Hen Emynau Llafar Gwlad: 'Does arnaf ddim cwilydd proffesu / Y Gŵr a fu'n chwysu'n yr ardd ...'

Items in this story:

  • 1,220
  • Use stars to collect & save items login to save

Profiadau pobl Dduw

This story is only available in Welsh:

Profiadau pobl Dduw

Mi godes i'n fore, mi redes i'n hir,
Mewn gwagedd a phechod, heb nabod y gwir.
Mi haeddais fod obry mewn fflamie o dân,
Gogogiant yr Iesu a safodd o 'mlân.

Tâp AWC 2923. Ann Evans, Bath Villa, Cross Inn, Ceredigion. Recordiwyd: 20.vii.1973. Ganed 3.vi.1893. Cyn adrodd y pennill hwn, neu, fe ddylwn ddweud, ei lafarganu'n ddwys ac yn llawn teimlad, soniodd Ann Evans, oedd yn ddall erbyn hyn, amdani'n blentyn ym Mhen-uwch, Ceredigion, adeg Diwygiad 1904.

'... Odd rhai [yn] gweddïo, lleill yn gweud adnode; lleill yn canu - a phopeth. A hen wraig yn gweud:
"Mi godes i'n fore, mi redes i'n hir ..."
A ryw hen wraig yn gweud felny ar 'i glinie. Lodes ifanc y pen pella, wedyn, odd honno - 'na beth odd honno weud o hyd - yn gweud o hyd:
"Rwy'n caru hardd lythrenne 'i enw,
Yr hwn fu farw yn fy lle;
Rwy'n caru hardd lythrenne 'i enw" ...
O hyd, o hyd, o hyd.
"Yr hwn fu farw yn fy lle".'

Adroddwyd y pennill hefyd gan y Parchg William Morris ar dâp AWC 5071.

* * *

Does arnaf ddim cwilydd proffesu
     Y Gŵr a fu'n chwysu'n yr ardd,
Er cymaint mae dynion yn wawdio,
     Rwy'n gweled fy mhriod yn hardd;
O'r carchar mi gefais ollyngdod,
     Nid â y diwrnod o'm co;
Pwy wêl arnaf fai am ei garu?
     Fe safiodd fy mywyd i, do.

Llsg. AWC 2868/1, t. 34. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion. Fel cyflwyniad i'r emyn ychwanegodd y sylw hwn:

'Yn Niwygiad 1859 roedd y Parch David Oliver yn pregethu yn Llwynpiod, ger Tregaron. Daeth pedwar deg dau i'r Seiat oedd ar ôl. Gan fod rhai ohonynt yn hir yn dod ymlaen at y lleill, a gwraig o'r enw Pegi Enoch yn meddwl mai cywilydd oedd arnynt, torrodd allan yn angerdd ei theimlad, a'i chefn at yr allor, a'i hwyneb at y dynion i weddïo y geiriau:
"Does arnaf ddim cwilydd proffesu ..." .'

* * *

Mae rhai yn dweud mai rhyfyg yw
Fy mod ar dân yn moli Duw;
Rwyf innau'n gweld drwy'r 'Sgrythur lân
Na thâl un aberth heb ddim tân.

Llsg. AWC 2868/3, t. 4. Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion. Canwyd yr emyn gan Nansi Jones (1760-1833), Crug-y-bar, Nansi Rhydderch cyn priodi (1798). Gw. J Bowen Jones, Hen Emynau (1912). Gw. hefyd E Wyn James, 'Merched a'r Emyn yn Sir Gaerfyrddin', Barn, Gorff.-Awst, 1996.

* * *

Mae Satan a'i blant yn dannod fy meie,
Gan ddweud fod fy mhechod yn ormod i'w fadde;
A finne rwy'n methu â gweled dihangfa,
Nes trowyf fy wyneb i fynydd Calfaria.
Mi af ar ei ôl, rwyf wedi resolfo,
Deued hi arna'i fel ag y delo;
Enillodd fy nghalon yn awr rwy'n cyfadde,
'Achubodd fy enaid rhag myned i'r fflamie.

Llsg. AWC 2868/3. t. 3. Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion. 'Canwyd gan Nansi Jones', Crug-y-bar. (Gw. J Bowen Jones, Hen Emynau, 1912.) Yn y fersiwn a gofnodwyd gan Garneddog (Gwreichion y Diwygiadau, (1905), t. 99), pedair llinell gyntaf y pennill uchod yn unig a geir, gyda mân amrywiadau ('yn dannod' = 'yn edliw'; 'Nes trowyf fy wyneb' = 'Nes codi fy ngolwg').

* * *

Rwy'n dod at ddrws nefoedd i guro,
     Gwahoddir pechadur at hwn;
Mae'r Gŵr sydd yn cadw'r agoriad
     Yn hysbys o'm hangen mi wn.
O, Iesu, fy annwyl Waredwr,
     Trugaredd i filoedd roist Ti,
Rho eto drugaredd i ninnau,
     Er mwyn aberth mawr Calfari.

Llsg. AWC 2868/1, t. 38. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion.

* * *

O, Arglwydd mawr y bywyd,
     Dwg fi i'r golau clir,
Nad imi dwyllo f'hunan
     A marw heb y gwir.
Gwirionedd sy arna'i eisiau,
     Gwirionedd sy arna'i chwant,
Gwirionedd, Arglwydd, dyro,
     Cyn mynd oddi yma bant.

O gasgliad yn AWC.

* * *

Rho imi grefydd ddalio dân
O blaniad pur yr Ysbryd Glân,
A'i haddurniadau hi bob darn
A ddelo dreial Dydd y Farn.

Tâp AWC 5071. Y Parchg William Morris.

* * *

Cododd Iesu'n fore, fore,
I sgrifennu lawr yr enwe;
Pwy ŵyr nad yw fy enw inne
Yno'n rhywle mhlith yr ache.

Llsg. AWC 1793/514, t. 21. Evan Jones, Ty'n-y-pant, Llanwrtyd. 'Yn adeg y diwygiad mawr y flwyddyn 59 canai Pali, gwraig Richard Jones, Troed-y-rhiw, lawer ar y pennill hwn.' Dyma fersiwn a gofnododd Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion:

Cododd Duw yn fore, fore,
I sgrifennu ar y llyfre;
Ac wrth chwilio mlith yr ache,
Fe gawd gweld fy enw inne.

(Llsg. AWC 2868/1, t. 8.)

* * *

Arglwydd, gwthia'r rhwyd i'r dyfnder,
Fel y delir pysgod lawer.
Ac wrth godi hon drwy'r tonau,
' Pwy a ŵyr na ddelir finnau.

Llsg. AWC 1793/514.t. 7. Evan Jones, Ty'n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

Mi dreia orsedd Duw,
Er dued yw fy lliw,
     Am wir iachad.
Pwy ŵyr nad dyma'r awr
A drefnodd arfaeth fawr
I'm gael fy meiau'i lawr,
     Oll dan fy nhraed.

Llsg. AWC 1793/514, t. 18. Evan Jones, Ty'n-y-pant, Llanwrtyd.

'Rees Davies, Pen-y-bryn, Abergwesyn, neu 'Rhys y Clochydd', fel yr adwaenid ef yn ei amser, a fu am flynyddoedd yn gwasanaethu fel clochydd a thorrwr beddau yn Abergwesyn, ond yn niwedd ei oes a ddaeth yn aelod at yr Annibynwyr i Moriah. Y pennill cyntaf a roddodd allan wedi ei dderbyn yn gyflawn aelod oedd yr un a ganlyn:
Mi dreia orsedd Duw ...
Rhoddodd y pennill allan mewn naws ac ysbryd mor ddrylliog, fel y torrodd yr holl gynulleidfa allan i foliannu wrth ei ganu, a bu awyrgylch crefydd yn gynnes yn yr eglwys am amryw o Sabathau mewn canlyniad.'

* * *

Pan bwy'n meddwl am ymddangos
     Yn y farn y dydd a ddaw,
Mae rhyw holi yn fy ysbryd
     P'un ai'r dde neu'r aswy law.

Llsg. AWC 1793/514. t. 35. Evan Jones, Ty'n-y-pant, Llanwrtyd. Cyhoeddwyd yr emyn yn ddi-enw gan Thomas Gee yn Emynau y Cyssegr (1888), rhif 2071. Wrth gofnodi'r pennill, cynhwysodd Evan Jones y nodyn diddorol a gwerthfawr a ganlyn:

'Ar ddechreuad diwygiad mawr y fl. 40, yr oedd y Parch. D Williams i bregethu yn Tyndwr, ger Nantyfarddu, Llanafan [Brycheiniog], a phan gyrhaeddodd ef y lle, yr oedd y tŷ yn llawn, ac Isaac Price o'r Cwm, brawd y Parch. Samuel Price, Llanedi, yn dechreu'r cyfarfod. Yr oedd rhyw naws rhyfedd yn ei weddi y noson honno, a darfu iddo weddïo nes oedd ei nerth yn pallu, ac yr oedd rhyw ddylanwad rhyfedd drwy y gynulleidfa oll, ac wylai llawer yn ddistaw. Dechreuodd y gweinidog bregethu. Mater y bregeth oedd anfarwoldeb yr enaid. Ni thorrodd y dylanwad yn weledig ar y gynulleidfa yn ystod y bregeth. Ar ddiwedd y bregeth rhoddodd ef yr emyn canlynol allan:
Pan bwy'n meddwl am ymddangos ...
Wrth ganu y rhan olaf o'r emyn, gwnaeth un dyn ieuanc, yr hwn oedd newydd ymuno â'r eglwys, waeddi allan: "O, mywyd annwyl i, diolch am ryddhad." Yna mewn ychydig fynydau, yr oedd yr holl gynulleidfa yn un a ddaeth drwyddi. Lledodd y dylanwad yn fuan drwy y wlad, a daeth cannoedd i ymofyn am le ymhlith plant yr Arglwydd. I'r cyfarfod hwn yn Tyndwr y gellir olrhain y diwygiad hwn yn ôl i'w ddechreuad yn ardal Troedrhiwdalar ac yng Nghantref Buallt. Y "dyn ieuanc" uchod ydoedd Tom Pugh y Goetre wedi hynny.'

* * *

Tair afon digofaint fel un
     O uffern a'r ddaear a'r nef
A ruthrodd, a'r Iesu ei hun
     Heb gymorth dan genllif mor gref:
Ond cariad fy meichiau gras-lawn
     A ddaliodd ryferthwy y lli,
A throes y tair afon mewn Iawn
     Yn ddyfroedd y bywyd i mi.

Llsg. AWC 5071. Y Parchg William Morris. Un o'r llu mawr o emynau gwerin ar ei gof.

* * *

Pan marw bo i, at Iesu bo nghri,
Am iddo fy ngharu, am beth nis gwn i;
Ond hyn mi a wn fod rhyngom fath glwm,
Na thrig ef mewn llawnder a nghadael i'n llwm.

Gan Mrs E Blake, Beulah, Llanwrtyd, y cafwyd y pennill hwn. Sylwer eto ar yr odl Wyddelig (odl i'r glust) yn y drydedd linell, odli'r llafariaid, ond nid y cytseiniaid: 'wn'/ 'glwm'. Roedd gan Mrs Blake fersiwn Saesneg:

When I am to die, Lord Jesus, I cry,
For he that so loved me, I do not know why.
But this I do find that we are so joined,
He'll dwell not in glory and leave me behind.

* * *

Rwy'n adyn du, unig, yn druan a dall,
Yn wawd i gythreuliaid, yn grechwen i'r fall.
Ond gwelais yr aberth, Calfaria a'r groes,
Cyrhaeddais hyd Peniel, man trobwynt fy oes;
A gwelais yr Iesu, a'i law yn fy ngwadd,
Gan weiddi: 'Cyfiawnder - O, paid, paid â'i ladd.'

Tâp AWC 1302. Martha Williams, Erw Gochyn, Llandanwg, Meirionnydd. Recordiwyd: 10.iii.1966. Ganed: Tan Rhiw, Llanfair, Harlech. Awdur y pennill hwn yw Gwilym Ardudwy. Roedd yn fardd gwlad ac yn hoff o'i dropyn. Cafodd dröedigaeth adeg Diwygiad 04-05 a chyfansoddodd yr emyn hwn. Roedd Martha Williams yn ei adnabod.

* * *

O Arglwydd, cladd fy meiau,
     Cyn dydd fy nghladdu i,
Mewn dyfnder mor o angof
     Sydd yn dy gariad Di;
Pa fodd y gallaf sefyll
     Yng ngwyneb barn sy'n dod,
Os na fydd claddu beie
     Cyn hynny wedi bod.

Tâp AWC 5008. James Williams, Cefngorwydd, Brycheiniog. Recordiwyd: 20.vii.1976. Cofnodwyd y pennill hwn mewn sawl ardal yng Nghymru gyda mân amrywiadau ac y mae'n amlwg iddo fod ar un adeg yn boblogaidd iawn. Cafodd Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion, y pennill gan y Parchg E J Evans. Clywodd yntau ef gan weddïwr yn ardal ei febyd, Llangwyryfon, Ceredigion, pan oedd yn blentyn. O'i gymharu â fersiwn James Williams, dyma fel y cofnodwyd llinellau 3 a 4 gan Mary Jones (Llsg. AWC 2868/1, t.37):

A thafl hwy i fôr o angof
     Sydd yn dy angau Di.

Ei fersiwn hi o'r chweched linell yw: 'Yn nydd y farn sy'n dod'. Ym Môn y clywodd y Parchg William Morris y pennill (Tâp 5070). Dyma'r ffurf sydd ganddo ef ar linellau 3 a 4.

Mewn dyfnder môr o angof
     Sydd yn dy angau Di.

A'r chweched linell yw : 'O flaen y farn sy'n dod'. Cofnodwyd y pennill hefyd gan Elizabeth Reynolds, Brynhoffnant, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/3, t. 41). Dyma ail ran yr emyn ganddi hi, ac fe sylwn ei fod yn wahanol i bob un o'r fersiynau eraill:

Dwi ddim yn gwanobeithio,
     Er gwaeled yw fy nrych,
Na welir finnau eto
     Yn ddifai heb un nych.

Nodwedd gyffredin mewn diwylliant gwerin yw bod beirdd a rhigymwyr yn defnyddio rhai ffurfiau barddonol at eu pwrpasau personol hwy eu hunain drwy eu parodïo. Digwydd hyn yn arbennig, wrth gwrs, pan fo'r farddoniaeth yn adnabyddus iawn ar lafar. Hawdd deall, felly, paham, fel y cyfeiriwyd eisoes, fod parodïau ar gael o nifer o'n hemynau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys y pennill: 'O, Arglwydd, cladd fy meiau ...'. Dyma'r parodi a gofnodwyd gan Elizabeth Reynolds (Llsg. AWC 2868/3, t. 41), parodi ar y fersiwn a glywodd hi, ac ychwanegodd y geiriau hyn: 'Dywedir mai hen löwr wedi dihuno o'i fedd-dod ar Bont Risca, ym Mynwy, a ganodd y barodi.'

O, Mari, cladd fy meiau,
     Cyn iti nghladdu i,
Rwy'n ofni cledd dy enau
     Pan ddelwyf tua'r tŷ.
Dwi ddim yn gwanobeithio,
     Er gwaeled yw fy nrych,
Na chaf i dropyn eto,
     Gan fod fy ngheg mor sych!

Yn Uwchaled, priodolir yr emyn 'O, Arglwydd, cladd fy meiau ...' i Gwen Jones, Hendre Ddu, Pentrellyncymer. Dyma a ddywed Thomas Jones yn ei gyfrol Beirdd Uwchaled (1930), t. 63. 'Mae un pennill rhagorol o waith Gwen Jones ar gof gwlad; nid wyf yn meddwl iddo erioed gael ei brintio. Dyma ef:

O, Arglwydd, cladd fy meiau,
     Cyn iti nghladdu i,
Yn nyfnder mor o angof
     Sydd yn dy gariad Di ...'

Bu farw Gwen Jones yn y Graig Hir, Pentrellyncymer, yn 1867. Hi oedd mam y tri brawd, parod eu hawen: Huw Jones, Elias Jones ('Llew Hiraethog'), ac Isaac Jones. Ei thad oedd Robert Davies, 'Bardd Nantglyn' (1769-1835), awdur nifer o garolau a'r gyfrol Diliau Barddas (1827). Roedd ei mam yn ferch i Edward Parry, Brynbugad, Tan-y-fron, Llansannan, 'cynghorwr' Methodistaidd ac awdur yr emyn 'Caned nef a daear lawr ...' Dywedir bod Gwen Jones yn wraig grefyddol iawn ac, er gwaethaf sylw Thomas Jones, rhaid gofyn y cwestiwn: tybed ai un o hoff emynau Gwen Jones oedd yr emyn hwn ac mai cael ei dadogi arni a wnaed?

* * *

O, gydwybod, gad fi'n llonydd,
     Rwyf yn nabod Iesu Grist,
'R hwn fu farw dros bechadur
     Y mae'r Beibl gen i'n dyst.
O, gydwybod, gad fi'n llonydd,
     Rydw'i wedi mynd rhy hen;
Gad fi'n llonydd, gad fi'n llonydd,
     Nes cyrhaeddaf waelod bedd.

Rwy'n cyfadde imi bechu,
     Cwympo ganwaith i'r un bai,
Gyfeillion annwyl, carwn wybod
     Oes maddeuant i'r fath rai?
Oes, medd Duw o'r nef yn eglur,
     Mi ddarperais aberth llawn;
Y mae hedd a gras a chysur
     Gen i'n rhoddion parod iawn.

O, gydwybod, gad fi'n llonydd,
     Rwy'n ffaeledig ac yn hen;
Gad fi'n llonydd, gad fi'n llonydd,
     Nes cyrhaeddaf waelod bedd.

Tapiau AWC 3917-8. Bertie Stephens, Holly Grove, Llangeithio, Ceredigion. Recordiwyd: 17.vii.1973. Ganed: 8.vii.1900, yn Pant, Abergorlech. Fel 'cân' yn hytrach nag emyn y cyfeiriai Bertie Stephens at y penillion hyn. Clywodd hi gan grwydryn gwlad o'r enw 'Samson Bach', pan oedd yn hogyn yn byw gyda'i rieni ar y fferm yn Abergorlech. Arferai Samson Bach alw heibio'i gartref ac, fel i grwydriaid eraill, rhoddai mam Bertie 'fasnaid o fara te a thoc mawr o gaws' yn fwyd iddo i swper ac i frecwast. Câi hefyd ganiatâd i gysgu mewn pabell ar gae yn agos i'r buarth. 'Tent oedd ei balas ...' Cadwai 'ddau ddonci bach, un donci'n cario pethe'r tent a'r llall yn cario'r bwyd a'r llestri odd gydag e.' Y noson arbennig hon, fodd bynnag, roedd hi'n wyntog a glawog iawn. Methai Samson yn lân a gosod ei babell, er i dad Bertie ei helpu. Cynigiwyd iddo gysgu yng nghanol y gwellt yn y llofft stabal. Ac felly fu. Gofynnwyd i Bertie fynd â thamaid o fwyd i Samson Bach, a dyma ran o'r sgwrs a fu rhwng yr hogyn ysgol ac yntau:
'Ond gwedwch wrthaf i, Samson', me fi wrtho fo, 'ôs dim ofan bwci bo arnoch chi?'
'Be wedaist ti?' me fo.
'Sdim ofan bwci bo arnoch chi? Ma Mam yn gweud bod bwci bo'n ofnadwy hyd y lle'n nos.'
'Gwed ti wrtho Mam am bidio twyllo chi plant, felna. O, ma isio cosfa arni, ti'n gwbod. Gwed ti wrthi bod Samson Bach yn gweud wrthi. Sdim fath beth â bwci bo i gâl. Sdim byd o gwbwl. Ond cofia di, mae un peth i gael', medde fe, 'a ma hwnnw'n sticio gyda thi.'
'Be 'di hwnnw, Samson?'
'Gwed ti dy fod ti wedi gwneud drwg heddi, nawr, mi fydd hwnnw gyda thi am oria tra byddi di byw. Cydwybod ydan ni'n galw e. Clywest ti ddim am y gân honno odd Samson Bach wedi neud i 'gydwybod'?
'Naddo i. O, canwch hi, Samson, canwch hi wir, canwch hi, wir.' A 'ma fe'n 'i chanu hi:
'O, gydwybod gad fi'n llonydd ...'

Pan ofynnais i Bertie Stephens pwy oedd wedi cyfansoddi'r gân, ei ateb ydoedd: 'Samson 'i hunan glywes i.' Cymharer, fodd bynnag, y llinellau: 'Oes madddeuant i'r fath rai ...' â llinellau Thomas Jones (1756-1820), o Ddinbych: 'A oes gobaith am achubiaeth ...?'

* * *

Dyma'r banc a gadd 'i agor
     Rhwng y lladron ar y groes,
Ac fe aeth yn angau i angau,
     Er mor chwerw oedd y gloes.

Pe bai holl fanciau Prydain Fawr
A Bank of England yr un awr
     Yn rhoi tragwyddol smash
O, dewch â'r biliau er eu maint
I mewn i hen ariandy'r saint
     Mi wn y cewch y cash.

Tâp AWC 7521. David Griffiths (1910-95), Pen-twyn, Capel Isaac. Recordiwyd: 25.xi.1989. Ganed ym Mharc Bach, Cwm Du, ger Talyllychau. Arferai David Griffiths fynd pan oedd yn 'grwt bach' i gapel bychan Soar yng Nghwm Du, capel Arminaidd. Un tro roedd y Parchg 'Defi Preis Bethesta', brawd i'w fam-gu, yno'n pregethu. A dyma ddyfyniad pellach o atgofion byw David Griffiths am un hanesyn diddorol oedd gan y pregethwr y Sul arbennig hwnnw:

'Fe wedodd e un hanesyn sy wedi aros gyda fi hyd heddiw, sef bod y pregethwr mawr, Christmas Evans yn ystod un o'i deithie pregethu wedi dod i dref lle roedd banc wedi torri, a'r bobl wedi eu taflu i dristwch mawr. Enw y banc oedd Banc y Ddafad [Ddu]. Ac fe estynnodd Christmas Evans ei gydymdeimlad â'r bobl a dywedodd: "Y mae gennyf air o gysur i chwi: os yw Banc y Ddafad wedi torri, mae Banc yr Oen yn dal." Odd rhai o'r Penticostals yn yr oedfa. Fe gredes i bod Diwygiad yn mynd i fod pan oedd e'n gweud. Odd Jane Huws yn aelod gyda Christmas Evans, chwel, ac ôs dim dowt na wnath hi bennill yn adeg y banc 'ma wedi torri, chwel ... Pan odd e'n cael hwyl fowr ar bregethu, odd e'n gofyn i'r hen chwaer am gyfansoddi emyn ar yr hyn oedd e wedi'i bregethu.'

* * *

'Ta sant ar bob glaswelltyn
     Sydd ar y ddaear lawr,
A mil ar bob tywodyn
     Sydd ger y moroedd mawr,
A thafode gyda rheini,
     Fwy na rhifedi'r dail,
Ni allent byth ddywedyd
     Am haeddiant Adda'r Ail.

Tâp AWC 7521. David Griffiths (1910-95), Pen-twyn, Capel Isaac. Rhan o 'Gân y Duwdod' gan 'Owen Dafydd, Cwm Aman' yw'r llinellau hyn, yn ôl David Griffiths. Pregethai yn erbyn yr Undodwyr, gan ddyfynnu'r pennill uchod. Adroddai David Griffiths hefyd hanesyn am Owen Dafydd yn cael ei ddal gan yr Undodwyr, wedi meddwi, medden nhw. Atebodd yntau'r cyhuddiad gyda'r pennill hwn:
Mae llawer hen feddwyn
     Yn awr yn y nef
Ac nid oes neb yn danod
     Ei fedd-dod iddo ef.

* * *

O dewch i'r afon oll i gyd
     Na foed gan undyn esgus;
Un enwad fydd ar ddiwedd byd,
     A rheini 'i gyd yn Fabtus!

Tâp AWC 7521. David Griffiths, Capel Isaac. Awdur: Y Parchg J R Jones (1765-1822), Ramoth, Llanfrothen. Roedd yn un o brif arweinwyr y Bedyddwyr Neilltuol, neu'r Bedyddwyr Albanaidd, yng Nghymru, gyda'u pwys arbennig ar ddeall.

* * *

Yn hyf ar ôl y blaenor
     Yr â'r crediniol rai,
Llawenydd yn eu calon
     Wrth fyned dan yr iau.
Paham yr ofna f'enaid
     Waradwydd byd a'i stŵr?
Roedd Iesu Grist ei hunan
     Yn un o wŷr y dŵr.

Tâp AWC 7521. David Griffiths, Capel Isaac. Awdur: J R Jones, Ramoth, fel uchod.