Content can be downloaded for non-commercial purposes, such as for personal use or in educational resources.
For commercial purposes please contact the copyright holder directly.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Description
William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William's physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. Transcript: Annwyl Gyfaill Wedi hir oedi dyma fi yn cymeryd hamdden i anfon gair atat o faes y frwydr. Yr wyf bellach wedi treulio mis ynghanol cyfaneddau y gelyn lle y lluchir magnelau yn ddiarbed. Nid oedd gennyf un dirnadaeth am y rhyfel nes dod i'w chanol. Ond y rhyfeddod yw fel y mae wedi dod yn waith cyffredin. Mae yma gynnau yn ddirif ac mae eu heisiau. Mae y milwyr fel rheol yn lletya mewn pentrefi pa rai sydd yn wag unrhyw le os bydd yno gysgod ac os na fydd ty wel cysgu ar draws rhyw das wair neu wellt. Ddoe yr oeddym yn dychwelyd o'r ffosydd i orffwys rhyw ugain diwrnod rhyw ddeg milltir neu chwaneg y tu ôl i'r ffosydd. Y traffig yn aruthrol. Yr oedd un croesffordd lle y cyferfydd pump ffordd. Gorfu i ni aros awr cyn y gallem fynd heibio yn disgwyl ein tro. Clapham Junction y gelwir y lle. Yr oedd yno Transport Lorries yn disgwyl i fynd heibio rhyw gwarter milltir ar bob un o'r heolydd hyn. Ti weli y fath beth yw rhyfel a hyn ymhob man yr eir iddo nid yma yn unig. Y mae y newyddion yr wythnos hon yn bur addawol. Hyderaf y bydd i'r Rwsiaid i denio ei rhaff fel y gallom gael rhyw gyfle arnynt yr ochr hyn. Credaf fod eu hamddiffynfeydd yr ochr hyn yn gryfach na un lle. Ac fe fyddai yn well gan yr Ellmyn gael ei goncwerio gan bawb na gennym ni. Hyderaf fod concwest ger llaw. Cofion gorau Dy gyfaill diffuant W Hughes
Do you have information to add to this item? Please leave a comment
Comments (0)
You must be logged in to leave a comment