Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Rhaglen Dadorchuddio Cofeb Gwenllian, Castell Cydweli, Mai 23, 1991. Pwyllgor Dyfed Merched y Wawr wnaeth drefnu a chodi arian tuag at Cofeb Gwenllian yng Nghydweli. Breuddwyd Dr Gwynfor Evans oedd y gofeb yn wreiddiol ac ef wnaeth ei dadorchuddio. Ieuan Rees o Rydaman oedd y cerflunydd.
Bu farw’r Dywysoges Gwenllian, ynghyd â’i mab Morgan, ar faes y gad ym 1136 yng Nghydweli wrth ymladd arglwydd y castell, Maurice de Londres, er mwyn achub Deheubarth (de-orllewin Cymru) rhag goresgynwyr Normanaidd. Roedd Gwenllian yn ferch i Gruffydd ap Cynan ac yn wraig i Gruffydd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth ac Arglwydd Ystrad Tywi. Cafodd Gwenllian bedwar o feibion, gan gynnwys Rhys ap Gruffudd, yr Arglwydd Rhys.
Gwnaeth Gwenllian gyfraniad arwrol yn y brwydro hir a thyngedfennol yn erbyn y Normaniaid a sicrhaodd barhad yr iaith Gymraeg a chenedligrwydd Cymru.
Clawr y rhaglen

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment