.     Pa bethau a ddefnyddid mewn bwydydd i'w blasu – llysiau?

3.     Pa beth a fwyteid gydq[sic] bwyd i'w flasu  - cennin syfi etc?

H. Bwydydd Tymhorol

1.     Disgrifiwch bwydydd a ceid ar gyfnodau:

a. ymenyn ffres - yn yr haf am mai dyma pryd y gwneid ymenyn. Beth oedd hyd y tymor?

b. caws. Pa bryd y gwneid caws?

c. tatws newydd a llaeth enwyn

ch. llysiau gardd etc - n niwedd y gwanwyn a'r haf.

d. bara ceirch ar gyfer tymor cneifio (Abergeirw) ar gyfer y gaeaf.

Dd. pa defnydd a wneid o'r hyn a dyfai maturiol - grawn unnos (myshrwms)

E. a fwyteid pysgod o gwbl? Ym mha le y ceid hwy? A ddelid pysgod? A brynid hwy? Pa adeg o'r flwydden?

F. Pa bysgod a fwyteid? Ym mha le y ceid hwy yn lleol? Beth am eog?

Ff.anifeiliad ac adar gwyllt – cwningen, ysgyfarnod[sic] ffesant.

I.      Bwydydd adegau arbennig

1. Pa adeg o'r flwyddyn

a. Mawrth ynyd – crempog

b. Pasg – cig llo

c. Cynhaeaf gwair

ch. Swper cynhaeaf

d. Calan gaeaf – gwydd

dd. Nadolig – twrci

L.     Darpariaethau

1. Pa bwydydd a ddarperid yn cefn?

a. digon o gig ar gyfer y gaeaf

    i) Lladd mochyn – bwyd i'r mochyn o sbarion y ty

    ii) Lladd eidion

b. Blawd sucan – ar gyfer sucan a bwdram yr haf y flwyddyn wedyn

c. menyn casgen / twbyn

ch. A sychid llysiau gardd neu llysiau perth ar gyfer

 

[MS 1690_0006]

 y ty? Pa rai? A ddefnyddid llysiau perth o gwbl – e.e. dant y llew?

d.A wneid catwad (ketchup) o gwbl?

e. A fyddid yn piclo llawer? Pa beth?

f. A ddarperid pysgod o gwbl ar gyfer y gaeaf? Cochi pysgod sychu eog yn y simdde[sic]

Ll. Bwydydd Cleifion

1.     Pa bwydydd a ystyrrid yn addas i gleifion ar gyfer cryfhau?

2.     A oedd bwydydd at doluriau yn arbennig?

M. Bwydydd Plant

A pa fwydydd y megid plant bychain?

N. Bwydydd Priodas

1.     A oedd bwydydd arbennig I bridasau slawer dydd?

2.     Neu bwydydd arbennig i 'neithior' wedi'r priodas?

O. Bwydydd Angladdau

A oedd bwydydd mewn angladdau? Pa beth a ddarperid fel arfer?

P. Bwydydd Brys

Pa bwydydd a paratoid ar frys ynghanol prysyrdef gwaith?

a) pan orffennaui'r bara – bara planc

Ph. Egwyddorion Bwydyddol a Dywediadau

a) dim bwyta dai enllyn

b) esmwyth gwsg gael erfin

A wyddoch chi am enghreifftiau eraill o ddarbodusrwydd?

R. Darpariaethau Meddyginiaethol

1.     Pa blanhigion a dyfid yn yr ardd at bwrpas meddyginiaeth – y wermod lwyd, y gamil, etc?

2.     A ddarperid moddionach ymlaen llaw

3.     A oedd rhywin[sic] yn eich ardal yn enwog  ei allu at wella gwahanol glefydau? Pwy? Pa rai?

Rh. Glendid a Phurdeb

1.     Sut oeddid yn lladd cler?

2.     Sut oeddid yn lladd llygod?

3.     Sut oeddid yn cadw cig rhag gynrhon fagu arno?

4.     Sut oeddid cadw dillad rhag prifed?

5.     Sut oeddid cadw gweliau rhag chwain

 

[MS 1690_0007]

S. Darpariaethau Ty-ol

1.     A gesglid defnyddiau ar gyfer dillatach etc. E.e. gwlan y defaid oddi ar y mynydd etc yn ardal Tregaron. Pwy weuai'r hosanau?

2.     Ar ba adeg o'r flwyddyn y byddid yn mynnir teiliwr i't[sic] ty? Pa waith a wnai ef?

3.     Y wniadyddes. Pa waith a wnai hi? A brynid gwlanen ar ei chyfer mewn rhyw ffair? Pa ffair? A ddarparid gwlan cartref a'i  ddwyn i ffatri?

4.     a) Pa le y ceid y dillad gwely? Blancedi, carthenau, cwiltiau?

5.     Pa ddarpariaethau eraill a wneid ymlaen llaw? e.e.paratoi canhwyllau brwyn (cf. Abergeirw)

6.     Hel defnyddiau ar gyfer lliwio. Pa defnyddiau? Pa sut y lliwid?

T. Arian Parod

1.     O pa le a doi'r arian i'r wraig brynu at y ty? Ai  hyhi a gai arian y wyau? Beth oedd cyfran y gwr?

2.     Pa beth a brynid a'r arian hwn? Y newyddau wythnosol? Pa faint a brynid mewn gwirionedd o'r siop neu'r farchnad?

3.     Beth am y pethau a'u hangan yn flynyddol – dillad?

4.     Pa le a prynid pethau achlysurol fel dodrefn? A wneid rhai yn arbennig i'r teulu?

Th. Tlodi

1.     Pa enghreifftiau o dlodi yn clwysoch chi amdanynt?

2.     Cof am fwydydd gwael

3.     Cof am gynhaeafau gwael? Pa beth a wneid or[sic] wenith drwg?

4.     Enghreifftiau o ddyfeisio at gaer dai pen y llinyn ynghyd e.e. hel pysgodyn cregin - cadw gwyddau – gwerthir wyau?

T.LI/V.H.P./11.69/ F.1.

 

[MS 1690_0008]

Diwrnod Gwaith cyffredin ers lawer dydd

Awgrymiadau am y math o wybodaeth i'w cofnodi. Nodwch eich enw, am ba alwedigaeth yr ydych yn son, ym mha ardal, ac ym mha adeg yn y gorffenol.

1.     Amser codi arferol. Pawb am yr un amser? Unrhyw waith cyn brecwast? Beth oedd amser brecwast a beth a fwyteid. A fyddai pawb yn cael yr un fwyd? A oedd enw arall am frecwast? A oedd hi'n arfer i gadw dyletswydd? Os felly, pa pryd yn ystod y dydd. Pwy fyddai'n cymryd rhan? (Pawb yn ei dro?)

2.     A oedd hi'n arfer i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Os felly, pa fwyd? Beth oedd enw pryd ac ymhle y bwyteid ef? A oedd amser arbennig i'r pryd hwn?

3.     Am faint o'r gloch oedd cinio fel arfer? A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? A oedd enw arall am cinio? A fyddech chwi'n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Os felly, oedd y bwyd yn wahanol? Sut oedd galw'r dynion o'r caeau i't[sic] ty i gael eu cinio?

4.     Am faint o'r gloch yr oedd pryd yn y pnawn a beth oedd yr enw (neu enwau arno)? Beth a fwyteid ac ymhle?

5.     Am faint o'r gloch yr oedd pryd gyda'r nos a beth oedd yr enw (neu enwau) arno? Beth a fwyteid a phwy fyddai yno – yr gweision er enghraifft?

6.     Sut byddai'r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn, er enghraifft godro neu ddyrnu a ffust? Pa amser ar y dydd y byddai'r gwragedd yn ymweld a'u cymdogion? Am beth am y dynion? Beth oedd yr enw yn eich ardal am fyn i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau “cerdded tai” neu “cymota”, er enghraifft.)

7.     Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunan gyda'r nos yn eu cartrefi? Am faint o'r gloch ur[sic] eid i'r gwely? A wneid unrhyw waith gyda'r nos ar yr aelwyd?

8.     Yr oedd yr adeg ar y flwyddyn, mae'n siwr, yn gwneud gwahaniaeth i rai o'r pethau a'r amserau yr ydych wedi eu hysgrifennu wrth ateb yr uchod; er enghraifft a oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a'r haf? A bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu neu yn ystod y cynhaeaf? Byddai'n help pe gallech nodir amrywiadau hyn yn nhrefniadau'r diwrnod gwaith.

 

[MS 1690_0009]

9. Yn olaf, beth oedd enwau'r gwahanol ystafelloedd (neu rwmydd) ty yn ech ardal? A beth oedd enwau'r gwahanol fathau weision a morwynion (er enghraifft “hwsmon”, “gwas mawr” ac enwau tebyg.) beth oedd enwau tai allan arferol yn eich ardal?

 

[MS 1690_0010]

Holi hen wraig or enw Mrs Martin. Hi yn awr rhyw bumtheg a thrugain oed yn byw yn Blaenwaun ond wedi byw yn Nghrymych.

Yn ôl yr ardal

a) Ar fferm fach

Ar fferm fechan iawn hi oedd y hynaf o dri-ar-ddeg o blant ac felly yn gorfod gofalu tipyn am ei brodyr a'i chwiorydd tra y byddau ei [mham?] yn mynd oddiamgylch y ffermydd i helpu wneud ymenyn, caws a bara ceirch.

A. Bwyd yn nhymor y gaeaf

1.     Cawl i ginio, byth cawl i swper.

2.     Brecwast  rhyw hanner awr wedi wyth – bara ymenyn a caws.

3.     Cinio un o'r gloch – cawl gan amlaf gyda thato a chig ambell dro.

4.     Te pedwar o'r gloch – bara ymenyn digon o de a bwns ambell waith

 

[MS 1690_0011]

Swper: wedi gorffen gwaith - fel arfer tua saith I wyth o'r gloch, bara ymenyn a caws cig ambell dro.

3.     Dim yn cael ei fwyta o gwbl rhwg prydiau

B. Bwyd yn nhymor y hâf

1.     Bwyteid yr un math o fwyd yn yr hâf ag yn y gaeaf ond caid blawd sucan amser gwair.

2.     Ceid y bwyd gorau pan y byddai'r gwair yn mynd i mewn ac yn ystod tymhorau gwyliau. Y rheswm am hyn efallai oedd y ffaith bod llawer mwy o ddynion dierthyn yn dod i'r fferm.

3.     Ni fyddai

4.     Ni ceid llawer o amrywiadau bwyd yn yr wythnos – ambell waith geid jam ac ambell dro bara curens (currant bread).

5.     Dim o gwbl. Nid oedd y ffaith bod y meistr a'r meistress wedi bod yn y

 

[MS 1690_0012]

dre yn effeithia dim ar batrwm bwyd y diwrnod canlynol.

C.    Bwyd y Sul

1. Nid oedd moethyn arbennig i ginio dydd Sul yn aml iawn. Nid oedd llawer o rostio'n cael ei wneud ac ni cheid pwdin llaeth yn aml iawn.

2. Nid oedd prydiau Sul yn salach o gwbl. Ni cheid byth bwydiau oer. F'ei paratoid cyn mynd i'r oedfa a'i gadael yn gynnes wrth ochr y tân.

CH. Y Gweithwyr

1.     Y wraig gan amlaf y baratoiai'r bwyd ar fferm ac un forwyn

2.     Mewn fferm â nifer o forwynion y forwyn hynaf y paratoiai'r bwyd.

D.    Ystyfelloedd y tŷ

1.Enwau ystyfelloedd llawr y tŷ gegin, parlwr, dairy, rhwmford

 

[MS 1690_0013]

      2.Paratoiwyd y bwyd yn y cegin.

3.     crelwyd y bwyd mewn cwbwrdd yn y dairy

4.     gofalwyd bod bwyd yn cadw drwy ei roddi mewn lle oer.

DD. Lle Bwyta

1.     Bwytai'r teulu ei bwyd yn y cegin

2.     Bwytai'r gwesion a morwynion ei bwyd yn y 'rhwm ford'.

3.     Byddai creftwyr pan yn ymweld â'r fferm yn bwyta ei bwyd yn y cegin.

E. Offer Cegin

1.     Y prif offer y geid: -

a) ar gyfer digoni cig – crochan neu boiler

b) ar gyfer dal cig – disgl

c) ar gyfer bwyta bwydydd llwy – llwy pren neu ffial neu trensiwn.

 

[MS 1690_0014]

2.     Ym mha le ceid yr offer hyn

a) llestri pren ar farced Crymych – nid oedd turnwyr lleol

b) y llestri pridd ar farced ac yn y siopau

c) y llestri eraill ar farced

F. Yr wythnos waith

1. Llun – golchi

          Mawrth – smwddio

          Mercher – glanhau'r cegin

          Iau – cywiria'r dillad

          Gwener – Glanhau'r ystyfelloedd gweli a phalu

         Sadwrn – Glanhau popeth. Glanhau'r esgidiau.

2. Yn ychweneg a'r pethau sydd wedi ei cofnodi fe arferol crafi tato nos Sadwrn yn ymlaen erbyn y Sul.

 

FF. Y Diwrnod Gwaith

1. Yr amser codi arferol oedd chwech

 

[MS 1690_0015

       o'r gloch. Byddai'r morwynion yn codi yn gyntaf ac yn galw 'r gweision. Byddyd yn godro, glanhau ceffylau  ac ystablau cyn brecwast. Yna ceid brecwast am tua hanner awr wedi gan amlaf bara a chaws a geid pawb yn cael yr un bwyd ond 'roedd y rhan gorau o fwyd yn mynd i'r meistr a'r meistress. Nid oedd enw arall i brecwast. Cedwid dyletswydd ar ôl brecwast. Y pen teulu oedd yn cadw'r dyletswydd gan amlaf gyda'r gweision yn cymryd ei tro am yn ail.

2.     dim o gwbl

3.     Ceid cinio am un o'r gloch. Byddai pawb yn cael yr un bwyd. Cawl oedd y bwyd cyffredin amser cinio – y gweision a'r morwynion yn bwyta yn rhwm ford ar meistr a'r meistress yn y cegin. Nid oedd enw arall am ginio. Bwteid cinio yn y caeau amser gwair ambell waith pryd y ceid sucan llaeth o hyd. Byddent dod allan a [sten] o laeth

 

[MS 1690_0016]

            a phadell fawr yn dal sucan, a rhenwyd hwn mewn ffialau pren a bwyteid ef gyda llwyau pren. Gelwid y dynion i ginio gyda 'whistle' neu arferid dweud wrthynt cyn mynd allan i'r cae pryd y byddau cinio yn barod ac yna byddent yn dod yn ôl ar yr amser penadedig

4.     Te am bedwar o'r gloch. Ceid bara a chaws, jam ambell waith

5.     Bwyteid y pryd nos wedi i'r gweision orffen ei gwaith. Byddent hwy yn cael swper o hyd pryd y bwyteid bara a chaws.

6.     Arferid godro yn y bore am saith, yn y nos am bump. Byddid yn dyrni yn y prynawn. Byddai'r gwragedd ymweld â chymdogion wedi gorffen gwaith – ambell waith yn y prynhawn os oedd cyfle a dod yn ôl Ii de neu fe aethid wedi swper yr un a wneir dynion. Dywedid  edrych hanes neu mynd i weld shw ma nhw. Pan y byddid ymweld â  chymdogion
 

 

[MS 1690_0017]

7.     Byddai'r bobl yn dyfyrru eu hunan drwy ofyn cwestiwnau neu cynal rhyw         [?benerlodwg?] bach efallais. Aethid i'r gwely am ddeg o'r gloch fel arfer.

Byddai rhai yn gwau a gwinio a'r dynion yn gwneud fflasg a waith a caed ac eraill yn niddu ar yr aelwyd yn ystod y nos.

8.     Ni oedd rhyw lawer o wahaniaeth rhwng bwyd haf a gaeaf. Ceid sucan llaeth amser cynheaeaf gwair ac amser dyrnu.

9.     Enwau'r gweision gwas bach, howsen, morwyn fach.

Tai allan – beudy, ystabl, twlc, sied y ieir.

G. Gwaith gyda'r nos

1.     Gwaith y nos gyda'r hâf

Mynd i gwrdd ambell waith neu [?benerlodwg?] neu eisteddfod.

2.     Yn y gaeaf gwau hosanau nyddu byddain cael ei wneud

 

[MS 1690_0018]

NG. Moethau

1.     Ystyrid cyw iar neu darn o gig wrth y cigydd yn foethyn

2.     Defnyddyd pasley, mint, moron, panas mewn bwyd i'w flasu.

3.     Bwyteid wynwyn a shilots gyda bwyd i'w flasu.

H. Bwydydd tymhorol

a)Byddyd yn prynu ymenyn oddi ar y fferm fawr

b) Gwneid caws o fis Mai ymlaen

c) tatws newydd mis Mehefin

ch) -

d) dim llawer adref ond byddai ei mham yn mynd i wneud bara ceirch ar hyd y lle.

dd) -

e) [???] [???] y ceid pysgod. Byddyd yn ei dal yn yr afon wedi lliffogydd tua mis Rhagfyr a Ionawr

f) Brithyll

ff) Cwningod ac ambell hwyaden wyllt

 

[MS 1690_0019]

I Bwydydd adegau arbennig

a)Mawrth Ynyd crempog [ffrala] wyau

b) pasg cig llo

c) Cynhaeaf gwair sucan llaeth

ch) Swper cynhaeaf ambell waith ceid cig, tatws a llysieuyn arall ceid pwdin hefyd ambell dro.

d) Calan gaeaf lladd twrci neu ŵydd gyda tato ac un llysieuyn arall. Pwdin llaeth ar ei ôl.

dd) Nadolig twrci

L. Darpariathau

a) Darperid moch – lladd mochyn a'i halltu ar y fferm fach ond ar y fferm fawr gyferbyn lleddid eidion

b) Nid fyddid yn paratoi sucan ymlaen llaw erbyn y flwyddyn wedyn. Fe'u roddid yn [wlych] noson cynt yna ei ferwi a'i arllwys y badell fawr y diwrnod canlynol a'i fwyta yr un diwrnod.

c) -

ch) Byddyd yn sychu mint, dant-y-llew a

 

[MS 1690_0020]

[dinod]

d)Gwneid tamaid a jam gwsberi

dd) Ni wneid dim ketchup

e) Byddyd yn piclo bresych a shilots

f) Ni baratoid pysgod o gwbl ar gyfer y gaeaf.

N. Bwydydd Cleifion

1.Ystyrid llaeth a lucose hefyd fe fyddid ffystio wyau a'u bwyta heb i cwcian yn addas I gryfhau'r creifion

2.Ni chofiai

M. Bwydydd Plant

Bwyd llaeth – llaeth gyda 'quaker oats' yn denau

N. Bwydydd priodas

1.Dim llawer o son am briodas – dim bwyd arbennig

'Roedd llawer yn gwneud  cwrw [maxi]  noswaith y priodas ac yn gwneud

 

[MS 1690_0021]

             cacennau

). Bwydydd angladdau

   Dim byd ond dised o de i'r pregethwr

P. Bwydydd Prys

           _

Ph.  Egwyddorion Bwydyddol a Dywediadau

Byddid yn dweud llawer ond ni chofiai am un ond y ddau a ysgryfennyd ar y holiadur.

