Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Merched y Wawr Cangen Cwm Rhymni yn ymweld â gardd Fferm Croesllanfro yn Nhy Du ger Casnewydd
Ers blynyddoedd bellach, yn ystod yr haf, rydym yn mynd ar ymweliad gyda’r nos â gardd leol. Dyma ni, aelodau cangen Cwm Rhymni, yng ngardd Fferm Croesllanfro yn Nhy Du (Rogerstone, ger Casnewydd). Un o erddi ydyw sy’n perthyn i’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol a felly aeth ein tal mynediad tuag at elusennau a benodwyd eisoes gan y Cynllun.
Roedd yn noson braf a chawsom groeso heb ei ail gan Liz a Barry Davies yn eu cartref arbennig a achubwyd pan yn adfeilion a’i atgyfodi i’w ysblander presennol. Dangoswyd luniau i ni o weddnewidiad yr adeiladau, gan gynnwys y ty, ysgubor y degwm o’r 19 ganrif cynnar a dwy erw o ardd, lle roedd digon o gorneli tawel, prydferth i guddio er mwyn synfyfyrio. Cawsom lased o win tra’n sgwrsio â'r perchnogion a oedd wedi dotio ar y ffaith bod grwp Cymraeg eu hiaith wedi glanio yn eu gardd ac yn synnu ein bod yn cymdeithasu’n hollol gartrefol a naturiol yn y Gymraeg.
Yn y llun mae CYLCH O AELODAU YN GWRANDO AR ELIN JONES YN ADRODD HANES YR ADEILAD ROEDDEN YNDDI – YSGUBOR Y DEGWM O’R 19FED GANRIF.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment