Abergwesyn, y Porthmyn, a 'Merched y Gerddi a'r Lawnte': Ruth Watcyn yn Mynd i Lundain

Items in this story:

  • 1,001
  • Use stars to collect & save items login to save

By David Jones, Abergwesyn

 

This story is only available in Welsh:

 

Nawr — mi oedd y porthmyn yn dod ffor hyn erstalwm?
Wel, odd y porthmyn a’r - bechingalw - y drovers, y drivers mwy na’r porthmyn, ond ws gwrs, yn ’r adeg hynny, yr hen amser, odd y porthmyn ’u hunen yn dreifo, chi’n gweld, ond yn ’yn amser i, dim ond dynion tâl odd yn dreifo’r defed. Wy’n cofio am y defed yn dod o Shir Aberteifi, ac yn dod o Machynlleth. Odd y defed yn starto bwytu cenol dydd Dydd Sadwrn o Machynlleth a dod lawr, a dod i Dregaron, ac wedyn on nhw’n cyrradd y Garth nos Fercher, a mynd i Aberhonddu nos Iou erbyn y farchnad dy’ Gwener. Ond, ws gwrs, dynon tâl odd yn dreifo'r defed adeg ’ynny, ond yn yr hen amser, blynydde cyn ’ny, odd y perchenogion, y porthmyn ’u hunen yn dreifo i Aberhonddu amser hynny i Barnet a phob man dros Loeger, chi'n gweld. Ac fuodd lawer o bedoli da yn Pen-twyn man hyn yn yn hymyl ni, achos odd hen fôi yn neud pennill. Odd y gof yn pedoli’r da, ac odd e’n gofyn i ddyn o’r enw Shelby am adrodd - a naethe fe bennill iddo fe, a wedodd e felna: ‘Fe na i bennill iti nawr’, medde fe:

‘Ma gan Ianto Siôn Ifan glampen o siop,
Y ddiar yn wilod a’r wibren yn dop.
Mae’n anferth o faint o led ac o hyd,
Mi gredaf yn wir mai hi yw’r mwya’n y byd.’

Ie, a dyna'r pennill nath e iddo amser oedd da yn cal ’u pedoli yn ymyl Pen-twyn.
Ianto - ?
Siôn Ifan. ’Na enw'r gof, dech chi weld nawr.
Pwy odd o'n hollol?
Wel, ’d alla i ’im â gweud. Ma hwnna’n mynd nôl flynydde mowr, chi’n gweld. Mae o’n ôl i’r eighteen fifty, falle, weda i.
Mae gynnach chi un hanesyn am y drofers, yndoes?
Oes. Wel, yr adeg honno, ch’weld, cyn bod y rêlwe wedi cael ’i gneud, ffor hyn on nhw'n dod. Yn gyntaf oll on nhw'n gweud bod y cyffyle’n dod yn gynnar mis Ebrill. Wedyn, dipyn bach nes mlân, oedd y merched yn mynd i Lunden ac i Loeger at y gerddi a’r lawnte, chweld. A stiwdents yn dod o Ystradmeurig [o Ysgol Edward Richard] i fynd i Cambridge a Rhydychen. Wedyn odd y da yn dod, defed a gwydde. A’r adeg wedyn, cyn y cynhaea llafur, fyse’r bobol yn dod â’u pladurie i fynd i Loeger i dorri gwair.

Ond y stori hyn sy gen i: am ddyn yn byw — a tair merch ’dag e — yn lle bach o’r enw Pen-wern, heb fod ’mhell iawn i Pen-twyn. Ac odd y ferch, Ruth, yn mynd i weitho i Pen-twyn i helpu nhw i wneud y bwyd, achos odd cyment o bobol yn dod hibo i gal bwyd. A rodd tri tafarn yn Abergwesyn ’r adeg honno, ond Pen-twyn odd y prif le odd y bobol. Digon posib bod mwy o ddaear ’da nhw na’r tafarne erill. Ac odd y merched hyn yn dod o Shir Aberteifi, ac on nhw wedi ymserchu yn od yn Ruth ac yn isie i Ruth i uno â nhw i fynd i Loeger. A wedodd hi wrthyn nhw, nawr, os byse’i thad yn boddloni iddi fynd, daethe hi gyda nhw y gwanwn ar ôl hynny. A gofynnodd i’w thad a gaethe hi ddod. A boddlonodd ar un amod: bod hi’n dod nôl cyn y gaea. A fe addewodd.

‘Your money or your lives’! Y daith i Lundain’

Wel, odd y merched nawr yn mynd i’r lawnte, ac odd Ruth yno. Gofynnon nhw odd hi yn mynd i ddod, a wedodd ei bod hi. A mi gychwynnwyd. Âth y tad a’r ddwy ferch i ddymuno’n dda iddi a roi gwd-bei iddi, ac i adgofio iddi am yr addewid odd dod nôl cyn y gaea. A bant aethon nhw. Ac on nhw’n gwau rhan fwya’r ffordd a cered yn droednoeth — gwau a gwerthu sane i gal talu am eu lodjins.

Ac odd un o’r merched hyn wedi ’serchu, fel gwedes i, yn Ruth, ac yn gweud enwe’r llefydd on nhw wedi bod lawer gwaith o’r blân. Ond un diwrnod on nhw wedi bod yn mynd dipyn yn araf ar eu taith, a fe âth yn nos arnyn nhw. Ac, yn wir, on nhw’n clywed dyn yn dod ar gefen ceffyl yn gyflym. Ac on nhw’n credu yn awr bod rhywun yn dost a bod o’n moyn doctor, neu rwbeth fela. Ond erbyn bod e ar eu cyfer nhw, dyma’r dyn yn aros, ac yn gweiddi:
‘Your money or your lives!’
A wedodd y ferch fach hyn: ‘We've got no money. We're only poor girls going from Cardiganshire to work to London and England.
A wedodd felna: ‘Well, I must have something off you, what about a kiss each?
A wedodd Ruth nawr yn Gwmrâg: ‘Chusana i ddim mono, dawn i'n marw.’
‘O’, wedodd e, ‘Cymry ife?’ Ond roiodd y ferch ddim cusan iddo, mae’n debyg. A mi adawodd gini iddi ar yr amod bod hi’n rhoi tot o ddrinc iddyn nhw ar y ffordd i Lunden. On nhw’n bwgwth ishe drink drannoth, ond odd hi’n gweud: ‘Mae wedi costu gormod i fi.’ A mewn ugien mlynedd, mae’n debyg, gâth Wil — ‘Black Wil o’r Rhandir-mwyn’ oedd e’n câl ’i alw — gâth ’i grogi. A fe wnaeth y ferch hyn brooch o’r gini yr adeg hynny.

Wel, nawr, ar y daith [ddaru nhw ddim] siarad lot â’i gilydd wedyn. On nhw wedi cal dipyn bach o ddychryn. On nhw wedi cyrradd pen eu taith, ta beth. Gaethon nhw ddim ond porthmyn [yn gwmni wedyn].

Wel, nawr, ’madawyd, a mi gâth Ruth waith gyda Lady Goodrich yn yr ardd, o dan arweiniad y prif arddwr, wrth gwrs. A fe brofodd Ruth ’i hunan yn dipyn o expert ar y blode ac yn y blân. Ac odd Lady Goodrich wedi cymryd diddordeb mawr yn Ruth, a galwodd hi i mewn un diwrnod a gofynnodd iddi a fyse hi boddlon bod yn lady’s maid iddi. A wedodd hi ei bod hi wedi addo wrth ’i thad dod nôl cyn y gaea, na alle hi byth â torri addewid. ‘Wel, wy’n meddwl lot yn well ohonoch chi am hynna, ond sgrifenna i lythyr i’ch tad’, medde hi. A sgrifennodd lythyr o Lunden i Abergwesyn — y Lady Goodrich — i John Watcyn. Ac odd e dipyn o anrhydedd i gal llythyr oddi wrth Lady Goodrich yn Abergwesyn. A’r ciwrat odd yn dod i ddarllen (on nhw ddim yn deall Saesneg). Ac odd rhyw gymaint o arian yn y llythyr, mae’n debyg, a gwahodd John Watcyn lan i Lunden i weld ’i ferch.

John Watcyn yn cwrdd â Lady Goodrich

Ac mi âth e i gwrdd â delyr y cyffyle nawr yn mynd nôl yr hydre — cytuno i fynd gyda’i gilydd wedyn yn y gwanwn. Ac wedodd y delyr wrtho am fwyda’r ceffyl bach yn dda achos bod hi’n daith fawr. Ac yn y gwanwn odd John Watcyn yn Pen-twyn, odd e fod yno dydd Mercher cyn y Pasg. Ac odd e yno ar gefen y ceffyl bach. A mi farchogwd i Lunden ych dou. Ac on nhw’n gweud bod nhw’n mynd gyda’i gilydd dros Bont Hereford ganol Dydd Gwener Groglith. Ac oedd e’n synnu i weld y ceue mowr yn Lloeger, dipyn yn wahanol i Abergwesyn. Oedd o wedi gweld ceue yna odd e’n teimlo alle fe roi mynydde Abergwesyn miwn ynnyn nhw. Ond dyna fe, odd e’n mynd wedyn i’r King’s Head [Ludgate Street] heb fod ’mhêll i Regent Street. Odd Cymro’n cadw’r tafarn hynny, Jac Jones o Lan-gors [1766-1821]. Odd e’n ddyn go enwog — ac aros manny’r nosweth hynny. Chwedyn, odd John Jones, y tafarnwr, yn ’i ddirecto fe bore drannoth i Regent Street.

A lawr âth e. A peth syndod gâth e odd gweld y rhif ar y tai. Odd e ddim wedi gweld hynny yn Abergwesyn, medde fe. Ond âth e lawr i Regent Street, ta beth, ac yn gweiddi: ‘Ruth Watcyn!’ A dynon yn dechre tyrru amboutu fe. Fe welodd y ffenest yn câl ’i hagor a gyda hynny’n cal ’i chau yn y stryd. A gyda hynny odd Ruth Watcyn, ’i ferch e’n dod mas i moyn e mewn. A gâth y pethe gore galle fe am yr wsnoth hynny gyda Lady Goodrich a gyda’r ferch yn Llunden. A mi gâth dipyn o arian, mae’n debyg, i ddod nôl. A mi rhoiodd nhw dan waddan ’i esgid, rhag ofan byse’r highway robbers yn gal e.

Ddôth nôl i Abergwesyn. Ac odd yr hanes yn ddiddorol iawn, mae’n debyg, i’r cymdogion wedi iddo fe ddod nôl. A mi claddwd John Watcyn yn [mynwent Capel] Pantycelyn, a’i wraig a’r merched, ond does dim hanes rhagor am Ruth, fel mae’n biti. Ta beth ddigwyddodd i Ruth wedyn, does neb yn gwybod, ond odd Lady Goodrich wedi rhoi hyn a hyn yn ’i hewyllys yn flynyddol iddi, fel galle hi gal ei chadw'n gyffyrddus hyd diwedd ei hoes. A ble claddwd Ruth, does neb yn gwybod. Na.

Tâp: AWC 5003. Recordiwyd: 19.vi.1976, gan Robin Gwyndaf.

Siaradwr: David Jones (1906-98), sir Frycheiniog. Ganed ar fferm Brongilent, Plwyf Llanddewi, Abergwesyn, ac fel ‘Dei Brongilent’ yr adwaenid ef gan ei gydnabod. Bu’n dyddynnwr, yn fugail ac yn was fferm. Yna am ugain mlynedd olaf ei flynyddoedd gwaith bu’n goedwigwr. Disgrifiodd Brongilent, ei gartref, fel hyn: ‘Tyddyn bugel. Llawr pridd odd i’r gegin amser co cyntaf gen i a to brwyn odd y sgubor a’r boidy yn yr hen amser.’

Roedd David Jones yn gynheilydd traddodiad nodedig, yn ŵr diwylliedig iawn a deheuig ei ddwylo, yn arbennig ym maes amaeth a chrefft. Etifeddodd fwynglawdd o wybodaeth am lên a llafar ei fro, y bywyd amaethyddol, crefftwyr yr ardal, ynghyd â meddyginiaethau at wella pobl ac anifeiliaid. Cofnodwyd tystiolaeth werthfawr ganddo ar y pynciau hyn ac eraill ar dapiau a recordiwyd gan staff Amgueddfa Werin Cymru (gw. tapiau rhifau 379, 4003-4, 4670-2, 5003-7, 5045-50, 6298, 6572-3).

Er i David Jones glywed stôr o hanesion a thraddodiadau am y porthmyn ar lafar gwlad, wedi darllen yr hanes am Ruth Watcyn mewn llyfr yr oedd, a’i gofio wedyn. Meddai ymhellach: ‘wi’m yn cofio ble — cael menthyg y llyfr nesh i gyda rhywun.’

Hyd at oddeutu chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd pentref bychan Abergwesyn, ym Mrycheiniog, yn fan cyfarfod pwysig i’r porthmyn, neu’r drofers. Oddi yno fe yrrent y gwartheg (ac weithiau ddefaid) heibio i Feulah a rhagddynt drwy sir Faesyfed i’w gwerthu yn rhai o ffeiriau Lloegr, megis Barnet a Smithfield. Deuent i Abergwesyn ar draws gwlad fynyddig o dri chyfeiriad: o Gwm Ystwyth, Ffair-rhos a Phontrhydfendigaid, heibio i Ystrad-fflur, Moel Prysgau a Nantstalwyn; o Dregaron heibio Cwmberwyn a Diffwys; ac o Landdewibrefi heibio i Soar y Mynydd.

Fel y dywedodd David Jones yn ei dystiolaeth lafar, roedd Tafarn Pen-twyn, y ‘Grouse Inn’, yn Abergwesyn, yn gyrchfan boblogaidd i’r porthmyn (a’r gyrwyr wedi hynny), rhai yn aros yno gyda’u hanifeiliaid i letya dros nos, rhai yn oedi yno i fwyta ac yfed. Ym Mhen-twyn hefyd yr oedd ffald neu gorlan helaeth lle’r arferid pedoli’r da. Y gof yn saithdegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd gŵr o’r enw Ianto Siôn Ifan. Adroddodd David Jones bennill a gyfansoddwyd i’r gof gan un o’r enw Shelby. Clywed y pennill gan ei gymydog John Rees Hope, Abergwesyn (gŵr a roes lawer o wybodaeth werthfawr i Amgueddfa Werin Cymru), a wnaeth David Jones. Mewn un fersiwn o’r pennill gan John Rees Hope, fodd bynnag, fel hyn y disgrifiwyd ffald neu ‘siop’ Ianto Siôn Ifan:

Mae’n anferth o led ac yn anferth o hyd,
Maent yn dod iddi o bob chwarter o’r byd.

Yn yr hanes diddorol a adroddir gan David Jones, cyfeiria at yr arfer ymhlith rhai o ferched sir Aberteifi yn y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o gerdded i Lundain i weithio yng ngerddi’r brifddinas. ‘Merched y Gerddi’ y gelwid y merched hyn a chyfeirir atynt ym mhennill Daniel Evans, ‘Daniel Ddu o Geredigion’, Llanfihangel Ystrad:

O na bawn i fel colomen
Ar Sant Paul yng nghanol Llunden,
I gael gweled merched Cymru
Ar eu gliniau’n chwynnu’r gerddi.

Yn aml iawn câi'r merched hyn gwmni’r porthmyn ar eu taith hir, a pheryglus hefyd ar brydiau, i Lundain. Felly y bu hi yn hanes Ruth Watcyn.

Am recordiad arall o hanes Ruth Watcyn yn mynd i Lundain, gw. tâp AWC 4670, recordiwyd gan John Williams-Davies, 23 Gorffennaf 1975. Am hanes y porthmyn, gweler Richard J Colyer, The Welsh Cattle Drovers (Caerdydd, 1976), a’r cyfeiriadau a nodir yno.

Am hanes Merched y Gerddi, gweler erthygl John Williams-Davies, ‘Merched y Gerddi: A Seasonal Migration of Female Labour from Rural Wales’, Folk Life, 15, 1977, tt. 12-23. Ceir fersiwn Gymraeg o’r erthygl uchod yn Ceredigion, 8, 1978, tt. 291-303. Gw. ymhellach nodyn William Linnard yn Ceredigion, 9, 1982, tt. 260-63. Am fersiwn brintiedig, yn Gymraeg a Saesneg, o hanes Ruth Watcyn, gw. Robin Gwyndaf, ‘Abergwesyn, y Porthmyn a Ruth Watcyn’, Medel, 1, 1985, tt. 34-40.