Hen Emynau Llafar Gwlad: 'Beth yw'r cynnwrf garw iawn / sy'n y goedwig?'

Items in this story:

Y lloer a'r sêr, tir a môr.

 

This story is only available in Welsh:

 

Rwyf yma fel y lleuad

    Yn llawn o frychau i gyd,

Fy mhrofiad sydd yn newid

     Yn amal yn y byd;

Os unwaith caf fynd adref

    ’Nghyfiawnder Adda’r Ail,

Ni byddaf mwy fel lleuad,

     Ond disglair fel yr haul.

Llsg. AWC 1793/517, t. 11. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd. Fel hyn y cofnodwyd llinellau 3, 4, 5 a 6 gan Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion (Llsg. AWC 2868/1, t. 41):

Cyfnewid mae fy mhrofiad

     Yn fynych yn y byd;

Os byth y caf fynd adref

     Drwy haeddiant Adda’r Ail ...

* * *

Fe gododd rhyw seren

     Tu dwyren i’r nen,

Oedd agos i’r ddaear,

     Oedd ole, oedd wen.

Fe gerddodd yn araf,

     Fel colofn o dân,

Fe goncrodd dywyllwch

     A chynnydd o’i blân.

Tâp AWC 5008. James Williams, Llwyn Celyn, Cefngorwydd, Brycheiniog. Ganed: 14.ix.1890, yn Llanfihangel Brynpabuan. Recordiwyd 20.vii.1976. ‘Mam disgodd honna i fi.’ (Elizabeth Williams, Waun Lwyd, Abergwesyn.)

* * *

Iesu, beth yw’th feddwl Di

     Am ein daear?

Gest ti’th siomi ynddi hi,

     Geidwad hawddgar?

Byd dy gariad yw y llawr,

     Paid â’i ado,

Dyro gynnig, Iesu mawr,

     Unwaith eto.

Llsg. AWC 2868/1, t. 38. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion. Clywodd gan Mrs Mari James, Llangeitho.

* * *

Hen lestr iachawdwriaeth

     A ddaeth o’r nef i ni, 

Mordwyodd foroedd cariad

     Hyd borthladd Calfari.

Dadlwythodd ei thrysorau

     Mewn teirawr ar y groes,

Rhoes fodd i dorf nas rhifir

     I fyw tragwyddol oes.

Tâp AWC 5071. Y Parchg. William Morris. Recordiwyd: 18.viii.1976. Roedd y pennill hwn yn un o’r penillion a glywodd Dr Ceinwen H Thomas gan ei mam, Catherine Margretta Thomas (1880-1972), Nantgarw. Hithau wedi’i glywed yn cael ei ganu ar amrywiad o’r dôn ‘Bryniau Casia’ gan ei nain, Ann Meredydd, ‘Mam-gu’r Mynydd’, Caerffili. Cyhoeddwyd y pennill, yn nhafodiaith Y Wenhwyseg, gan y Dr Ceinwen H Thomas yn ei herthygl: ‘Emyn Mam-gu’r Mynydd’ (Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru), cyf. 3, rhif 1 (1988-89), tt. 20-23. Sylwer ar un gwahaniaeth amlwg yn y bedwaredd linell o’i fersiwn hi: borthladd > bartha.

’en lestar Iachawdwria’th

     A ddeth o’r nef i ni;

Tramwyws fôr o gariad

     ’yd bartha Calfari;

Dadlwythws ei thrysora

     Mywn tair awr ar y gro’s,

Rhows fodd i rif nas rhifir

     I fyw tragwyddol o’s.

Yn ôl y mynych gyhoeddi a fu ar y pennill cyfoethog hwn, gyda’r awdur (pwy bynnag ydoedd) yn cynnal y ddelwedd ganolog o’r llong yn grefftus iawn, bu’r emyn hwn unwaith yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd. Fe’i cyhoeddwyd, gyda mân amrywiadau, er enghraifft, yn Hymnau y Diwygiad (gwasg Robert Jones, Bethesda, 1859); Hymnau Diwygiaid ’59 (1861); Carneddog Gwreichion y Diwygiadau (1905); a J Bowen Jones, Hen Emynau (1912). Mewn erthygl werthfawr sy’n trafod yr emyn hwn ac eraill ymhellach (‘Rhagor am Emyn Mam-gu’r Mynydd’ (Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru), cyf. 3, rhif 1 (1988-89), tt. 24-30), cyfeiria’r Dr E Wyn James hefyd at ysgrif Huw Llewelyn Williams yn Porfeydd (Mai/Mehefin 1970, t. 69). Yn yr ysgrif honno y mae’r awdur yn adrodd hanes pregethwr cynorthwyol a gawsai dröedigaeth yn Niwygiad 1904 ‘ac a fyddai’n arfer sôn am lifeboat yr Iachawdwriaeth’.

* * *

Beth yw’r cynnwrf garw iawn

     Sy’n y goedwig?

A yw’r arfaeth fawr ei dawn

     Ddim yn ddiddig?

Nis bodlonir hi yn llawn,

     Nes ceir gweled

Pawb a brynwyd un prynhawn

     O’u caethiwed.

Llsg. AWC 2868/1, t. 36. Mary Jones, Cross Inn, Ceredigion. Y mae’n cyfeirio at ddigwyddiad nodedig a gofnodwyd yn Hanes Methodistiaeth De Aberteifi.
‘Sonnir am oedfa hynod arall yno [Plas Aber-porth] yn 1821. Cedwid y cyfarfod mewn ysgubor helaeth iawn, a’r Parch. Ebenezer Richards yn pregethu. Ei destun oedd, ‘Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? [A phwy a saif pan ymddangoso efe? Canys y mae efe fel tân y toddydd ac fel sebon y golchyddion’ (Malachi, 3:2).] Wedi’r oedfa, arhosodd y gynulleidfa fel pe yn disgwyl rhagor. Pwysai’r pregethwr ar ryw fath o bulpud ac ochneidiai’n ddwys. Adnabu amser ymweliad Duw a rhoddodd y pennill canlynol’:

Beth yw’r cynnwrf garw iawn

     Sy’n y goedwig?

[Yna] ‘taflodd Dafydd y Gof ei het i fyny, a gwaeddodd allan:

Bendigedig am y taliad

Gliriodd ferch yr hen Amoriad.’

Cofnodwyd y pennill hefyd yng nghasgliad gwir werthfawr Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd, o emynau llafar gwlad (Llsg. AWC 1793/514, t. 32). Ei fersiwn ef o’r seithfed linell yw ‘Rhai a brynwyd un prydnawn ...’ Dyma’r nodyn sydd gan Evan Jones i ragflaenu’r pennill:

‘Yn y flwyddyn 1828, pan oedd son mawr am y diwygiad wedi torri allan mewn amryw leoedd yn Ne Cymru, aeth mintai o bobl ieuainc ac un henafgwr o eglwys Cefn Gorwydd ar y Sul i Gil-y-cwm i’w glywed a’i weled. Y Sabath canlynol yr oedd y Parch Thos. Williams, Merthyr Cynog, yn pregethu yn y Gorwydd, a cheisiodd gan un o’r blaenoriaid i ddechreu y cyfarfod yr hyn a wnaed yn barod gan Jac Brynffo. Wedi iddo ddarllen pennod o air Duw, rhodd y pennill a ganlyn allan:

Beth yw’r cynnwrf garw iawn

     Sy’n y goedwig ...’

Ymddengys y pennill hwn yn ddienw yng nghasgliad Gomer (1821), rhif 453, ond fe’i priodolir i J R Jones, Ramoth, gan Thomas Gee yn Emynau y Cyssegr (ail arg. 1888), rhif 2331.

* * *

Mae rhyw gynnwrf yn y goedwig,

     Sŵn traed rhyw dyrfa’n dod;

Mae’r Gŵr sy â’r awdurdod

     A’r fwyell yn y co’d.

Ceir trawstiau newydd eto

     I deml sanctaidd Duw, 

O, Arglwydd, cadw filoedd

     A’m henaid inne’n fyw.

Llsg. AWC 1793/514, t. 14, a 1793/517, t. 2. Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd.

* * *

O’r goedwig fawr fe dorrwyd

     Rhyw frigau ceimion iawn,

Mae’n rhaid cael rhain i’r ’deilad,

     Cyn byddo’r gwaith yn llawn.

Mae yn y goedwig eto

     Rai wedi’u marcio’n wir,

Fe ddaw y Gŵr a’u prynodd

     I’w mofyn cyn bo hir.

Llsg. AWC 2868/2, t. 4. Buddug Morris, Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Ceir sawl amrywiad yn y fersiwn a gyhoeddwyd gan Garneddog yn Gwreichion y Diwygiadau (1905), t. 15:

O’r goedwig fawr fe dorrwyd

     Rhyw geinciau ceimion iawn, 

Roedd rhaid eu cael i’r demel

     Cyn gwneud y gwaith yn iawn.

Mae eto rai wedi’u marcio

     Yn y goedwig fawr yn wir, -

Fe ddaw y Gŵr a’u prynodd

     I’w mofyn cyn bo hir.