Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Merched y Wawr Cangen Cwm Rhymni yn mwynhau Trip i Abaty a Neuadd Cwm Hir. TRIP HAF MERCHED Y WAWR CWM RHYMNI

Aethom ar ein trip haf i Abaty a Neuadd Cwm Hir, i’r gogledd o Landrindod.

Roedden i gyd yn awyddus i weld bedd Llywelyn ein Llyw Olaf yn yr Abaty a gerllaw roedd Neuadd Abaty Cwm Hir, sef plasdy a glywsom llawer iawn amdano gan fod miloedd yn tyrru yno o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.

Ar ein ffordd galwon yn hen orsaf Erwood, ger Llanfair-ym-Muallt. Mae’n le cyfleus i aros am seibiant ar daith rhwng gogledd a de. Cafodd rhai ohonom ddisgled, ond roedd eraill a mwy o ddiddordeb mewn astudio’r celf a chrefft. Prynwyd ambell gerdyn cyfarch Cymraeg – digon o ddewis o bopeth – a chroeso yno fel arfer.

Ymlaen â ni wedyn i’r Neuadd ym mhentref Abaty Cwm Hir - adeilad moethus, crand a adeiladwyd yn Oes Fictoria. Gan fod si ar led bod glaw ar y ffordd, dechreuon ein hymweliad trwy fynd ar grwydr ar hyd 12 erw o erddi, tipyn ohonynt ar lethr. Rhwydd oedd gweld pwy oedd yn heini o’n haelodau! Roedd ôl gwaith caled ar y gerddi hyfryd yma – yn enwedig wrth feddwl taw tîm bach iawn sy’n cadw’r gerddi a’r ty yn dwt ac yn drefnus. Fe fydden wedi hoffi aros tipyn yn hirach yn eistedd yn yr haul yn mwynhau’r naws a’r prydferthwch – ond roedd y cwmni bwyd lleol a oedd yn paratoi lluniaeth ysgafn ar ein cyfer yn garedig iawn yn aros amdanom ers peth amser. Roedden i gyd fod i ddod â phar o sliperi, felly ar ôl newid i rheini, mewn â ni i fwyta llond bol o fwydydd sawrus a melys. Daeth y perchennog i siarad â ni’n anffurfiol tra roedden yn bwyta – ac yna dyma’r daith oddiamgylch y 52 ystafell yn dechrau o ddifrif. Roedden i gyd yn teimlo’n hollol gartrefol. Os oedd rhywun am adael y daith ar hanner, doedd dim problem. Gallen gael ein tywys nol i fan cyffyrddus i aros am weddill y grwp. Ond doedd neb eisiau bod y cyntaf i roi lan – felly cyrhaeddodd bob un ohonom y diwedd – rhai yn edrych mwy gwelw a llwydaidd nag eraill!

Wel – os am syrpreis rownd bob cornel! Rhestrir Neuadd Abaty Cwm Hir fel Gradd II, un o’r enghreifftiau gorau o bensaerniaeth neo Gothig yng Nghymru. Prynodd Victoria a Paul Humpherston y Neuadd ym 1997 a treulio’r 10 mlynedd canlynol yn ei drawsffurfio i’w ysblander presennol. Mae’n syfrdannol beth maent wedi’i gyflawnu. Ni ellir cymharu’r Neuadd a unrhyw dy crand arall rwyf wedi bod ynddo, gan gynnwys plasdai a manordai yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol. Adeilad a phrofiad hollol unigryw a gawsom yma. Mae’r perchnogion wedi rhoi eu stamp a’u steil eu hun ar bob twll a chornel. Mae pob stafell yn orlawn o gymysgedd o’r hen a’r newydd, a chasgliadau drudfawr o gelfi, llestri, dillad, darluniau, ayb, yn eistedd yn hapus ochr yn ochr a nwyddau syml, rhad a rhesymol. Roedd hefyd ôl ymdrech y perchnogion i gasglu cymaint â phosib o wrthrychau o Gymru.

Ar ôl dwy awr o gael ein tywys drwy’r ystafelloedd di-ri, roedden yn fwy na pharod i fwynhau paned a chacen cyn gwneud ein ffordd i’r Abaty.

Saif adfeilion Abaty Cwmhir ar lan Nant Clywedog. Er na chwblhawyd yr Eglwys a’r Abaty i gynllun uchelgeisiol Llywelyn Fawr yn y 13 ganrif, dim ond dwy eglwys sydd â chorff hirach na’i 242 o droedfeddi (74.5 metr), sef eglwysi cadeiriol Caerweir a Chaerwynt (Durham a Winchester)! Gwelsom fedd Llywelyn ein Llyw Olaf a’r gwartheg yn pori’n hamddennol ar y tir oddi amgylch. Dros y canrifoedd mae cerrig o’r adfeilion wedi eu gwasgaru dros yr ardal cyfagos – a’u cynnwys mewn eglwysi, ffermdai, manordai, ayb. Buom yn lwcus i gwrdd â’r ffermwr sy’n byw drws nesa i’r abaty, a dangosodd un o’r cerrig a ddaeth o’r abaty sydd erbyn hyn wedi ei adeiladu i mewn i wal ei ardd. Mae’r garreg hon yn dangos codiad y Mair Forwyn, a hi oedd Nawddsant yr Abaty, fel sy’n wir am bob abaty Sistersiaidd.


Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment