Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Date: 23 November 1915

Transcript:

DEWRDER BACHGEN O BWLLHELI
Achub Dwylaw Llong

Yr wythnos ddiweddaf cyflwynodd y "Liverpool Shipwreck and Humane Society eu bathodyn i Mr John W. Jones, mab hynaf Mr a Mrs David Lloyd Jones, High Street, Pwllheli (oriadurwr). Mae Mr. Jones yn gwasanaethu fel peirianydd ar yr agerlong Saint Leonards, perthynol i'r Cwmni Rankin, Calmour and Co., Lerpwl. Mae yn argraphedig ar y bathodlyn, "To J. W. Jones, s.s. St Leonards, for gallant service, August 13, 1915." Mewn llythyr a anfonodd adref desgrifia Mr. Jones y modd y bu iddo gymeryd rhan mewn achub bywydau criw llong hwyliau fechan perthynol i Ffrainc. Dyma fel y dywed: "Cawsom brofiad newydd hollol wrth

[photograph pf John Jones]
MR J. W. JONES.

groesi y tro hwn. Pan oeddym tua chanol y Werydd, oddeutu haner nos, Awst 12ed, gwelsom oleuadau yn galw am gymorth ar long fach oedd mewn cyfyngder. Yr oedd yn dywyll iawn, ac yn bwrw yn drwm. Daeth y Capten i alw arnaf o'm gwely er cael golwg arni. Tua 12-30 daethom yn ddigon agos i wneyd arwyddion iddynt. Yr oeddym mor agos fel y bu iddynt waeddi yn ol fod arnynt eisiau gadael y llong am ei bod yn suddo. Bu i ni ollwng cwch i lawr, a chan fy mod i yn rhydd o'r wyliadwriaeth ar y pryd, cynygiais gymeryd rhwyf yn y cwch. Yr oedd y mate yn gofalu am y cwch. Yr oedd y mor yn donog iawn, ond yr oedd y gwlaw yn lliniaru peth ar ei gynddaredd. Daethom i ymyl y llong yn hwylus. Pwysai y Capten am i'r mate fyned ar ei bwrdd er gweled ei fod yn gwneyd pob peth angenrheidiol er dinystrio y llong cyn ei gadael. Gofynodd y mate i mi fyned gydag ef i'r llong, ac aethom ein dau i'r saloon. Buom ar ei bwrdd am tua 10 munud a chyn ei gadael gwelsom fod y llong wedi ei rhoddi ar dan, ac yn prysur suddo. Cynwysai y criw saith o ddynion. Yr oedd yn debyg o ran maint i un o longau Porthmadog. Perthynai i Ffrainc, a deuai y criw o Bordeaux. Ac yn hynod iawn yr oeddym ninau wedi cychwyn o Bordeaux. Dywedai y Capten eu bod wedi cael profiad enbyd. Buont yn pympio dwfr o'r llestr yn ddibaid am 15 diwrnod ac ni welsant yr un long ar y weilgi fawr yn ystod yr holl amser. Cafodd St Leonards, fodd bynag, y fraint o ddwyn y criw i ddiogelwch."


Source:
'Dewrder Bachgen o Bwllheli.' Yr Herald Cymraeg. 23 Nov. 1915. 6.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment