Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

William John Gruffydd (1881-1954). Llenor, bardd,ysgolhaig a beirniad. Fe'i ganed yng Ngorffwysfa, ym Methel, plwyf Llanddeiniolen, Caern., yn fab hynaf i chwarelwr. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Caernarfon ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle'r astudiodd y Clasurol a Llenyddiaeth Saesneg. Yn Rhydychen daeth dan ddylanwad John Rhys, ac yn arbennig, Owen M. Edwards a fu'n arwr iddo trwy gydol ei oes. Cafodd gyfle i feithrin ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yng nghyfarfodydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Yn 1906 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd yn yr Adran Gelteg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yn Athro Celteg (teitl a newidiodd yn ddiweddarach i Gymraeg) yng Ngholeg Caerdydd yn 1918, gan aros yn y swydd honno hyd ei ymddeoliad yn 1946. O 1922 nes y dirwynwyd ef i ben yn 1951 bu'n olygydd y cylchgrawn chwarterol Y Llenor. Ymhlith ei ddiddordebau ar hyd y blynyddoedd yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol a phenodwyd ef yn Llywydd y Llys yn 1945. Mewn is-etholiad am sedd Prifysgol Cymru yn 1943 fe'i hetholwyd yn Aelod dros Rhyddfrydwyr a daliodd y sedd honno hyd oni ddiddymwyd cynrychiolaeth Seneddol y prifysgolion yn 1950. Ei gyd-ymgeisydd yn yr ymryson hwnnw oedd ymgeisydd Plaid Cymru, Saunders Lewis; cefnogid Gruffydd gan holl bleidiau Clymblaid cyfnod yr Ail Ryfel Byd ac enillodd y sedd gyda 3, 098 o bleidleisiau yn erbyn y 1,330 a roddwyd i Lewis. Er mai Saesneg a Chlasurol oedd ei addysg yn Ysgol Sir Caernarfon, dechreuodd W. J. Gruffydd ymddiddori'n gynnar mewn barddoniaeth Gymraeg. Gyda'i gyfaill R. Silyn Roberts, cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Telynegion, yn 1900. Daeth dan ddylanwad syniadau John Morris-Jones ac er iddo, ym mhen draw blynyddoedd, ystyried mai gwaith prentisaidd iawn oedd ei gerddi cynnar, gwelir ynddynt ymdrech i hyrwyddo dull newydd o farddoni yn Gymraeg gan arddel pwysigrwydd lliw a theimlad a synwyrusrwydd yn hytrach na'r modd sisactig ac athronyddol a oedd mewn bri ar y pryd. Yn Rhydychen dechreuodd ddarllen gweithiau Thomas Hardy a bu'r profiad yn fodd i ffrwyno ei Ramantiaeth gynnar ac i ddwyn llymder a sobrwydd disgybledig i'w feddwl a'i arddull. Amlygir y nodweddion hyn yn ei gyfrolau eraill o gerddi, sef Caneuon a Cherddi (1906) ac Ynys yr Hud a Chaneuon Eraill (1923), ac yn fwyaf arbennig, yn Caniadau (1932), y detholiad a baratodd ar gyfer Gwasg Gregynog o'r cerddi o'i eiddo a farnai'n orau. Yr oedd hefyd yn gasglwr ac yn ddetholwr o safon, a golygodd Y Flodeugerdd Newydd (1909), Blodeuglwm o Englynion (1920) ac Y Flodeugerdd Gymraeg (1931). Wrth iddo heneiddio troes W. J. Gruffydd fwyfwy oddi wrth farddoniaeth at ryddiaith feirniadol fel cyfrwng i fynegi ei feddwl; ceir llawer o'i waith gorau yn Hen Atgofion (1936), Cofiant Owen M. Edwards (1937) ac yn Y Tro Olaf (1939). Yn Y Llenor ysgrifennai nodiadau golygyddol bywiog, deifiol yn aml, ar bynciau'r dydd. Ymhlith ei gyfraniadau i ysgolheictod Cymraeg dylid nodi ei ddwy gyfrol ar hanes barddoniaeth a rhyddiaith, Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 (1992) a Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith o 1540 hyd 1600 (1926). Ei ddiddordeb pennaf ym mae ysgolheictod oedd cyfansoddi a chynnwys storiol Pedair Cainc y Mabinogi a diau mai gwaith John Rhys ar y traddodiadau Celtaidd paganaidd a'i symbylodd yn wreiddiol. Ymhlith ei gyfraniadau niferus i'r maes hwn gellir enwi'n arbennig y ddwy gyfrol Math Vab Mathonwy (1928) a Rhiannon (1953). Er bod angen llawer o adolygu manwl ar ei gasgliadau yn y maes hwn, nid oes lle i amau ei wreiddioldeb a'i dreiddgarwch a gwerth hanfodol ei gnewyllyn damcaniaethol. Yr oedd W. J. Gruffydd yn wr o feddwl aflonydd a chyfnewidiol. Yr oedd yn Anghydffurfiwr o argyhoeddiad; rhoddai bwys ar oddefgarwch a rhyddid meddwl ac nid da ganddo glymu wrth unrhyw gyfundrefn o syniadau. Dechreuodd ei yrfa fel gwrthryfelwr yn erbyn safonau oes Fictoria eithr arferodd lawer ar ei ddawn i glodfori'r werin wledig syml, a chaled ei byd, y tarddodd ef ohoni. Gwelai ei feirniaid arwyddion o anghysondeb yn ymddygiad gwr a ymosododd ar y 'rhyfelgarwyr' wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, a gefnogodd y Cenedlaetholwyr a achosodd y Tan yn Llyn yn 1936 gan alw ar ei gyd-wladwyr i fynd mor bell a boicotio'r Coroni er mwyn mynegi dicter cenedlaethol , ond a oedd erbyn 1939 yr un mor frwd ei gefnogaeth i'r polisi o ymladd yr Ail Ryfel Byd. Nid oes, er hynny, unrhyw amheuaeth nad oedd yn credu'n ddifuant yn y gwahanol safbwyntiau a goleddai ac y byddai, o bryd i'w gilydd, yn eu harddel. Gwnaethpwyd ymgais deg a gwrthrychol i esbonio ei gyfnewidioldeb gan un a adweinai deithi ei feddwl yn dda, sef T. J. Morgan, yn y gyfres Writers of Wales (1970); gweler hefyd yr ysgrif gan Alun Llywelyn-Williams yn Gwyr Llen (gol. Aneirin Talfan Davies, 1948), rhifyn coffa Y Llenor (1955), erthygl gan John Gwilym Jones yn ei lyfr Swyddogaeth Beirniadaeth (1977), llyfryn Iorweth C. Peate ar y llenor (1966), cyfrol T. Robin Chapman, W. J. Gruffydd, ac erthygl bwysig Ceri W. Lewis, 'W. J. Gruffydd' yn Y Traethodydd (Hydref 1994). Cyhoeddwyd detholiad o'i nodiadau golygyddol gan T. Robin Chapman yn 1986 a chasgliad o'i feirniadaeth lenyddol o dan y teitl Yr Hen Ganrif (gol. Bobi Jones) yn 1991. Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment