Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill Diolch am dy lythyr diddorol. Cyn y cyrraedd hwn dy law tebyg yw y byddwn dan ganfas ar y maes agored. Ni wyddwn pa le y byddwn. Rhaid i mi addef y bydd yn chwith i ni ar ol cael amser mor braf mewn tai cysurus a gwenau siriol genethod mwyn os bydd rhaid i ni fynd i ryw anghyfanedd le. Rhyfedd y cyfnewidiad sydd i'w weld ymhob man. O ran y bywyd yr wyf yn gael ...... Ond nid dyna fy nymuniad. Ni olyga hyn fy mod yn treulio fy amser yn ofer. Na, yr ym wrthi yn ddiwyd iawn o 7 y bore hyd 5 y nos. Fe gymer fwy o amser i baratoi y RE gan fod ganddynt gymaint i'w ddysgu. Tebyg yw y byddwn ninnau allan cyn diwedd yr haf ac yn gadrawd bur dda. Wel! Mae yr Ellmyn yn ychwanegu beunydd at gyfres ei elynion. Nid wyf yn credu y bu cenedl ag amcanion mor wrthnaws i deimladau dynol. Mae ynddo y Lusitania un o'r erchyslonderau gwaethaf a ddigwyddodd eto. A mae President Wilson yn ddirgelwch i mi. Fe fyddai yn brofiad newydd pe deuit drosodd i weld y milwyr clwyfedig sydd yn cael eu danfon drosodd yma. Mae yn rhaid i'r wlad hon wrth bob dyn cyn diwedd yr ymgyrch hyn. Fel y gwyddost mae Europe yn ferw drwyddi a pha ryfedd. Hyderaf dy fod yn iach. Yr oeddwn adref ryw fis yn ôl ac yr oedd pawb yn dda yno. Hyn gyda chofion cynnes Oddi wrth dy gyfaill W Hughes

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (1)

Anonymous's profile picture
Cwl gweld ti fyna John. Byddai yna am 11, am tua awr, ac wedyn eto am 3 o'r gloch.Dwi bach yn araf ar y tdyarr ond dwi wedi rigio'r blog yma i tdyarru (?!) yn awtomatig, felly o leia dwi'n gwneud rhywbeth!

You must be logged in to leave a comment