Hen Emynau Llafar Gwlad: Cofnodwyr a chymwynaswyr

Items in this story:

  • 760
  • Use stars to collect & save items login to save

Cofnodwyr a chymwynaswyr

 

Please see the Welsh version for this story

 

Y mae’r detholiad o emynau a gynhwysir yng nghynllun Casgliad y Werin, ‘Aur Dan y Rhedyn’, yn ffrwyth casglu a wnaed yn ystod 1964-2010. Er imi yn gyson gyfeirio at rai fersiynau o emynau a gynhwyswyd mewn casgliadau printiedig (yn bennaf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif), y mae’r prif bwyslais ar gyflwyno fersiynau a gofnodwyd gennyf fel rhan o’m gwaith yn Amgueddfa Werin Cymru. Daw amryw o’r emynau o gasgliadau - bach a mawr - a wnaed gan nifer o unigolion brwd ac a gofnodwyd ar bapur neu lyfrau nodiadau. Y casgliad mwyaf gwerthfawr o blith y llawysgrifau yw eiddo Evan Jones (1850-1928), Ty’n-y-pant, Llanwrtyd, hynafiaethydd a chynheilydd traddodiad nodedig iawn. (Gw. Herbert Hughes, Cymru Evan Jones. Detholiad o Bapurau Evan Jones, Ty’n-y-pant, Llanwrtyd, Gomer, 2009.) Gwerthfawr iawn hefyd, mewn cyfnod diweddarach, yw’r casgliadau a dderbyniwyd yn sgîl gosod cystadleuaeth yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, Llanfyllin, 1979 (y wobr yn rhoddedig gan Amgueddfa Werin Cymru): ‘Hen Emynau, Darnau o Bregethau Hynod, a Gweddïau Hen Gymeriadau Gwreiddiol, wedi’u Cofnodi oddi ar Lafar Gwlad.’ Y cyntaf yn y gystadleuaeth oedd Mary Jones, Pantycelyn, Cross Inn, Ceredigion. Yn ail: ei chwaer Elizabeth Reynolds, Bryn Môr, Brynhoffnant, Ceredigion. A’r trydydd: Buddug Morris, Llys Armon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

Ond yn y detholiad hwn o emynau llafar gwlad dyfynnir yn bur gyson hefyd o dystiolaeth lafar gyfoethog nifer o bersonau a fu mor garedig â chaniatáu i mi eu recordio ar dâp ar ran yr Amgueddfa Werin: Ellen Evans a’i mab Ioan Mai Evans, Llithfaen, sir Gaernarfon; Sarah Ann Harries, Penparce, Aberystwyth; y Parchg William Morris, Caernarfon; Mary Thomas, Meidrym, sir Gaerfyrddin; Thomas William (T W) Thomas, ‘Ab Eos’, Pen-tyrch, Morgannwg; James Williams, Cefngorwydd, Brycheiniog; Martha Williams, Llandanwg, Meirionnydd; Siân Williams, Ty’n-y-gongl, Môn. Boed yr emynau wedi’u cofnodi ar bapur neu ar dâp, mawr iawn yw ein diolch i’r personau hyn a’u teuluoedd am eu cymorth parod a’u cymwynas yn ein cynorthwyo i gofnodi a diogelu tystiolaeth lafar mor werthfawr.