Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Description
William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill Daeth dy lythyr dyddiedig Awst 26/17 im llaw yn ddiogel a da oedd gennyf gael gair. Y mae yn hanner mis Hydref eto ar ol ymladd caled a'r caletaf a brofais eto. Dywedais wrthyt mewn llythyr os byddai i'r gynnau gynyddu yn eu trymder a'u rhif i'r graddau y mae wedi gwneud yn y misoedd diwethaf yma, wn i ddim be fydd yr offensive yn y Gwanwyn nesaf ac fe gefais flas o hyn.Y mae yr Ellmyn ym meddiant o'r gynnau yn ogystal â ni ac yn gwneud pethau yn bur anghysurus i ni. Eto yr ydym yn ei guro bob tro a cholli ei afael y mae ar y bryniau sydd o gylch Ypres. Gwyn fyd na welir terfyn arno a hynny yn fuan. Mae rhyw swn yn y gwynt y dyddiau ac nid yw sefyllfa fewnol yr Almaen mor gysurus ag y bu. Yr wyf yn cael ychydig seibiant nawr ac oeri mae'r tywydd a ninnau yn ofni'r gaeaf. Hwyrach dy fod wedi clywed bod Alser wedi ei glwyfo yn ei goes ond nid yn ddrwg yn ôl bob tebyg. Newydd ddod allan o'r Ysbyty ac yn ol eto yn Ffrainc y mae ar hyn o bryd. Ydym y mae y milwyr Cymreig yn cael sylw yn y papurau yn ddiweddar fel pob milwr arall ar hyn o bryd. Yn ol addewidion y Llywodraeth bwriadwn daro y gelyn am ei air raids ar Lundain. Hyderaf y byddant gystal a'u gair yn hyn. Nid oes gennyf un amcan ble mae Goronwy ar hyn o bryd. Carwn weld heddwch cyn Nadolig ond ofer yw meddwl ar hyn o bryd. Cofion goreu W Hughes
Do you have information to add to this item? Please leave a comment
Comments (0)
You must be logged in to leave a comment