Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Description

Date: 20 April 1915

Transcript:Geufronydd [pseud.]

ABERDYFI.
Y DIWEDDAR MR W. OSBORNE HUGHES O’R AGERLONG “FALABA.”—Drwg gennym hysbysu fod Mr W. Osborne Hughes, Conwy, ymhlith y rhai a gollwyd trwy suddiad yr agerlong Falaba gan Submarine y gelyn ar draethau Penfro. Yr oedd yr ymadawedig yn fab i’r diweddar Henadur Hugh Hughes, Conwy, a Mrs Hughes, Aberdyfi, ac yn frawd i Mrs E. L. Rowlands, Aberdyfi. Gedy briod a thri o blant i alaru ar ei ol. Nid oedd ond 30 mlwydd oed. Gwasanaethai Mr Hughes fel Ysgrifenydd i’r Purser ar fwrdd y llong a suddwyd dan amgylchiadau mor greulon ac anynol. Cydymdeimlir yn fawr a’r teulu sydd mewn galar dwfn ar ei ol. Ar derfyn yr oedfa nos Sabboth diwedd af arwyddodd cynulleidfa ein Heglwys yn Aberdyfi ei chydymdeimlad dwysaf a’r teulu yn eu trallod. Er’s rhai blynyddau bellach ymgartrefa Mrs Hughes, y fam, yn y lle hwn, ac yn ol ei harfer parha yn ffyddlon a gweithgar dros yr achos mawr. Mawr yw ei galar ar ol ei hunig fab. Diddaned yr Arglwydd y fam a’r chwiorydd, y priod a’r plant bach, yn eu galar a’u colled. Ymddiriedent yn noethineb a chariad yr Hwn sy’n teyrnasu.

“Ni ddirnad synwyr cnawdol dyn
Ddirgelion troion Duw
Efe ei Hun eglura’n llawn
Ei holl fwriadau gwiw.”

P.


Source:
'Aberdyfi.' Gwyliedydd Newydd. 20 Apr. 1915. 7.

Do you have information to add to this item? Please leave a comment

Comments (0)

You must be logged in to leave a comment