Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Mary Annie Davies yn cyflwyno’r faner a greodd ar gyfer Merched y Wawr Cangen Bro Cennech ym 1990
Yn y llun mae Linda Sidgwick, Mary Annie Davies, Nellie Evans
Cefndir Cangen Merched y Wawr Bro Cennech
Ar ddechrau 1989(??) daeth criw niferus ynghyd i drafod cychwyn cangen o Ferched y Wawr yn Llangennech. Gwahoddwyd Llywydd y Rhanbarth, Hazel Charles Evans i’r cyfarfod i esbonio beth fyddai’r camau angenrheidiol a buan y sefydlwyd y pwyllgor cyntaf sef Linda Sidgwick, Llywydd, Mareth Lewis, Ysgrifennydd a Patricia Jones, Trysorydd.
Roedd pawb yn frwdfrydig iawn ac roedd nifer o gwestiynau i’w hateb – beth fyddai enw’r gangen? ble byddem yn cyfarfod? pryd byddem yn cyfarfod a phwy fyddai’n creu ein baner?
Roedd dewis gwraig i lunio’r faner yn hawdd gan fod un o’n haelodau sef Mrs Mary Annie Evans wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1962 am ei gwaith gwnïo cain. Cytunodd i ymgymryd â’r dasg a bu’n gweithio yn ddyfal am wythnosau yn chwilota am y deunyddiau gorau er mwyn creu baner a fyddai’n cynrychioli’r gangen newydd. Bu cryn drafod ar yr hyn yr oedd yr aelodau am ei gyfleu ac fe benderfynwyd mai dangos cyfuniad o ochr ddiwydiannol ac ochr amaethyddol yr ardal fyddai’r nod. Llwyddodd Mrs Evans i greu baner grefftus sy’n dangos ei dawn i frodio’n gywrain gan amrywio lliw a phatrwm yn ddeheuig. Mae’r pwyllgor presennol yn sicrhau bod y faner yn cael ei gosod mewn lle amlwg ar ddechrau pob cyfarfod ac rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith fod baner Bro Cennech yn un faneri gorau’r mudiad.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment