Dai Kingdom Cam!

Items in this story:

  • 1,871
  • Use stars to collect & save items login to save

By W. R. Evans, Fishguard, Pembrokeshire

 

This story is only available in Welsh:

 

Wel, dudwch i mi, rŵan — ma gynnach chi storïe am rywrai methu siarad Sisneg.
Ie. Ôs. Dwi’n credu bo rhein yn ddiddorol iawn hefyd. Ma ’na stori, yn wir, am berthynas i fi. Glywes i hon yn câl ’i ddweud pan on i’n ifanc iawn. Mynd nôl nawr i’r dyddie pan odd popeth yn yr ysgolion bach gwledig, hyd yn ôd yn ardal Preseli, cwbwl trw gyfrwng y Sisneg. Hyd yn ôd Gweddi’r Arglwydd yn câl ’i dweud yn Sisneg. A odd y dyn ’ma, perthynas i fi, wedi mynd am y tro cynta i’r ysgol. A odd (h)i’n brofiad mowr myn(d) i’r ysgol am y tro cynta prynny. A pan âth e adre o’r ysgol, ’i fam yn gofyn iddo:
‘Shwd nest di fwynhau dy hunan yn ’rysgol?’
‘O, on i’ ’im yn lico ’na o gwbwl’, medde fe.
‘O, pam, beth odd yn bod?’
‘O, odd ddim yn bod, on i ’im yn lico ’na.’
‘Beth ddysgest ti ’na?’
‘O, dim byd.’
‘O, do, do, fe ddysgest rwbeth, siŵr o fod.’
‘Naddo i, dim byd.’
‘Wel, fuon nhw ’im yn siarad am rhyw ddynion enwog â chi, ne rwbeth, yn ystod y dydd?’
‘Naddo. O, do’, medde fe, ‘peth cynta bore ’ma, wedon rwbeth am ryw Dai Kingdom Cam, wir!’ Ie, Dai Kingdom Cam odd yr enw am flynydde ar ôl y stori ’na. Ie.
Pwy odd yn dweud honne wrthoch chi?
O, glywes i Na-cu a Mam-gu yn dweud hwn am ’u mab ’u hunen. Fe odd yn ewyrth i fi, odd y perthynas, chi’n gwel. Do. Sy’n gweud yr hanes hyn.
Pa ysgol odd o wedyn?
Ysgol Mynachlog-ddu. Ie. Ie, ie. Yr ysgol ês i iddi, ar ôl ’ny.
’Na chi.
A mae gystal stori â dim i bortreadu’r cyfnod ’na, dwi meddwl.

Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.

Storïwr: W R Evans (1910-1991), Abergwaun, sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth, ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print. Am hanes ei fywyd, gw. ei hunangofiant Fi yw Hwn (Gomer, 1980).

Ceir fersiwn arall o’r hanesyn hwn gan W R Evans ar dâp AWC 1456.