R. Darpariaethau meddygol

1.     orarwn at ben tost

2.     Darperid moddranach ymlaen llaw – f'ei rhoddid mewn cwpan o ddŵr-y-llysiau

3.     Ambell i ŵr a gwraig tŷ yn glyfer iawn at wella clefydau.

Rh. Glendid a phurdeb

1.     Ni chofiai I sut y lleddid clêr

 

[MS 1690_0022]

2.     Lleddid llygod gyda trap llygod

3.     Halltyd y cig yn dda a'i guddio mewn papur neu sac

4.     Cadw dodrefn rhag pryfed ei peintia gyda tripant

5.     Gwelyau rhag chwain – ae cadw yn lân a'i brwsia yn aml.

S. Darpariaethau tŷ-ôl

1.     Ni chasglid gwlanen. Byddai gwragedd mewn oedran yn gwau'r hosanau.

2.     Mynnid teiliwr i'r tŷ a gwinai dillad a chrysiau i'r dynion

3.     Gwinai'r gwniadyddes dillad i wraig y tŷ a'r plant

4.     a) Ceid y dillad wely o'r ffatri

b) Ceid y dillad a gysgid arno ar y fferm fel arfer – pluf wedi lladd yr adar yn ystod y Nadolig

T. Arian parod

 

[MS 1690_0023

1.     Cei gwraig y tŷ arian drwy werthi wyau, ymenyn , caws a ieir

2.     Prynid te, sigwr, cwrens, reis a'r allan hyn fe'u ceid o'r siopau

3.     Ceid yr allan i brynu dillad drwy cwyila tamaid drwy'r flwyddyn

4.     Byddai 'joiner' yn gwneud y dodrefn

Th. Tlodi

Dim cof o gwbl er bod y amser i fwy yn wael drwy'r amser

Dim cof am amser gwael iawn o gwbl

 

[MS 1690_0024]

Holi hen lanc o ardal Cwmbach. Hwn yn ddeg ar thrigain oed â'i gaf yn hynod o dda. Ei enw oedd tom Morgans ac 'rwyth yn gobeithio y bydd y wybodaeth a gefais a ddefnydd mawr i Mrs [Tibbat].

Yn ôl ardal

a) Roedd ffermydd yr ardal yn gwahaniaethu'n fawr iawn yn ei maent, a'u mesur. Cid rhai yn ddau can erw ac eraill cyn lleied a naw neu saith erw. 'Roedd y ffermydd mwyaf yn cyflogi dau neu tri gwas a gweithiwr ag oedd yn byw ar y tir a dwy o forwynion.

Rhyw beth yn gyffredin oedd gwaith  bob  fferm - trin y tir, codi'r gwair, a llafur yn geirch, a barlys, gwenith a thato, gweithio ymenyn, a caws a magu bob math o anifeiliad, yn geffylau, gwartheg, lloi a moch.

b) yn nhŷ gwladwr

Mae y rhai hyn wedi newid yn fawr yn

 

[MS 1690_0025]

y blynyddoedd diweddaf o'r hen tŷ tô gwellt i'r rhai myaf modern heddiw. Tŷ bach isel oedd yr hen rai, dai lawr, y gegin a'r parlwr. Dim llofft a megis [towlad?] dwy ffenestr, ac ambell waith ffenestr yn y talcen. Yn y parlwr yn cysgai'r tad a'r fam a'r plant ar y [dawlod?]. Aethent i fyny'r [dawlod] dros yr ysgol a godwyd i ffordd wedi'r plant godi. Yr oedd yna hefyd rhyw sied yn nhalcen yn y ty gyda tô sinc iddi ar ochrau wedi eu plethu a gwail. Nid oedd llawer o ddodrefn yn y tŷ dim ond pethau at defnydd y teulu.

A. Bwyd yn nhymor y gaeaf

1.     'Roedd cawl i frecwast yn yr hen amser ond dim ond I ginio a swper y

2.     Pydiau eraill ac amserau – brecwast am wyth, cinio am ddeuddeg, te am bedwar a swper am saith o'r gloch.

3.     Yr oedd yn arferidig gan wraig tŷ fferm i yfed cwpaned o de tua deg o'r

 

[MS 1690_0026]

         gloch a'r morwynion hefyd. Nid oedd y gweision yn gael. Gelwid hwn hefyd yn'te deg neu glybyn neu lwnsh.

B. Bwyd yn nhymor y'r hâf

1.     Yr un peth a'r gaeaf – brecwast bara a caws neu cig oer eidion neu fochyn dim bara menyn yn yr hen amser ond bara a digon o de

Cinio: cawl a chig a thato yn cynig, a bresych a moron ac erfyn, a llaeth enwyn, dwr neu gwpaned o gwrw i dani syched. Yr oedd tato a chig ambell waith yn lle cawl.

Te – bara menyn

Swper – cawl aildwym gyda bara a chaws. Yr oedd llaeth enwyn ar y bwrdd i rhywun a oedd ei chwant arno.

2.     Ceid y bwyd gorau yn ei dyb yn yr hâf pan ceid digon o lysiau.

3.     'Roedd yn hawsach darparu bwyd yn yr hâf gan fod popeth yn llawer mwy yn cyfleus – llysiau yn yr ardd.

 

[MS 1690_0027]

     Nid oedd llawer o newid mewn bwyd ar y ffermydd. Yr oedd y bwyd yr un peth o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos. Yr oedd peth newid yn y cynhaeaf gwair, a wedi, pryd y byddai'r gwraig y fferm yn berwi sucan i ginio, a cawl i swper. Ceid yn ambell [?] le yn ystod wedi y cynhaeaf twmplins i swper ar ôl y cawl.

5.     Nid oedd y ffaith bod y meistr a'i briod wedi bod yn y farchnad yn newid dim ar fwyd y gwas a forwyn.

C.    Bwyd y Sul

1.     Yr oedd yn arfer yn Mai ffermydd roddi ŵy i wasanaethyddion bore Sul i frecwast. Ceid ambell waith darn o gig eidion i ginio gyda thato a grefi a phwdin reis ambell waith ond dim bob Sul. Ceid bara ymenyn a jam a bara cwrens  ambell dro i de ac i swper ceid gwedill y cinio.

2.     Nid oedd bwyd y Sul yn salach. Yr

 

[MS 1690_0028]

                     oedd un o'r morwynion neu y wraig gartref yn gwneud [?] Nid cheid byth prydau oer ar y Sul.

CH. Gweithwyr

1.     Gweithwyr a baratoi'r bwyd – gwraig y a'r forwyn. Mewn fferm ag un forwyn y wraig a baratoai'r bwyd.

2.     Mewn fferm a nifer o forwynion y forwyn hyhaf neu y hawsen fel y'u gelwid a baratoai'r bwyd.

D.    Ystyfelloedd y tŷ

1. Ystyfelloedd y lawr – gegin, yr hall, y parlwr, llaethdy, rhwmford, danstâr.

2. Paratawyd y bwyd yn y cegin

3.Cedwyd y bwyd yn y llaethdy.

4. Gofalwyd fod  bwyd yn cadw drwy ei roddi mewn lle oer – yn y llaethdy mewn cwpwrdd.

 

[MS 1690_0029]

DD. Lle Bwyta

1.     byddai'r penteulu a'i blant yn bwyta yn y cegin.

2.     Byddai'r gweision a'r morwynion yn bwytai yn y rhwmford

3.     Y gegin a'r rhwmford y gelwid y ystyfelloedd bwyta.

4.     Byddai'r creftwyr gan amlaf pan ymweld a'r teulu yn bwyta gyda'r penteulu ond byddai'r saer yn bwyta gyda'r gwasanaethyddion.

E. Offer Cegin

Enwch y prif offer y geid at

a. ar gyfer digoni cig - ffwrn, crochan neu ei rostio mewn ffwrn ac oedd wedi ei chodi yn y [mur?] Ffwrn frics yn yr hen amser, ffwrn haearn yn  ddiwedd arach.

b. ar gyfer dal cig – trensiwrn pren wedi ei wneud gan y turnwir lleol neu yn ddiwedd arach disgl china

c. ar gyfer bwyta bwydydd llwy – phialau pren gyda llwyau pren.

 

[MS 1690_0030]

2.     Ym mha le y cedwyd yr offer hyn. Y llestri pren a'r llwyau pren mewn teclin pren e'i elwid yn car llwyau. Y trenswrnau a phialau pren mewn teclin arall at y gwaith ac yr oeddynt wedi ei rhoi ar fur rhwmford.

Nid oedd turnwyr lleol. Ceid rhai yn Abercych.

b) Cedwyd y llestri pridd yn y llaethdy mewn crochanau.

c) Cedwyd y llestri eraill mewn gwahanol gypyrddau ac ar y seld.

F. Yr wythnos waith

             Llun – golchi oedd y gwaith mwyaf a glanhau isgidiau dydd Sul.

             Mawrth – smwddio y dillad a rhai dillad y Sul i gadw, ac yn gwneud caws yn yr hâf 

             Mercher – Byddai gwraig y tŷ yn edrych dros dillad y gŵr a'r plant.

             Iau - Byddent yn glanhau'r lloft

             Gwener – Byddai rhai ffermydd yn corddi

 

[MS 1690_0031]

            os y byddent yn mynd i'r farchnad y dydd  Sadwrn. Palu[sic] bara hefyd ar y dydd hwn.

            Sadwrn – corddi eto mewn rhai ffermydd gan mai dydd Llun yr oeddynt yn mynd i'r farchnad. Glanhau'r tŷ i gyd.

            Nos Sadwrn – yn yr hen amser yr oedd y forwyn fwyaf neu hawsen yn glanhau isgydiau y gwesion gan roddi grêsh y mochyn arnynt.

2.     Byddai crafu tato yn orchwyl bob dydd bron, Crafu digon dydd Sadwrn dros y Sul.

DD. Y diwrnod gwaith

1. Amser codi arferol – yr oedd gwahanol amserau mewn llawer fferm, rhan fwyaf chwech o'r gloch, saith mewn ambell. Yr oedd y gweision a'r forwynion yn cael ei galw am hanner awr wedi chwech o'r gloch, a'r wraig yn lled agos gan y mae hi oedd yn gwneud y brecwast. Yr oedd y morwynion yn godro ac yn rhoi llaeth.

 

[MS 1690_0032]

 i'r llai. Byddai'r gwas mawr a gweithwyr yn dyrnu a ffust – digon o wellt am y dydd a byddai'r ail was yn porthi yr anifeiliad a oedd yn gorwedd yn allan yn y gaeaf a'r anifeiliad oedd y tu fferm. Byddai'r gwas nesaf yn glanhau y [bwdai?].

Ceid brecwast am hanner awr wedi saith i wyth o'r gloch. Ceid cig eidion neu cig mochyn oer; ceid cawl yn ambell i le yn yr hen amser a bara a chaws a the. Hwn oedd bwyd y gweision. Bara a menyn a sleisen o ham gyda the neu coffi oedd gan y meistr a'i wraig. Nid oess enw arall ar frecwast yn yr ardaloedd hyn. Yn yr hen amser roedd cadw dyletswydd yn bwysig iawn. Rhaid oedd ei cadw yn feinyddial. Gŵr y tŷ neu y penteulu oedd yn trefnu y gwasanaeth. Pawb yn ei cymryd yn ei dro, ond 'roedd y gwas bach yn cael llanydd am y flwyddyn gyntaf ar ôl hynny 'roedd yn cadw ei dro. 'Roedd ambell i forwyn yn darllen

 

[MS 1690_0033]

            Ar ôl brecwast yn cyffredin y cedwid y dyletswydd pawb yn dod i eistedd wrth ffwrdd y cegin. Os buasai y plant yn ​​​ieuanc a rhy [farl?] iddynt i godi yr oeddynt yn eu gadw ar ôl swper.

2.     Yr oedd yn arferedig mewn ambell i fferm i gymerid cwpaned o de tua deg o'r gloch gyda chlwt a fara ymenyn neu cacen. Nid oedd hwn swyddogol arno ond lwnsh, te deg neu glybyn y'u gelwid.

3.     Amser arferol y cionio oedd deuddeg i hanner awr wedi deuddeg. Pawb yn    y tŷ yn bwyta cawl i ginio neu beth bynnag fusai.

Nid oedd pawb yn bwyta yn yr un lle. Y penteulu a'r wraig a'r plant yn y gegin a'r gwasanaethyddion yn y rhŵmford.

Nid oedd pawb yn bwyta yn yr un lle. Y penteulu a'r wraig a'r plant yn y gegin a'r gwanaethyddion[sic] yn y rhŵmford.[sentence repeated in writing]

Bwyteid cinio yn y caeau yn ystod

 

[MS 1690_0034]

y cynhaeaf gwair a medi. Sucan llaeth neu sucan reis y ceid pryd hynny. Anfynych y byddent yn cludo cawl allan i'r caeau.

   Yr oedd amser [pluodedig] bron gan bob fferm i ginio ac ar yr amser [pluodedig] yr oedd y gweithwyr yn dod i fferm; yr oedd whistle gan abell un.

4.     Yr oedd te prynhawn am hanner awr wedi tri i bedwar. Te prynhawn y elwid ef. Bara ymenyn a jam ac ambell waith clwt a bara brith. Y gweision gan amlaf yn ei fwyta allan yn y caeau os na fyddai yn wlyb.

5.     5. Swper am saith. Cawl gan amlaf neu fara a chaws.

6.     Yr oedd y morwynion yn godro y peth cyntaf yn y bore ac yn rhai llaeth i'r llai a'r gwas a'r gweithwyr yn dyrnu ar ffust cyn brecwast ar ôl glanhau'r llestri cinio a glanhau a chymennu

 

[MS 1690_0035]

pethau yr oeddynt yn mynd allan i edrych am ei cymdogion - mynd tua dau o'r gloch a dod yn ôl  tua pump o'r gloch. Mynd i rai trio amdanynt a ddywedwid.

7.     Yr oedd gan bobl gwahanol ddiddorol rhai. Hoffai rhai merched a gwragedd wau hosanau, eraill yn gwau pull-over neu gardigan a llawer  peth arall ar y waell. Eraill yn crache yn gwneud cap, rhai yn tynnu patrwm allan i wneud lace i addurna lliain bwrdd a rhyw pethau cyffelyb. Yr oedd llawer i fam yn gwau dillad y plant lleiaf bron i gyd. Ar y aelwyd yn y nos gan amlaf y byddent yn gwau. Nid oedd llawer i neb yn mynd i'r gwely yr un pryd – rhai oedd yn codi yn fore yn mynd a hanner awr wedi naw I ddeg o'r gloch, eraill yn hwyrach.

8. Nid oedd llawer o wahaniaeth mewn

 

[MS 1690_0036]

bwyd ar y fferm haf neu aeaf.Nid oed cneifio yn cyfrif ddim yn yr ardal. Y diwrnod dyrnu  oedd y diwrnod mawr pan y byddai y dyrnwyr yn dod i'r fferm. Cymdogion yn dod i helpu tua ugain a deg a'r hugain a ddwyau. Yr oedd yn rhaid paratoi ymlaen llaw. Berwi'r cig, crafu tato palu bara fel y byddai ganddynt ddigonidd o fwyd.

Yr oedd pob gŵr a gwraig fferm yn trefnu eu diwrnod gwaith i ateb pwrpas y tymhorau. Pan y buasai eisiau help y morwynion allan ar y fferm dod allan i helpu gosod tatws, casglu cerrig yn y caeau gwair, helpu i gynhaeafu, troi'r llafur, rhwymo'r ysgubau, codi yr ysgubau amser y [?], Yr oedd y wraig yn ceisio rhywfaint yn fwy y diwrnod cynt er mwyn [hwyly?] dod i fyned allan trannoeth

9.     Enwau ystyfelloedd y tŷ

Y gegin, yr hall, parlwr, rhwmford,

 

[MS 1690_0037]

llaethdy, seler a rhwm dan stâr a rhwm i olchi llestri, tri neu bedwar ystyfell yn y llofft tri ystyfell wely a bathroom.

Yn y ffermydd mwyaf yr oedd yna gegin fach y tu allan – lle mawr i gadw tân i olchu a wneud rhyw waith brwnt. Yr oedd [hon?] fynychaf wedi ei adeiladu wrth dalcen y tŷ'r fferm. Yr oedd hefyd yn yr hen [denai] fferm le ym mraich y smiddi a elwir yr odyn ''le y byddai' y ffermwr yn crasu yr ŷd cyn mynd ag ef i'r felyn; fel hynny nid oedd eisiau talu am ei grasu. Hefyd mewn ambell i fferm 'roedd yna dŷ arall – gelwyd ef yn 'tŷ pair' – yn fod yna bair neu grochan wedi ei osod a lle oedd tân oddi tana. Yr oedd hwn yn ateb yr un [?] a'r gegin fach.

Tai allan: cartws, ysgubar, beudy, twlc y moch, y chaff room lle llai neu [?] y llai, y stabl fach

 

[MS 1690_0038]

Gweision a morwynion

Yr hawsen neu forwyn fach; yr oeddynt yn cadw fagu mewn ambell i le. Y gwas mwyaf neu 'ploughman' – ef oedd yn gofalu am y ceffylau ac yn aredig; yr ail was a gwas bach.

G. Gwaith yn y nos gydar hâf

1.     Yn yr hen amser byddent ar ôl  golchu llestri swper yn yr hâf byddai y morwynion yn cyweiriau'r hosannau a'u dillad.

2.     Yn y gaeaf – ar ôl golchu'r llestri a'r tywydd yn ddrwg, byddent yn gwau hosannau a gwneud siampler a tynnu rhyw patrwm allan er mwyn gwneud lace neu 'embroidery'.

NG. Moethau

1.     Ystyried moethyn yn unrhyw fath o fwyd nad oeddech yn cael bob dydd – megis cywiar, gwydd, twrci.

2.     Defnyddid llysiau yn cawl, blawd ceirch

 

[MS 1690_0039]

          [cewin], safri, wynwyn, shallots, marigold, parsley.

          Wrth rostio cig hwyaden rodid sats neu thyme.

3.     'Roedd rhai pobl yn hoffi bwyta shallots gyda bara ymenyn yn yr hâf.

H. Bwydydd tymhorol

1.     Disgrifiwch fwydydd ar gyfnodau:

a) ymenyn ffres yn yr hâf, yr oeddynt yn gwneud ymenyn ffres ar y fferm bob amser o'r flwyddyn.

b) caws - Yr oeddynt yn dechrau caws cyn gynted ag oedd y gwartheg yn cael eu troi allan i'r borfa – dechrau Mis Mai.

c) tatws newydd a llaeth enwyn. Byddai hwn yn cael ei wneud pan y buasai rhyw orchwyl caled yn mynd ymlaen yn y tŷ ac yn methu cael amser i wneud cawl. Pryd arall ceid tatws a chosin [sic] sur a llaeth enwyn.

ch) llysiau gardd; cenin , shallots, parsley, marigold, mint.

 

[MS 1690_0040]

d)     bara ceirch nid ar gyfer cneifi. Yr oeddynt yn gwneud bara ceirch ond erbyn y gwanwyn adeg aredig, llyfnu a hau.

dd) myshrwms: Ychydig o'r myshrwms oedd i gael yn yr ardal hyn, roedd rhai i gael mis Awst os byddai y tywydd yn ffafral iddynt, nid pawb oedd yn ei hoffi.

e) Pysgod: Dim llawer o fwyta pysgod. Ambell waith yr oedd cert y pysgod yn dyfod heibio. Rhai'n mynd i'r dref i'w prynu.

f)Gwerthid ysgadyn hallt mewn rhai siopau. Yr oedd crefu fwyta yn yr hen amser.

Eog; Pysgod oedd yn dyfod i fynny o'r môr  tua Hydref a Thachwedd.

ff) anifeiliad ac adar gwyllt: y cwningen ysgyfarnog, ffesant, [pitrisin], iar y rhos, [ciach], [cyffylog], [ysgythau].

I. Bwydydd ardegau arbennig

1.     Pa adeg o flwyddyn

a) Mawrth Ynyd: Gwyl Dewi y gwneir

 

[MS 1690_0041]

            crempog.

b)Pasg: Cig llo wedi ei rostio gyda ychydig o friwsion wedi ei  [dalwid] drosto.

c) Cynhaeaf Gwair: sucan I ginio gyd allaeth a bara ymenyn. Te prynhawn, bara ymenyn a jam, bara cwrens a cacen cwrens.

ch) swper cynhaeaf: cawl wedi ei ferwi'n dda gyda darn da o ham ynddo a'r llysiau arferol, tato erfyn, moron, cenin , safri – swper rhagorol

d) calan gaeaf: fel rheol darn ffres o gig eidion a digon o gwrw o waith cartref.

dd) Nadolig:gŵydd oedd yr aderyn gan amlaf gan bawb os buasai y teulu yn chwech neu saith.'Roedd twrci yn fwy ffasynal gyda'r hen gentry. Hwyaden neu cyw iar gan deuluoedd o lai o phlwm pwdin.

L.     Darpariaethau

Pa fwydydd a ddarpereid yn gefn?

 

[MS 1690_0042]

            a) Cig ar gyfer y gaeaf: yn yr hen amser 'roedd y ffermydd mwyaf yn lladd eidion ac yn eu halltu a'u sychu. 'Roedd bron bawb yn lladd mochyn yn ddefnydd y tŷ.

            b) blawd sucan – Fe fyddai y ffermwyr yn darparu ceirch gorau a'u ddwyn i'r felin i'w falu i wneud blawd ceirch i wneud bwdram, [bleyd] sucan

c)     ymenyn: Fe fyddai gwraig y fferm yn cadw ymenyn mewn crochan pridd ar gyfer y gaeaf, yn mis Medi yr arferid ei gadw. Roedd y gasgen neu'r [twbyn]yn taflu eu flas ar yr ymenyn os y byddai yna yn hir.

                 ch) Sychu llysiau: Sychid y parsley gan amlaf ond byddai y cenin yn dal yn amlaf, yn wyrdd os na fuasai rhew caled. Fe fyddai yn sychu werwydd, [ganil], sats (saets), tyme, peppermint a [rorawd]. Fe fyddai ambell un yn ddefnyddia dant y llew a danadl ieuanc i wneud ginger beer.

                 d) jam: Yr oedd llawer o jam yn cael

 

[MS 1690_0043]

                    eu wneud – plwms, mwyar, gwsberri, rhubarb, currants duon a cochrau, afalau a marmalade.

                 dd) Catwad: Dim cof am wneud catwad

                 e) Fe [luclid] shallots, wynwyn, beetroot a erfyn cochion.

                  f) pysgod – Nid oedd dim yn yr ardaloedd yr oeddynt yn dal pysgod ar lanau'r afon Teifi.

LL. Bwydydd y cleifion

1.     unrhyw fath o fwydydd llaeth, bara llaeth, cawl llaeth, bwdran reis o llaeth.

2.      -

M.   Bwydydd plant

Dim cof

N. Bwydydd priodas

Nid oedd rhyw lawer o sôn am fwydydd priodas os slawer dydd. Darperid digon o gig eidion [wybaren] a mochyn; digon

 

[MS 1690_0044]

digon o gwrw (home brewed) a bara o bob math – bara gwenith cartref.

2.     Neithiwr – os y busasai yn weddol gefnog darperid bob math o deis [cannau], cacenau currants a bara [can] a bara gwenith a digon o home brewed. Teuluoedd llai cefnog – te a teisen a bara brith.

O.  Bwydydd angladdau

Yr oeddent yn darpari cig a baragwenith a weithiau ceid home brewed

Gwylnos - Noswaith ar ôl rhywun farw arferid cynal aedfa yn y tŷ. Byddai'r pregethwr yn bresenol ac fe arferid darllen a gweddio. Nid fyddyd byth yn canu.

P. Bwydyd prys

Anaml yr â'ir bara yn [fawr?]. Fe wneid bara planc ambell waith

Engreifftiau o fwydydd prys, tato a llaeth enwyn, [crasi] crempog, bacwn a

 

[MS 1690_0045]

wynwyn.

PH. Egwyddorion bwydyddol a dywediadau

Yr oedd y hen fabl yn groes iawn i fwyta caws gyda bara ymenyn. Bara menyn neu fara caws yn unig.

b) cawl erfin: Person yn cysgu yn ismwyth gan wybod nad ydyw wedi gwneud cam a neb.

Caws  a fala ci: rhywbeth a challir nad oes ei gobaith ei gael yn ôl

Mesen yn bala hwch: dim llawer i ateb angen

Hwch fyd sy'n bwyta'r saeg i gyd: Rhywun yn gwranda i fyd ond yn dal y cyfan

R. Darpariaethau meddyginiaethal

1.     wermod llwyd, [gannil], [rorawd], garlleg, peppermint.

2.     'Roedd yn arfer rhoddi y llysiau mewn jwg gyda dwr berw a'u hilia a'u roddi mewn potel i gadw.

 

[MS 1690_0046]

3.     Yr oedd rhyw bobl i'w cael yn yr ardal yn dda iawn at rhai doluriau. Gwneud eli at y ffalwm, eli at y ddarwden, te llysiau at y clefyd melyn, eli at llosg tân, eli os byddau wedi cael pigad gan draenen ac eisiau eu dynnu, eli at bob math o [gluyfau].

