Hen Emynau Llafar Gwlad: Iaith bob dydd ...

Items in this story:

  • 827
  • Use stars to collect & save items login to save

This story is only available in Welsh

Lliw a gwreiddioldeb a throsglwyddo llafar

Fodd bynnag, y mae corff helaeth ein hemynau gwerin yn bur wahanol i’r emynau mwy ‘swyddogol’ a ‘ffurfiol’ a gynhwyswyd yn ein casgliadau o emynau at wasanaeth y cysegr.

Fel y mae’r term ‘emynau’ neu ‘hen emynau llafar gwlad’ yn ei awgrymu, un o nodweddion amlycaf yr emynau hyn yw iddynt gael eu trosglwyddo yn bennaf ar lafar gwlad.

Er i lawer ohonynt gael eu cofnodi ar bapur ac, yn ddiweddarach, eu cynnwys mewn casgliadau printiedig (ond nid mewn casgliadau ar gyfer yr enwadau, fel y cyfryw), y mae natur a chynnwys nifer o’r emynau hyn yn gyfryw fel mai ar lafar yn bennaf y maent wedi goroesi.

Y mae blas y pridd ar y cynnwys a’r mynegiant.

Gwneir defnydd mynych o eiriau ac ymadroddion tafodieithol ac o nodweddion barddoniaeth lafar — barddoniaeth i’r glust — megis yr arfer o odl

Wyddelig (ail-adrodd y llafariad ond nid y gytsain).

Er enghraifft, hedd — nef, rhodd — cof, trum — hyn.

Y mae’r pwyslais yn arbennig ar fynegiant syml, uniongyrchol, ac ar ddelweddu a thynnu darlun byw.

Ar brydiau y mae’r dweud yn ddoniol, ond bob amser yn ddifyr.

Gwneir defnydd cyson hefyd o ail-adrodd bwriadus a chyfosod, er mwyn cynorthwyo i hoelio sylw’r gwrandäwr.

Ni chynhwyswyd llawer o’r emynau hyn yn y casgliadau enwadol swyddogol oherwydd i’r golygyddion gredu (ar gam yn aml, yn fy marn i) nad oedd yr eirfa, y mynegiant a’r cynnwys yn weddus a theilwng ar gyfer cynulleidfaoedd yn canu’r emynau mewn addoliad ar y Saboth.

Ac eto, y gwir yw, i lawer o’r emynau gwerin hyn fyw ar lafar gwlad am yr union reswm hwn, oherwydd eu gwreiddioldeb; eu pertrwydd ymadrodd; y dweud naturiol mewn iaith bob dydd; y mynegiant byw, lliwgar a chofiadwy.

Un canlyniad amlwg i’r trosglwyddo llafar yw’r amrywiaeth diderfyn sydd yn yr emynau wrth iddynt gael eu hadrodd a’u canu o ardal i ardal ac o genhedlaeth i genhedlaeth heb fod yna, o angenrheidrwydd, un testun safonol printiedig ar gael yn hwylus yn y casgliadau enwadol.

Yn y detholiad presennol a wnaed ar gyfer Casgliad y Werin (‘Aur Dan y Rhedyn’) ceisiwyd adlewyrchu’r amrywiaeth dihysbydd hwn.

Nodwedd amlwg arall yn ein hemynau gwerin, wrth gwrs (yn union fel yn ein caneuon gwerin, hwiangerddi, rhigymau a hen benillion) yw fod enwau awduron y mwyafrif mawr o’r emynau hyn bellach yn anhysbys, neu yn ansicr. Droeon fe briodolir yr un emyn, neu bennill, i fwy nag un person.

‘Emyn neu bennill’, meddwn. A dyna sy’n wir am emynau llafar gwlad, penillion unigol ydynt, yn amlach na pheidio.

Nid yw’n bosibl bob amser chwaith i nodi pa benillion yn wreiddiol oedd yn perthyn i un emyn arbennig a pha benillion oedd yn bodoli, o’r cychwyn, fel penillion unigol.

Ceir traddodiadau diddorol am amgylchiadau cyfansoddi rhai o’r emynau a’r penillion hyn. Rhaid pwysleisio hefyd, wrth gwrs, fod cyfran helaeth ohonynt yn ffrwyth y deffro o’r newydd a gafwyd yng Nghymru yn sgîl y Diwygiadau Crefyddol, yn arbennig felly Diwygiad 1859.

Cymwys iawn, o gofio hyn, yw’r teitl a roes Richard Griffith, ‘Carneddog’ (1861-1947), i’w gyfrol yng Nghyfres y Fil, sef Gwreichion y Diwygiadau (1905).

Yn y fan hon y mae un pwynt y dylid ei bwysleisio, sef fod y nodweddion a berthyn i emynau llafar gwlad, ac y cyfeiriwyd atynt eisoes, i’w darganfod yn achlysurol hefyd yn yr emynau a gynhwyswyd yn y casgliadau enwadol swyddogol. Ond digon yw nodi bod y nodweddion llafar a’r mynegiant byw, lliwgar, yn amlycach fyth yn ein hemynau gwerin.