Hen Emynau Llafar Gwlad: 'Mi welais haf a gaeaf, / Mi welais ddydd a nos ...'

Items in this story:

  • 1,263
  • Use stars to collect & save items login to save


This story is only available in Welsh:



'Mi welais haf a gaeaf, / Mi welais ddydd a nos ...' Ail-adrodd a chyfosod. Fe hoeliwyd Pren y Bywyd     Wrth bren ar Galfari; Bu farw Pren y Bywyd      Drwy ddioddef drosom ni; Fe gladdwyd Pren y Bywyd     Yng ngwaelod bedd tan gudd; Fe gododd Pren y Bywyd      Ar fore’r trydydd dydd. Tâp AWC 5071: Y Parchg William Morris, Caernarfon. Ganed: 17.xi.1889, ym Mlaenau Ffestiniog. Recordiwyd: 18.viii.1976. Un o emynau poblogaidd Diwygiad 1859. Gw. hefyd Hymnau y Diwygiad (o wasg Robert Jones, Bethesta, 1859). * * * Yng ngwydd yr haul fe hoeliwyd      Yr Haul ar ben y bryn; Gwnaeth Haul i haul dywyllu,     



Bydd eto gof am hyn. Rhoed Haul heb haul i orwedd      Ar waelod bedd ynghudd, Dau haul a gyd-gyfoda     Ar fore’r trydydd dydd.   Tâp AWC 5070: Y Parchg William Morris, Caernarfon. Recordiwyd: 18.viii.1976. Cofnodwyd hefyd, gyda mân newidiadau, drwy dystiolaeth Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. (Llsg. AWC 2868/2), a John W Jones, Cwm Main, Meirionnydd (heb rif llsg.). Yn ôl JWJ, un o emynau poblogaidd Diwygiad 1859 ydoedd. Priodolir yr emyn i’r Parchg David Saunders, ‘Dafydd Glan Teifi’ (1769-1840). Gw. John James, Pigion o Hymnau (1811), rhif 158. Fe’i cyhoeddwyd hefyd yn Hymnau y Diwygiad (o wasg Robert Jones, Bethesda, 1859). Gw. ymhellach erthygl E Wyn James: ‘Rhagor am Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyf. 3. rhif 1 (1988-89), tt. 24-30. * * * Fe welwyd Craig mewn dalfa      Gan wŷr y gwaywffyn;  Fe welwyd Craig yn hongian      Ar ben Calfaria fryn;  Rhoed Craig mewn craig i orwedd,      Hyd fore’r trydydd dydd; Er gwaetha’r maen a’r milwyr,      Daeth Craig o’r graig yn rhydd. Llsg. AWC 1793/514, t. 37. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Llsg. AWC 2868/1, t. 41. Mary Jones, Pennant, Ceredigion. Llsg. AWC 2868/2, t.1. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Yn ôl John W Jones, Cwm Main, Meirionnydd, dyma un eto o emynau poblogaidd Diwygiad 1859. Cyhoeddwyd yr emyn yn ddienw gan Garneddog yn ei gyfrol: Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 78. Clywodd y Dr Ceinwen H Thomas, Caerdydd, yr emyn hwn yn cael ei adrodd a’i ganu yn aml gan ei mam, Catherine Margretta Thomas (1880-1972), Nantgarw, Morgannwg, a hynny yn nhafodiaith hyfryd yr ardal honno, Y Wenhwyseg: Fi welas Graig mywn dalfa      Gin wŷr y gwayw-ffyn ... Gan ei mam hefyd y clywodd ddau bennill arall sy’n cael eu cynnwys yn y detholiad presennol o emynau llafar gwlad: Fi welas ’ef a gaea,      Fi welas ddydd a nos ... a’r pennill: ’en lestar Iachawdwria’th  A ddeth o’r nef i ni ... Fel tri phennill yn rhan o un emyn yr ystyriai Catherine Margretta Thomas y penillion hyn. Clywodd hwy’n cael eu canu gan ei mam-gu, mam ei thad, a adwaenid gan y teulu fel ‘Mam-gu’r Mynydd’. Ann Meredydd oedd ei henw cyfreithiol, ond Nanni Lew i’w chydnabod (ar ôl Lewis Davies, ei gŵr cyntaf). Yr oedd yn byw mewn bwthyn o’r enw Tŷ Nant ar Fynydd Caerffili, yn lled agos i Dafarn Clwyd y Gyrnos (The Black Cock Inn heddiw). Canai Ann Meredydd y tri phennill ar amrywiad o’r dôn ‘Bryniau Caersalem’, a chyhoeddwyd nodiant o’r gerddoriaeth a thestun o’r tri phennill (yn nhafodiaith Y Wenhwyseg) yn erthygl Ceinwen H Thomas, ‘Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyf. 3, rhif 1 (1988-89), tt. 20-23. Am ymdriniaeth bellach â’r emyn hwn, ac emynau cyffelyb sy’n rhoi pwys ar ail- adrodd a chyfosod, ac yn cyfeirio at ddelweddau megis craig, haul, pren y bywyd, a ‘hen lestr iachawdwriaeth’, gw. E Wyn James, ‘Rhagor am Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru’, cyf. 3. rhif 1 (1988-89), tt. 24-30. Gw. hefyd erthyglau ac emynau llafar gwlad gan Huw Llewelyn Williams (Porfeydd, Mai/Meh. 1970), a Huw Williams (Y Goleuad, 11 Mai 1990). * * * Cês ddŵr o’r Graig i’w yfed     I dorri’m syched mawr; Cês beunydd fara i’w fwyta –       O’r nef y daeth i lawr; Cês delyn tu yma i angau,      Fy holl gystuddion ffodd, I ganu i’r Oen fu farw –       Mae’n briod wrth fy modd. Llsg. AWC 1793/514, t. 40. Evan Jones (1850-1928), Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. * * * Tarawyd Craig yn Horeb,      Fe redodd dŵr i mâs,  I ddisychedu Israel      Yn beraidd iawn ei flas. Ond ar Galfaria fynydd      Fe d’rawd cadarnach craig, Fe redodd dŵr pereiddiach      O ystlys had y wraig. Llsg. AWC 1793/514, t. 42. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. * * * Marwolaeth sydd yn gyrru      Marwolaeth mâs o’r byd; Fe lwnc marwolaeth Iesu      Y marwolaethau i gyd. Trwy rinwedd glân y beddrod      Ac angau Calfari, Cawn ddweud wrth angau Eden:      ‘Ble mae dy golyn di?’ O gasgliad yn AWC. * * * Cofio’r nos bradychwyd Iesu,       O, mor hynod cofio’r ardd, Cofio Jiwdas, cofio’r fyddin      Ddaeth i ddal ein Ceidwad hardd; Cofio’r chwys a llys y profi,      Cofio’r groes a Chalfari, Cofio’r lludded mawr a’r syched      Pan yn marw drosof fi. Llsg. AWC 2868/2, t. 1. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Y mae’r pennill yn ddienw gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau, t. 8. ‘O, mor ryfedd’, sydd ganddo ef yn yr ail linell, a ‘Ddaeth i ddal y Person hardd’ yn y bedwaredd linell. Y seithfed linell gan Garneddog yw ‘Cofio’r syched, – cofio’r lludded’. * * * Cofio rwyf yr awr ryfeddol,      Awr wirfoddol oedd i fod, Awr a nodwyd cyn bod Eden,      Awr a’i diben wedi dod, Awr wynebu ar un aberth,      Awr fy Nuw i wirio’i nerth, Hen awr annwyl prynu’r enaid,      Awr y gwaed, pwy ŵyr ei gwerth. Tâp AWC 5070. Y Parchg William Morris. Recordiwyd: 18.viii.1976. Ei fersiwn ef ar y drydedd linell yw: ‘Awr a nodwyd draw yn Eden’. Cyhoeddwyd yn Caneuon Ffydd, 2001, rhif 512. Yr awdur yw John Robert Jones, ‘Alltud Glyn Maelor’ (1800-81). Ganed yn Llanarmon-yn-Iâl, sir Ddinbych. Gw. Delyth G Morgans, Cydymaith Caneuon Ffydd, 2006, tt. 173, 455-6. ‘Symbylwyd Alltud Glyn Maelor i lunio’r pennill hwn wrth wrando ar bregeth y Parchedig Owen Owens, Brymbo, ar y testun, ‘Y Tad, daeth yr awr’. Ymddengys i’r emynydd estyn darn o bapur i’r pulpud ar ddiwedd y bregeth, ac arno’r pennill oedd newydd ei ysgrifennu ... Dywedir yng nghyfrol W A Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru (1892, tt. 229-30) fod Gwilym Hiraethog yn ystyried y pennill hwn yn un o’r goreuon yn yr iaith Gymraeg.’ (Cydymaith Caneuon Ffydd, t. 173.) * * * Mae amser wedi cario      Rhyw filoedd maith o’r byd; Dyw amser ddim yn segur,      Mae wrth ei waith o hyd; Fe’n caria amser ninnau      Ryw ddydd i ben ein taith, Nid oes dim rhifo amser      Yn nhragwyddoldeb maith. Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris. Recordiwyd 18.viii.1976. Llsg. AWC 1793/514, t. 10. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. * * * Mae Duw, fy Nhad, yn Seion,      Yn cadw cartref im; Mae Iesu, mrawd, yn Seion      Ni raid im ofni dim. Mae’r Ysbryd Glân yn Seion,      Cysuron rydd i’r saint; Rwyf innau’n byw yn Seion,      Diolchaf am y fraint. Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris. Recordiwyd 18.viii.1976. Clywodd y pennill gan John Jones, Stryd y Mynydd, Caernarfon. Bu John Jones yn amlwg fel paffiwr a meddwyn, ‘ond mi gafodd ras os cafodd rywun ’rioed ... Mi achubwyd o ar Forfa Conwy pan oedd o efo’r militia.’ Roedd ganddo stori amdano’i hun yn taflu cwrw ‘i’r mortar’ yn lle ei yfed. Cofnodwyd fersiwn debyg i’r pennill gan Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd (Llsg. 1793/514, t. 42). Ond dyma chwe llinell gyntaf y pennill fel y’i cofnodwyd gan Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/1, t. 39): Mae Nhad yn byw yn Seion      Yn cadw tŷ fy mam; Mae     Mrawd yn byw yn Seion Ni oddef i’m gael cam. Mae’r Ysbryd Glân yn Seion      Yn nerthu pawb o’r saint ... Tebyg hefyd yw fersiwn Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog (Llsg. AWC 2686/2, t. 14). Ond dyma ei fersiwn hi o’r chweched linell: ‘Cysuron fil i’r saint’. * * * Dyma drysor y trysorau;      Dyma berl y perlau i gyd; Dyma ffynnon y ffynhonnau;      Dyma’r aur uwch aur y byd; Dyma’r lamp yn afon angau;      Dyma safon bur i fyw; Dyma’r ffordd i’r gwynfyd bythol;      Dyma’r Gair lefarodd Duw. O gasgliad Elin Owen, Cricieth. Daeth o hyd i’r pennill ‘yn hen Feibl y teulu, ac fe’i hysgrifennwyd gan Hugh Jones, cefnder i Nain ’Stiniog.’ * * * Gras a ddeil pan losgo’r ddaear,      Gras a ddeil pan ferwo’r môr, Gras a ddeil heb newid agwedd      O flaen gorsedd wen yr Ior; Gras a ddeil wrth chwilio’r llyfrau,      Gras a ddeil gloriannau’r Nef, Gras a roddodd im bob golud      Trwy ei aberth gwaedlyd Ef. Awdur: Rowland Williams, ‘Hwfa Môn’ (1823-1905). * * * Nabod Crist yw nabod meddyg      Ddichon wella pob rhyw friw, Nabod Crist yw nabod cymod,      A’r goruchel Arglwydd Dduw; Nabod Crist yw nabod bywyd      Nabod Crist yw nabod hedd; Arglwydd Iesu, rho dy nabod      Cyn i’m orwedd yn y bedd.   Nabod Crist yw nabod trysor,     Ie’r trysor mwya sydd,Nabod Crist yw nabod noddfa     Rhag y dial mawr a fydd;Nabod Crist yw nabod cyfaill     Ddeil fy mhen i uwch y don,Pan yng nghyfyng ddydd marwolaeth     ’N rhoi ffarwel i’r ddaear hon. Llsg. AWC 2868/2, t. 13. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. * * * Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon,      Digon yn y dŵr a’r tân, Ac yr wyt yn eitha digon      Ar y ffordd sy’n mynd ymlân. Digon wyt yn afon angau,      Digon yn y farn a ddaw, Ac yr wyt yn eitha digon      Yn y wlad sy ’rochor draw. O gasgliad yn AWC. * * * Mae fy meiau’n amal, amal ’N uchel weiddi, ‘Dial, dial’; Ond mae gwaedd yr Oen fu’n diodde ’N uwch yn gweiddi: ‘Madde, madde’. Llsg. AWC 1793/514. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. * * * Mae weithiau yma’n treio,       Mae weithiau’n llawn môr glas; Nid oes tu draw’r Iorddonen      Ddim trai ar foroedd gras. Tâp AWC 2923. Ann Evans, Cross Inn, Ceredigion. Recordiwyd: 20.vii.1973. Clywodd ei mam-gu yn dweud y byddai plant bach yn canu’r pennill hwn ‘adeg Diwygiad John Elias o Fôn’, yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhennant, Ceredigion. * * * Mae plant y byd yn dweud ar go’dd Mai meddw wyf, neu mâs o nghof; Os meddw wyf, nid rhyfedd yw, Meddw ar win o seler Duw. Tâp AWC 5971. Y Parchg William Morris. Recordiwyd 18.viii.1976. Cyhoeddwyd y pennill yng nghofiant D S Jones i’r Parchg William Williams o’r Wern (1781-1840). Dywedir i’r pennill gael ei ganu mewn oedfa yn ffermdy Bedd y Coediwr, ger Trawsfynydd, a Rhys Dafis, y Glun Bren, y pregethwr hynod, yn gwasanaethu. Yn yr oedfa hon y cafodd Williams o’r Wern, yn dair ar ddeg oed, dröedigaeth. Ceir fersiwn debyg i’r uchod hefyd, ynghyd â nodyn, yn Llsg. Cwrtmawr, LlGC (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 801. Y mae odli’r geiriau ‘go’dd’ a ‘nghof’ uchod yn enghraifft deg o odl Wyddelig, odl i’r glust. Dyma’r fersiwn a geir yng nghasgliad Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/1, tt. 23-4): Maent yn dweud dros fryn a bro, Fy mod yn feddw a mâs o ngho’; Dwi’n amau dim nad medd-dod yw –  Ar felys win o seler Duw. Ychwanegodd Mary Jones hefyd nodyn i ddweud yr arferai’r Parchg Edward Jones bregethu oddi ar garreg farch, ger tafarn y King’s Head, yn fuan wedi sefydlu’r Achos Wesleaidd yn Llandysul yn 1806. Un tro, fe’i cyhuddwyd o fod yn feddw, ac fel ateb, adroddodd yntau’r pennill hwn. Mae’r fersiwn o’r pennill a gofnodwyd gan Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog (Llsg. AWC 2868/2, t. 18) yn debyg i’r uchod, ond y llinell gyntaf ganddi hi yw: ‘Maent yn dwedyd hyd y fro’. Dyna ffurf y llinell gyntaf hefyd gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau (t.105). * * * Mi welais haf a gaeaf,      Mi welais ddydd a nos, Mi glywais ganu a dawnsio,      Mi welais gario’r gro’s. Mi welais waetha Satan,      Mi welais orau Duw, Hosanna, Haleliwia,       Fy Nhad sydd wrth y llyw. Tâp AWC 3886. Sarah Ann Harries, Aberystwyth. Ganed 29.xii.1884, ym Methania, Ceredigion. Recordiwyd 15.vi.1973. Tâp AWC 5008. James Williams, Llwyn Celyn, Cefngorwydd, Brycheiniog. Ganed 14.ix.1890 yn Llanfihangel Brynpabuan. Recordiwyd: 20.vii.1976. ‘Mi welais foli a dawnsio’ yw ffurf y drydedd linell gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau, t. 68. Fersiwn Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion, ar y drydedd a’r bedwaredd linell yw: Mi deimlais hwyliau canu, Mi deimlais bwysau’r gro’s ... Yr oedd yr emyn hwn yn un o’r tri phennill y clywodd Dr Ceinwen H Thomas hwy’n cael eu canu gan ei mam. Gw. y sylwadau ar yr emyn uchod: ‘Fe welwyd Craig mewn dalfa...’ ac erthygl Ceinwen H Thomas: ‘Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyf. 3, rhif 1 (1988-89), tt. 20-23. Un amrywiad amlwg yn fersiwn Dr Ceinwen H Thomas yw’r llinell olaf. Ei fersiwn hi yw: ‘Fy mod ’yd heddi’n fyw.’ Awdur yr emyn, yn ôl W Alonzo Griffiths, Hanes Emynwyr Cymru [1892], t. 169, yw’r Parchg Daniel Evans, Gweinidog gyda’r Annibynwyr, a aned ym Mhen-y-graig, Ystumgwili, plwyf Abergwili, sir Gaerfyrddin. Gw. ymhellach, E Wyn James, ‘Rhagor am Emyn Mam-gu’r Mynydd’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, cyf. 3, rhif 1 (1988-89), tt. 24.30. * * * Galaru’r wyf mewn dyffryn du       Wrth deithio i dŷ fy nhad,  Ar ben y bryniau’n llawenhau      Wrth weled cyrrau’r wlad. Rwy’n ddu fy lliw a’m gwisg yn wen,      Rwy’n llawen ac yn brudd, Rwy’n agos iawn ac eto mhell,      Rwy’n waeth, rwy’n well bob dydd. Tâp AWC 1978. Ellen Evans (1879-1972), Llithfaen, sir Gaernarfon. Recordiwyd: 24.x.1968. Cyfansoddwyd y pennill cyfoethog hwn, yn ôl Ellen Evans, gan Thomas Ellis, Carnguwch Bach, fferm fechan rhwng Llithfaen a Llanaelhaearn. Gweithiai fel melinydd ym Melin Penllechog, Llanaelhaearn. Y mae Ioan Mai Evans, mab Ellen Evans, wedi ymhelaethu ar gefndir cyfansoddi’r pennill (tâp AWC 4638; recordiwyd: 12.vi.1975). Yn ôl ei ddamcaniaeth ef, y mae’r pennill hwn, gyda’i ddefnydd aml o bosau, yn debyg i’r penillion a gyfansoddid ac a genid gynt yn y nosweithiau llawen, ac y mae’n bosibl, medd Ioan Mai Evans, nad emyn, fel y cyfryw, ydoedd yn wreiddiol. Yn llythyrau’r Parchg Henry Hughes (1841-1924), Bryncir (a gedwir yn Llyfrgell Prifysgol Cymru, Bangor), disgrifir Thomas Ellis fel ‘pencampwr y noson lawen’. Ar dâp AWC 4638 cenir y pennill ddwywaith – unwaith gan Ellen Evans ac unwaith gan Tal Griffiths. Yn ôl Ioan Mai Evans, gall y dôn fod yn ‘dôn dawns y noson lawen’. A dyma’i gynnig ef ar ddehongli cynnwys ac ystyr pum llinell gyntaf y pennill. Ar ei ffordd adref o Felin Penllechog, y mae Thomas Ellis, y melinydd, yn ymdeimlo â thrymder ei amgylchiadau, ‘dyffryn du’ ei dlodi. Ond yn ‘llawenhau’ wrth deithio ac agoshau at ei gartref a gwlad Llŷn. Y mae hefyd yn ymdeimlo â’i bechod: ‘rwy’n ddu fy lliw’, er bod ei wisg yn wyn gan lwch y blawd. Y mae Thomas Gee, yn Emynau y Cyssegr (ail arg., 1888), yn priodoli’r pennill hwn o emyn (ar gam?) i Dafydd Jones (1711-77) o Gaeo