RH.  Glendid a phurdeb

1.     lladd clêr: golchi llawer a thipyn o disinfectant ynddo

2.     lladd llygod: Rhoddi gwenwyn iddynt a rhoddi trapiau yn y [tyelau] ac yn y llwybrau. Yr oedd rhai cŵn yn dda iawn am eu lladd.

3.     Cadw cig: rhoddi digon o halen arno a'u gadw mewn lle nad allai'r gleren yn gael gafael arno.

4.     Dillad rhag prifed: rhoddi camphur rhwng y dillad yn y cwpyrddau.

Gwelyau rhag chwain: golchi dillad yn fynych o digon o dwr a sebon. Rhwbia ochrau'r gwely a'r talcennau a

 

[MS 1690_0047]

digon o baraffin neu turpant.

S. Darpariaethau Tŷ ôl

1.     Nid oedd y arfereid y casglu gwlan wedi bod yn yr ardal hyn. Eid a'r gwlan i'r ffatrioedd gyfagos i wneud brethyn ac edafedd. Y merched a'r gwragedd oedd gwau hosannau.

2.     Teiliwr i'r tŷ: Gwneid dillad i'r penteulu a'r bechgyn a wnei'r teiliwr yr oedd yn dod tua mis Ebrill i wneud dillad erbyn yr hâf, Hydref, Tachwedd ac ar gyfer y gaeaf.

3.     Gwnaiadyddes: Hon oedd yn gwneud dillad i'r teulu i gyd. Fe fyddai'r fam yn gofalu fod y gwlanen wedi dod o'r ffatri at bwrpas y wniadyddes. [?? ] byddai rhybeth arall yn ei eisiau yr oedd yn mynd i'r ffair i'w prynu yn Caerfyrddin, Castell Newydd Emlyn neu Crymych neu San Clêr lle oedd ffair fisol a'r ffatriwr yn dyfod eu hwyddau.

 

[MS 1690_0048]

        Yr oedd y ffermwr yn mynd a'r gwlanen i'r ffatri i wneud edyfedd a brethyn at  wasanaeth ei deulu.

4.     Yr oedd y ffatrioedd yn gwneud dillad gwely, blancedi a'r cartheni cadwent ddynion i wau. Roedd rhai gwragedd yn yr ardaloedd yn gwneud cwiltiau.

Roeddynt prynu 'ticin' a'r 'madras' mewn siap yn y dre. Roedd y gobenyddion yn call eu gwneud cartref,. Yr oeddynt yn gwneud gwely o us a chaff, gwellt ceirch. Ceid gwely rhawn 'gwely pluf' a gwely [millpuff??] – gwlan o rhyw fath – malu clytau. Roedd y saer yn gwneud y fframin pren ond os gwely haearn rhaid mynd i siap yn y dre.

5.     Canhwyllau: Nid llawer côf o wneud canhwyllau  brwyn canhwyllau o wêr defaid. Cadwid rhai at y parlwr ac roedd ganddyd fwy o olau coch na'r rhai yn brynid yn y siapiau.

 

[MS 1690_0049]

T.Arian Parod

1.Yr oedd gwraig y fferm bob amser yn cadw ieir a ddadwy a hefyd rhai ceiliogod ieuanc i'w lladd nawr ac yn y man. Felly byddai'n cael allan i brynu – te a siwgr oddi wrth y fflŵr os na fyddai digon o fflŵr i gwneith i'w gael. Hi fyddai'n cael y arian hyn i gyd.

Cyfran y gwr – arian oedd yn gael pan werthid anifeiliad y fferm.

2.     O arian yr wyau a'r fowls yr oedd y wraig yn prynu popeth at y tŷ. Nid oedd angen arni ymenyn na chaws am fod gyda'i y pethau hyn adref.

3.     Dillad – yr oedd angen dillad o hyd ac oedd yn rhaid cael dau bâr o ddillad. Eisiau  dillad isaf – dillad erbyn y Sul, dillad i fynd i'r ffair a'r farchnad a dillad gwaith bob dydd. Rhaid oedd cesio cynilo arian i cael dillad.

4.     Dodrefn: anaml iawn yr oedd y saer

 

[MS 1690_0050]

            yn gwneud dodrefn i'r teulu, ond yr oeddynt yn ei gwneid yn yr hen, hen amser.

Th. Tlodi

1.     Gweld y tŷ a'r muriau tu ferm heb weld dim tamaid o babur ers blwyddoedd – a hwnnu erbyn hyn yn torri allan ac yn adfeiliio. Y ffenestri heb weld paent ers blynyddoedd, y muriau tu allan heb gael ei gwyngolchi ers hir amser a'r tu fewn wedi mynd yn ddu gan fŵg y tân [caed/?] ,a'r plant yn hanner noeth a golwg llwyd denau arnynt.

2.     Bwydydd gwael: bara wedi llwydo, bara a [?] ynddo, cawl wedi suro, cig wedi [?] ac yn dechrau [cynranu?]. Te wedi ei ferwi, caws wedi llwydo a glasu.

            Cynhaeafau gwael: Lladd gwair a hwnnw yn bod yn llawr am dair wythnos  neu fis , nes eu bod wedi myn yn ddu

 

[MS 1690_0051]

ac ysgawn ar ôl y troi a'r chwalu:

Torri llafur: yn yr hen amser fe'i torrid a'r bladur. Yna'r tywydd yn troi'n wael ac yn wlyb iawn ac llafur yn [egnio?] ar y ddaear, methu a'u gael yn digon sych i rwymo ac yn ei gael i'r [dôs?] ar ôl hynny ac yn [egnio?] eil waith.

Tato yn pwdri yn y ddaear oherwydd y tywydd gwlyb.

4. Cael dau ben llwyn ynglyd: Nid oedd y ffermwr yn hel pysgod. Gwraig y fferm a phalu  gwraig o ran hynny os byddai ganddi hi i gadw ieir yn eu cadw i ddadwy er mwyn helpu ei phriod pan oedd y cyflog yn isel. Y ffermwr yn gofalu fod anifeiliad ganddo i'w gwerthi i gwrdd a gofynnau y fferm. Talu rhent, talu'r dreth, talu'r gweision a morwynion – yr oedd angen ar y ffermwr i fod a'i lygaid yn agor. Yr oedd ambell I ffermwr yn troi I brynu a gwerthi anifeiliad, eraill yn cadw moch ac

 

[MS 1690_0052

eraill yn cadw baedd. “Pob [tyliadaeth] rhad tylodi”.

 

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment