Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Transcription:

'Pennillion
i ymddiffyn Mr. Chambers, ac erfyniad arno i aros yn Llanelli

Arafwch Foneddwr, na chiliwch o'n hardal,
O herwydd mai lluoedd ddymunant eich attal;
Paham rhaid in' golli Bonheddwr o fawrfri
Yr hwn sy'n attegwr a noddwr Llanelli.

Hir oes a ddymunem i chwi ac i'ch tylwyth,
A boed bell oddiwrthych bob dychryn ac adwyth,
A'ch arall ran addien mae teimlad am dani
Am na byddai'i awron yn Mhalas Llanelli.

Nyni a obeithiem nad oedd dim ond angau
A fedrai'ch hysgaru oddwrth ein mynwesau;
Gresynol i 'storom mor sydyn i godi
Gan roi i'ch dueddiad i adael Llanelli.

Nol treulio blynyddau yn eithaf cyssurus,
A chwi yn ein canol fel penaeth llwyddiannus,
A ni yn y diwedd a doir a'r fath anfri
Trwy adael yn hollol o honoch Llanelli.

Paham bydd digasedd yn erbyn eich person
A fedr plant Beca fod wrthych chwi'n ddigllon
Na, pell fyddo dial nol derbyn daioni
'N gynhyrchiol oddiwrthych tra'n byw yn Llanelli.

O blaid pob diwygiad a threfniad daionus
Chwychwi yn gweithredu a welwyd mor hwylus,
Heb arbed dim llafur na threulion aneiri'
A fedrent ddwyn llesiant i'r wlad a Llanelli.

Yn amser gorchestol y brwd etholiadau
Chwychwi oedd ein blaenor i sefyll pob rhwystrau;
Am bleidio pob mesur haelfrydig 'doedd ini
Foneddwr cyffelyb yn ardal Llanelli.

Y beichiau presennol a bwysant mor enbyd,
Pob moddion cyfreithlon gynlluniech i'w symud,
Os chwi a enciliwch, gadewir mewn cyni
I ochain o danynt drigolion Llanelli.

'Does neb all eich beio am balliant mewn rhinwedd,
Na chalon galedwch at rai diymgeledd;
O weled gwell amser pa obaith sydd ini
Trwy yru oddwrthym attegwr Llanelli.'

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment