Cofio Daniel Owen

Items in this story:

  • 1,360
  • Use stars to collect & save items login to save

By Leisa Davies, Tre-boeth

 

This story is only available in Welsh:

 

Faint odd ych oed chi, felly, pen fuo Daniel Owen farw?

Bedair ar ddeg oed ...

A be ’dech chi’n gofio am Daniel Owen? Fuoch chi’n siarad efo fo?

Naddo, fues i ddim yn siarad efo fo. Ond gwrandwch, rodd gynno fo ffrind, John Lloyd Morris, argraffydd yn Yr Wyddgrug. Ac yr oedd o’n fab yng nghyfreth i argraffydd enwog arall yn Yr Wyddgrug — dwi i ddim yn cofio’i enw o rŵan. Ac roedd y John Lloyd Morris ’ma yn dŵad i fyny bob pythefnos i gasglu rhenti tai [lle’r] oedden ni fel teulu, nhad a mam, yn byw [yng Nghoed-talon]. Ac mi fydde Daniel Owen yn dŵad i fyny efo fo yn yr ha’ mewn cerbyd bychan. Ac fydden yn sefyll reit ar gyfer yn tŷ ni. A dyne’r adeg on i’n gweld Daniel Owen. Ac yr oedd o’n gwisgo het fflat ddu, fel bydde ciwret yn gwisgo ersdalwm, a chôt laes ddu. A golwg gwelw arno fo. Odd o’n dŵad, ’dach chi’n gweld, am dipyn o awyr iach efo’r gŵr ’ma i fyny, a ninne’n ’i weld o.

Oedd o â golwg gŵr gwael arno fo, ’lly?

Oedd, golwg, ’dach chi’n gweld, dyn gwanedd ’i iechyd.

Teulu Daniel Owen

Dech chi am ddeud gair wrtha i am ’i deulu o rŵan?

Ia, wel, glöwr odd ’i dad a dau o’i frodyr. Gweithio yn y pwll glo. A fuo ’ne ddamwain yn y pwll glo — fe foddwyd y pwll. Fe fuase tad Daniel Owen yn gallu gwaredu ’i hun a’i ddau fachgen drwy nofio, ond fedre’r plant ddim nofio, ac felly fe arhosodd o efo’r plant a mi boddwyd nhw. Odd un yn ddwy ar bymtheg a’r llall tua un ar bymtheg. Ac odd o’n ddyn duwiol iawn, a mi fydde’n mynd â’i Feibl gydag o i lawr y pwll glo. Ac fe gafwyd y Beibl yn y mwd a’r baw ar waelod y pwll. Wel, yr oedd ’ne amryw wedi cal ’u boddi ac fe godwyd cronfa i’w cynorthwyo nhw. Ac fe roddwyd yr arian ’ma mewn banc yn Nhreffynnon. Ac roedd Meri Lewis [= Mary Owen, mam Daniel Owen] i gal pedwar swllt ar ddeg yr wythnos i’w chynnal hi a’i dau fachgen a dwy eneth — pump ohonyn nhw. Ond fe dorrodd y banc ac fe gollwyd y cwbwl, a chafodd neb yr un ddime. Ac wedyn ma ’ne hanes am Daniel Owen — odd hi’n adeg galed iawn, iawn arnyn nhw a dodd gynno’r fam ddim byd ond yr hyn odd hi’n gallu ennill drwy olchi a gneud ryw swyddi erill — a ma ’ne hanes am Daniel Owen druan yn fachgien saith oed yn gweithio yn Rhosesmor yn codi maip am ryw gieniog yr wythnos. Adeg ofnadwy yn ’u hanes nhw. A peth rhyfedd i mi bod hi wedi rhoi crefft i’r ddau fachgen. Dafydd ’i frawd odd yn hŷn na fo yn saer maen a Daniel yn deiliwr.

Ie. Odd hwnne’n rhyfeddod amser hynny, ’ndoedd.

Oedd.

Yng nghanol y caledi mawr.

Ia, mi ddaru lwyddo. Yr odd Angell Jones yn flaenor yn y capel yn Bethesda ac yr odd Mary, ’i fam, ac ynte’n ffrindie mawr. A’i fam ydi Meri Lewis yn Rhys Lewis, ac Angell Jones ydi Abel Hughes.

Pwy odd yn deud hynny wrthoch chi?

Wel, mae hynny’n wybyddus iawn. Daniel Owen ’i hun ddudodd o i ddechre. A rywfodd ne’i gilydd dwi wedi casglu’r pethe ’ma i gyd. Ma nhw ar fy ngho’ i, ’dach chi’n gweld, bob peth oddwn i’n ’i glywed. Achos, ’dach chi’n gweld, yr odd enw Daniel Owen yn air teuluedd. Ac rodd ’i ddywediade fo ar lafar gwlad, chi’n gweld. Fydde rwfun yn deud, ‘Wel, Daniel Owen wedi deud fel ar fel a fel ar fel.’ A, wel, dwi wedi’u cofio nhw, rywsut, ’dach chi’n gweld, ar hyd y blynyddoedd.

Ie. Nawr, efo teulu Daniel Owen, oes gynnoch chi ryw wybodaeth arall am dad ne fam Daniel Owen? Sut bersone odd tad ne fam Daniel Owen? ’Dech chi wedi clywed ych rhieni’n deud rywbeth amdanyn nhw?

Do. Wel, odd ’i fam o’n ddynes anghyffredin iawn. Yr hanes amdani hi odd [ei bod] hi’n hyddysg yn ’i Beibl. Dyne Meri Lewis, ’dach chi’n gweld. Ac odd hi wedi bod yn adrodd penode o flaen Charles o’r Bala pan fydde fo’n mynd trw’r wlad i wrando ar y pethe yne. A ma ’ne hanes amdani hi hefyd yn cierdded o’r Wyddgrug i Ruthun, achos o’r ardal ene odd hi’n dod, i weld ei theulu. A Daniel yn faban bach, ’dach chi’n gweld, fo odd yr ienga’, a gario fo yr holl ffordd i Ruthun ac yn ôl. A helpio efo gwaith y ffarm yn y fan honno, helpio efo’r corddi a phethe a cierdded yn ôl i’r Wyddgrug wedyn. Odd hi’n ddynes anghyffredin ... a’i dad yn ddyn duwiol iawn ...

Nawr odd ’ne ryw berthynas, os dwi’n deall yn iawn, rhwng mam Daniel Owen a Twm o’r Nant?

Oedd, oedd hi o’r un teulu. Ia, o’r un teulu. Ac ma ... pobl yn deud ma drw ’i fam y cafodd o ’i athrylith. Ac fe odd hi yn dod o deulu Twm o’r Nant.

Ysgol, coleg a phregethu; Angell Jones, siop y teiliwr, a’r het silc

Wel, ’dech chi am ddeud wrtha i rŵan rywbeth glywsoch chi am Daniel Owen pen odd yn fachgien? Sut fachgien odd o?

Bachgen eiddil odd o, ’dach chi’n gweld. Ychydig iawn o addysg ysgol gafodd o ... Beth bynnag, mi dyfodd i fyny yn fachgen ifanc hynod o ddefnyddiol. Yr oedd o’n dipyn o fardd. On nhw’n deud bod gynno fo lais tenor da. Odd o’n englynwr da ac yr odd o’n arweinydd steddfod da. Roedd gynno fo ddosbarth o bobl ifinc yn y capel. Mi dyfodd i fyny yn ddyn ifanc rhagorol. A’r un rheswm am hynny odd addysg ’i fam ac Angell Jones. Ac rodd gin Angell Jones, ’dach chi’n gweld, odd gynno fo nifer o ddynion yn gweithio iddo fo — teilwriaid. A’u ffor’ nhw o weithio odd — wn i ddim ydi teilwriaid yrŵan yr un fath — odd istedd ar y bwrdd i gyd efo’i gilydd. Ac yn trin ac yn trafod cwestiyne crefyddol a diwinyddol. Ac mi ddysgodd o felly lawer iawn, ’dach chi’n gweld, ym mysg y dynion rheini.

Mi fuodd o yn y coleg [Coleg y Bala], yndô?

Ia, am ryw ddwy flynedd. Dodd o ddim yn efrydydd da iawn. Odd o’n ffefryn gan ’i gyd efrydwyr. Yr oedd o’n rhagori mewn rhai pethe. Fydda’n rhagori mewn hanes Cymraeg a Saesneg. Ond mewn pethe erill oedd o’n isel iawn. Dwi’i cofio gweled rhestr o efrydwyr y coleg a daeth enw Daniel Owen yn isel iawn, iawn.

Odd o’n bwriadu mynd i’r weinidogeth yr amser hynny?

Wel, wn i ddim — odd o yn prygethu. Fu’n prygethu am gyfnod. Dwi’n cofio gofyn i nhad ffashiwn brygethwr odd o. A nhad yn deud mai prygethwr reit tila odd o. Fydda’n nyrfus iawn ac yn darllen ’i bregeth o’r dechre i’r diwedd. Ond wedyn, odd ’ne adran arall o bobol yn ’i ganmol o. Oedd ... pobol ddysgiedig, wedyn, yn cal ’u boddhau’n fawr gynno fo. Ond i’r werin gyffredin — [na]. Mi ofynnwyd i ryw hen brygethwr — dwi ddim yn cofio be odd ’i enw o, ond odd o’n weinidog enwog yn ’i ddydd — rywun yn gofyn iddo fo oedd o wedi clywed Daniel Owen yn prygethu. ‘Do’, medda fo. ‘Ffashiwn brygethwr odd o?’ ‘Wel, ’dasech chi’n glywed o unweth fase gynnoch chi ddim isio’i glywed o wedyn.’ Dyne ’i farn o. Ond roedd ’ne rai yn ’i ganmol o.

Ond ddaru o ddim aros i orffen ’i gwrs yn y coleg, naddo?

Naddo. Odd ’i frawd Dafydd, odd yn hŷn na fo, wedi bod yn gofalu am y cartre, ac yn mynd i briodi. Ac mi anfonodd i ddeud ac yn syth mi baciodd ’i fag a mi ddôth adre. Ac ar y ffor’ adre mi alwodd yn siop Angell Jones i gal ’i waith yn ôl. A mi cafodd o.

Sawl blwyddyn odd o wedi bod hefo Angell Jones cyn mynd i Goleg Y Bala?

Ma rhaid bod o wedi bod am flynyddoedd. O’r adeg oedd o’n fachgen nes aeth o’n ddyn ifanc, ’dach chi’n gweld. A mi ... ddaru mab Angell Jones ’i chymeryd hi [y fasnach] ar ôl ’i dad. Ac wedyn mi roth ynte i fyny a mi ddaru Daniel Owen gymryd y siop.

A mi gymrodd bartner, gŵr o’r enw Lloyd. A beth bynnag, ddaru’r bartneriaeth ddim para’n hir achos ddaru Daniel Owen yrioed bwyso ar neb i brynu yn ’i siop o. Ond odd Lloyd ’ma’n ddyn hollol wahanol a ryw asbri masnachol mawr yn perthyn iddo fo. Ac odd o’n gwthied y pethe i’r bobol ac odd y bobol yn deud, ‘Wel, does gynna ni ddim modd i dalu.’ ‘O, talwch rywbryd.’ Ac wedyn mi âth pethe’n ddrwg a ddaru nhw wahanu.

Wel, rŵan, odd fy nhad i’n cal ’i ddillad o siop Daniel Owen. Odd hwnnw’n beth amheuthun iawn. A beth bynnag i chi, yr oedd o’n mynd yno i weld Daniel Owen yn amal iawn. Ac mi giês i het — odd y dynion yn gwisgo het silc yr adeg honno — ’dach chi’n cofio? Ac mi gafodd fy nhad het silc. A wir, doedd o yrioed wedi gwisgo fawr arni hi. A mi giês i hi. A tu fiewn odd hi’n het hardd iawn, odd hi fel newydd. A leinin gwyn tu mewn ac arni hi: Owen and Lloyd Hatters and Drapers. A mi rois i honno i Ceiriog Williams ac y ma hi yn yr amgueddfa yn Yr Wyddgrug hefo pethe erill odd yn perthyn iddo fo.

’Na ni. Fydde’ch tad, rŵan, och chi’n deud, wrth ’i fodd yn mynd i siop Daniel Owen?

Oedd.

A beth odd y sgwrs oddan nhw’n gal?

Wel, am lyfre a phethe felly a pethe crefyddol.

Daniel Owen, y nofelydd, a Leisa’n cael y wialen fedw oherwydd ei blys i ddarllen pennod arall o Enoc Huws yn Y Cymro

Ac wedyn [yn ogystal â dylanwad Angell Jones, y teiliwr] oedd dylanwad ’i Weinidog o, Roger Edwards, ’dach chi’n gweld. Ac yr odd o’n ffrind mawr i Ellis Edwards — Professor Ellis Edwards — ffrind mawr iawn. A drwy’u dylanwad nhw y dechreuodd o ysgrifennu nofele. Chi’n gweld, ’i lyfr cynta fo odd Offryme Neilltuaeth. Dyne enw’r llyfr. Roger Edwards ddaru ’i gymell o i’w ysgrifennu o. Saith o’i bregethe gore fo a ’chydig hanes hen gymeriede tre’r Wyddgrug. Ac yna fe ddaeth Y Dreflan allan, Ei phobl a’i phethau. Ac yn y flwyddyn mil wyth wyth un, y flwyddyn cês i ’ngieni, y daeth honno allan. Ac mi ymddanghosodd am ddwy flynedd yn Y Drysorfa. A Roger Edwards odd golygydd Y Drysorfa yr adeg honno. A fo ddaru ’i gymell o i’w rhoi hi yn Y Drysorfa. Ac rodd o’n ysgrifennu pennod ar gyfer pob mis, heb ddim mewn llaw. A hynny am ddwy flynedd. Hanes hen gymeriade tre’r Wyddgrug. Ac fe ddyblwyd cylchrediad Y Drysorfa oherwydd hynny.

Ac wedyn mi ddôth Rhys Lewis allan. Hwnnw’n ymddangos am dair blynedd yn Y Drysorfa. Ac mi gafodd dderbyniad ardderchog. Odd bobol wedi’u swyno a’u gwefreiddio ganddo fo. A pan oeddwn i — ’rhoswch chi rŵan — oeddwn i’n ddeg oed, dwi’n cofio Enoc Huws yn dŵad allan. A does na neb ond y bobol odd yn byw yn y cyfnod hwnnw yn gwybod am y wefr a’r pleser gafwyd efo’r llyfr hwnnw, ’dach chi’n gweld. Odd o’n ’sgafnach llyfr na Rhys Lewis. Ond Rhys Lewis, wrth gwrs, odd ’i lyfr gore fo. Ond rodd ’ne deimlad yr adeg honno, ryw deimlad Piwritanaidd cry’ yn bod, a doedden nhw ddim yn licio nofele, yr hen Biwritaniaid. Ac felly ddaru o ddim ’i rhoi hi fel nofel, y teitl ydi Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel, ’dach chi’n gweld. Ond wedyn mi ddôth Gwen Tomos allan. Ond dydi Gwen Tomos ddim gystel nofel â’r ddwy arall am y rheswm bod ’i iechyd o yn gwaelu. A mi gafodd waith mawr iawn, iawn i’w gorffen hi. Wedyn mi ddôth Y Siswrn, llyfr bach arall, hanesion am hen gymeriade, a Straeon y Pentan. A ryw lawer iawn, iawn o bamffledi ac ysgrife ganddo fo i wahanol gylchgrone.

Dowch i ni fynd yn ôl rŵan i gyfnod cynnar Daniel Owen. Och chi’n deud bod o wedi cal ’chydig o ysgol. Beth glywsoch chi gan ych tad a’ch mam am y math o ysgol odd o wedi’i gal?

Wel, mae’n debyg mai ryw ysgol sâl iawn odd hi, debyg i ysgol Robin y Sowldiwr mae o’n sôn amdano fo, ’dach chi’n gweld ...

Pan fyddech chi’n blant, rŵan, yng Nghoed-talon, fyddech chi’n siarad hefo’ch gilydd fel plant am Daniel Owen?

Na fydden.

Odd o ddim gwahanol i rywun arall amser hynny?

Wel, nagodd. Wel, mi dduda i chi. Dwi’n cofio oddwn i’n eneth ddeg oed pan ddôth Enoc Huws allan. A roeddwn i’n ddarllenreg — fedrwn i ddim cal digon o bethe i ddarllen. Ac oeddwn i wrth fy modd efo Enoc Huws. Dod allan am dair blynedd yn Y Cymro, pennod bob wythnos. Ac fedrwn i ddim aros i weld yr wythnos yn dod i ben ... ar nos Wener odd y papur yn dod. Dyheu am ’i weld o a chael gwybod be odd yn mynd ymlaen. Ac yn un man mae Enoc Huws yn mynd i broposio i Siwsi Trefor. A ma hithe’n ryw hen weden go siarp a ma hi’n ’i bryfocio fo ac yn ’i demptio fo. Ac ma hi’n chware efo fo. Ac mewn un bennod odd o ar fin gofyn iddi hi ’i briodi o. A beth bynnag, yr odd hi wedi troi’r peth i ffwr’. Ac oeddwn i isio gwybod fydde fo arnodd yr wsnos wedyn, fydde fo wedi gneud.

A be neish i odd mynd i gyfarfod bachgen y papur newydd a chymyd y papur newydd oddi arno fo a mynd yn slei i fyny i’r llofft a’i ddarllen o cyn i nhad ’i gal o. Achos odd ’ne ddim gobeth i mi ’i gal o dan Sadwrn os bydde fo wedi cal gafel yno fo. A dwi’n cofio nhad yn deud wrth mam, ‘O, ma bachgien y papur ’ne’n hwyr heno.’ Ag wedyn, ar ôl i mi fwynhau’r bennod, mynd â fo i lawr iddo fo. Mi geis y wialen fedw. Geis chwip tu nôl â’r wialen fedw am neud tric mor wael. [Leisa Davies yn chwerthin]

Neusoch chi ... ?

A ma honno wedi aros ar fy ngho’ i byth.

Ond oeddach chi wedi cal darllen y bennod?

On i wedi cal darllen y bennod a cal y mwynhad. A does neb yn gwybod ond y rhai odd yn byw yn y cyfnod hwnnw — odd pawb yn disgwyl am Y Cymro, ’dach chi’n gweld, i gael pennod ar ôl pennod. O, mi odd o wedi cyflenwi ryw angen. Dodd ’ne ddim nofele fel ene’r adeg honno, ’dach chi’n gweld. A mi nath gymwynas fawr efo’r bobol. Ac odd o’n deud, ‘Nid er mwyn y doethion a’r deallus yr ysgrifennais, ond er mwyn y bobol gyffredin.’ A ma hwnne ar ’i gofgolofn o ...

A ’dach chi’n gweld, ’chydig iawn sy’n fyw heddiw — wn i ddim oes ’ne rywun yn yr ardal ene’n fyw heddiw — dwi ddim yn meddwl. A mi fydde’r bobol yn sôn amdano fo, be fydde fo’n licio i fyta. Sbawd o fytyn [mutton] odd o’n licio a hwnnw’n frith. Dipyn bach o wyn yno fo. Ac i’w swper mi fydde’n licio caws sir Gaer a dipyn o ham cartre wedi’i ferwi. Ac fe fydde ’i fam a’i chwaer yn cymyd golchi i mewn. Ac wedyn, cyn i Daniel ddod o’r siop, mi fydden yn tacluso’r lle, symud y mangyl a gwneud pob man yn daclus iddo fo, a’i swper yn barod fel medre fo fynd ati hi i ysgrifennu.

Ia. Wel, wel. Clywed hwnne naethoch chi?

Ia.

Ych tad a’ch mam odd yn deud y pethe ’ma fwya?

Nace, bobol erill on i’n clywed yn deud.

Ffraethineb Daniel Owen a’i frawd, Dafydd

Ond rodd ’ne lawer iawn o bobol yn mynd i’w siop o. Odd ’ne un dyn yn arbennig yn Yr Wyddgrug odd wedi clywed sôn amdano fo, odd o’n go ddiarth i’r ardal. A ddaru feddwl fase fo’n mynd i siop Daniel Owen a tynnu sgwrs efo fo. A mi âth. Dyma Daniel Owen ymlaen ato fo.
‘Be ga’ i ddangos i chi?’ A wydde fo ddim be i neud.
‘Y ... y ... coler’, medda fo.
‘Pa seis?’
Nineteen’, medda’r dyn.
‘O’, medde Daniel Owen, ‘mae siop y sadler yr ail ddrws yn is i lawr!’ [Leisa Davies yn chwerthin]

Ew, ma ’ne lawer iawn o’r storïe yne.

Wel, oes. ’Dech chi’n cofio rhagor?

O, ydw, dwi’n cofio lot ohonyn nhw. ... Odd ’ne farchnad yn cal ’i chynnal yn yr Wyrgrug bob dydd Mercher. Gwerthu anifeiliaid — gwartheg a defed. Ac odd ’ne ryw hen ffarmwr yn mynd yn gyson i’r farchnad. Ac mi ddaru golli’r farchnad un diwrnod. A mi welodd Daniel Owen ar y stryt diwrnod wedyn a medda fo:
‘Sut âth y defed ddoe?’
‘O’, medde Daniel Owen, ‘rhai yn cierdded a’r lleill mewn trolïe.’

Ac odd o ryw dro yn mynd i fyny’r stryt ac odd hi’n glawio’n go drwm. A mi gyfarfyddodd fachgien ifanc. Ag medda fo wrth y bachgien ’ma:
‘Dyma law glyb.’ A medde’r bachgen, meddwl bod o’n smart:
‘Welsoch chi law sych yrioed, Mr Owen?’
‘Do’, medda fo ac yn tynnu ’i law o boced ’i drywsus, ‘dyma law sych.’

Pwy odd yn deud y stori yne wrthoch chi?

O, ma hi ar lafar gwlad, ydach chi’n gweld. Ac yr odd o wedi bod yn calyn merch ifanc ac odd hi’n ferch ifanc hardd iawn oddan nhw’n deud. O, odd o mewn cariad efo hi dros ’i ben a’i glustie. Ond odd o rhy ara’ deg a mi briododd un arall. A fydde pobol yn ’i blagio fo wedyn ac yn cogio ’i gynorthwyo fo ac yn deud:
‘Wel, byse hon a hon yn gneud gwraig iawn i chi.’
‘Fynna i mohoni hi’, medda fo, ‘ma gynni hi wyneb fel tebot!’

A dyma un arall. Odd ’ne ŵr yn Wyrgrug — be odd ’i enw fo? Dwi ddim yn cofio. Ond odd o’n byw mewn lle o’r enw Cefn y Gader. Odd o’n wynidog enwog. ... A, beth bynnag, odd ’na gyfarfod o Gymdeithas y Beibl, a’r gŵr yma yn llywyddu. Ac fe’i galwyd o allan i rywbeth. Ac yna fe gymhellwyd Daniel Owen i gymeryd y gader yn ’i le. A dyma fo’n mynd yn hwyrfrydig iawn ac yn deud, ‘Fydd hi ddim yn gyfforddus iawn yn y gader ’ma heno a Chefn y Gader wedi mynd.’ Cefn y Gader odd enw’r tŷ lle’r odd y dyn ’ma’n byw. A dene fel yr odd ’ne lawer iawn o hanesion fel ene amdano fo ar lafar gwlad.

Oddech chi wedi clywed rai o rhein, rŵan, pen och chi’n eneth fach?

Oeddwn.

A wedi dal i’w clywed nhw wedyn?

Ie, a finne’n ’u cofio nhw, ’ntê.

Wel, dudwch y stori yma am ddatod y clyme ’ma. Beth ydi’r stori yne?

Am yr eneth efo’r llinyn? Wel, geneth mynd â parsel i’r siop eisio newid ryw dilledyn. Ac odd o wedi’i rwymo efo llinyn ac yn lle aros i ddatod y cwlwm, mi gydiodd mewn siswrn oddi ar y cownter a mi dorrodd y llinyn. Ac wedyn mi âth i ddechre siarad efo Daniel Owen:
‘Pryd ’dach chi’n meddwl priodi, Mr Owen?’
‘Wel’, medda fo, ‘dwi’n aros nes do’ i ar draws dynes efo digon o ’fynedd gynddi i ddatod cwlwm.’

A pwy glywsoch chi’n deud y stori yne?

Diar, wn i ddim. ... Ar lafar gwlad oedden nhw, ’dach chi’n gweld. ...

Wedyn, oddech chi’n deud bod o [Daniel Owen] yn mynd i’r dafarn?

Oedd.

I nôl ...?

I nôl diod. Wel, rŵan, ... mi odd o’n istedd, ma’n debyg, yn y dafarn mewn ryw gader. Odd gynno fo gader arbennig i iste’ arni hi. Gwraig y dafarn yn rhoi cader arbennig iddo fo. A fe werthwyd y gader honno’n ddiweddar iawn ’ma mewn ocsiwn. A dyn o’r ardal — dwi ddim yn siŵr ai tafarnwr odd o — ddaru ’i phrynu yn ddiweddar iawn.

I ba dafarn odd o’n mynd? ’Dach chi’n cofio enw’r dafarn?

Tafarn yn ymyl ’i siop o odd hi. Dwi ddim yn gwbod ’i henw hi rŵan.

Ia. A brandi och chi’n deud fydde fo’n yfed?

Ma’n debyg.

Glywsoch chi sôn bod o yn enwog am ’i ffraethineb yn y dafarn?

Wel, naddo, chlywes i ddim. Ond ma’n sicir ’i fod o. Wel, odd gynno fo frawd, ’dach chi’n gweld, Dafydd. Dudodd Daniel Owen ’i hun, ’dase gynno fo hanner talent ’i frawd a’i allu o i ddeud storïe y base fo’n falch. A ma’n ymddangos fod Daniel Owen wedi defnyddio rhai o ddywediade ’i frawd. Ac yr odd ’i frawd yn ffond o’i ddiod. Ac mi roedd o’n treulio bob pnawn Sadwrn mewn tŷ tafarn a pobol yn dylifo ene i wrando ar ’i ffraethineb o a’i storïe fo.

Ia?

A dipyn yn wyllt odd o. Ac wedyn odd o’n ffraeth iawn. A bobol ’ma’n mwynhau ’i gwmni o. Ac odd ’ne un dyn yn cierdded milltyroedd bob pnawn Sadwrn i ddim byd ond i fynd i’r dafarn ’ma i glywed o yn adrodd y storïe.

Yn Yr Wyddgrug oedd hyn?

Yn Yr Wyddgrug.

Ac ma ’ne hanes am ryw ddyn — on i’n nabod y dyn yn iawn — Gryffudd Jones odd ’i enw fo, o Goed-llai. Ac odd o’n ddirwestwr mawr, mawr. Ac mi âth un diwrnod i ddadla efo Dafydd ynglŷn â’r ddiod, a medde fo:
‘Ma’r Beibl’, medde fo, ‘yn bleidiol i ddirwest.’
‘Taw’, medde Dafydd, ‘ti ddim yn gwbod am yr adnod honno?’
‘Pa adnod?’ medde Gryffudd Jones yn ddiniwed.
‘Wel, yr adnod honno’, medde fo, ‘Yf ddiod gadarn fel y cryfhao dy fraich ac y bydded rymus i ddefnyddio dy forthwyl.’
‘O, wel, yn lle mae’r adnod ene?’ medde [fo].
‘Wyt ti’n deud bod ti’n gwbod dy Feibl. Cier adre a chwilia amdani.’
A mi fu Gryffudd Jones yn chwilio am yr adnod am fisoedd. Odd o’n un ffraeth iawn. A ma nhw’n deud mi gafodd waeledd trwm yn y diwedd a mi drodd yn ddyn gwell.

Gwaeledd a gwendid; anrhydedd ac anfarwoldeb

'Dech chi wedi bod yn darlithio ar Daniel Owen, yndô ... Ellech chi siarad am Daniel Owen, rŵan, wrtha i. Sut ’dech chin dechre’ch darlith, felly?

Wel, y peth cynta’, dw i’n meddwl, i mi ddeud oedd hyn: bod iechyd Daniel Owen — bod o’n cal ysbeidie o wendid a nychtod oherwydd damwain gafodd o. Odd o wedi bod yn prygethu — pan odd o’n prygethu — wedi bod yn prygethu yn Llangollen. A bydde prygethwyr yr oes honno’n mynd ar bnawn Sadwrn i’w cyhoeddiad ac yn dychwelyd ar fore Llun. A’r bore Llun yma odd hi’n fore Llun braf a mi feddyliodd basa fo’n mynd i ben Castell Dinas Brân. Ac mi âth i ben y Castell ac wrth ddod i lawr mi faglodd ’i droed mewn draenen. Mi syrthiodd ar ’i giefn ac mi anafodd ’i sgyfaint yn dost. A mi fu’n diodde oddi wrth hwnnw weddill ’i oes.

Roedd o’n nyrfus iawn ar ôl ’i waeledd hir [tua diwedd ei oes]. Ac un noson odd o wedi mynd i’r capel, ac yn istedd wrth y drws fel bydde fo fel arfer. Ac rodd y prygethwr yn mynd i hwyl fawr a mi gollodd ’i ddannedd gosod nes darun syrthio ar lawr y sêt fawr. Ac mi ddôth ynte o’r pwlpud i chwilio amdanyn nhw, a mi gafodd Daniel Owen fraw difrifol a mi redodd allan. Ac mi âth rhywun ymhen ychydig i edrych lle’r oedd o, be oedd wedi digwydd iddo fo. A dene lle’r oedd o yn gafel yn reilings y capel yn y buarth ac yn gofyn, ‘Sut y mae o rŵan?’ Odd o’n meddwl bod ’ne rwbeth mawr wedi digwydd iddo fo.

Pwy odd yn deud y stori yma wrthoch chi?

Cofio ’i darllen hi, mae’n debyg, ddarum i — ’i gweld hi yn rhwle a’i chofio hi ...

Chydig cyn iddo fo farw rodd o wedi cal ryw ysbaid o wendid fel rodd o’n arfer gal. Ac odd o wedi gwella’n go lew ac allan ar y stryt. A dyma fo’n cyfarfod merch ifanc a ma hi’n gofyn iddo fo fel hyn:
‘Wel, sut ’dach chi’n teimlo heddiw Mr Owen?’ Odd hi’n gwybod am ’i wendid o.
‘Wel’, medde fo, ‘digon gwael. Gwaelu ydw i. Ac mewn ’chydig mi fydd rhywun yn deud wrthach chi. “Ma Daniel Owen wedi marw.” “Pryd?” “Ddoe.” “Pryd ma’r claddu?” “Drennydd.” “Be odd ’i oed o?” “Hyn a hyn” “Faint ’dawodd o ar ’i ôl?” A dene chi wedi clywed y gair ola’ am Daniel Owen.’

A ddaru Daniel Owen yrioed feddwl y buase ’ne gofgolofn iddo fo yn nhre’r Wyddgrug. Ddaru o ’rioed feddwl am yr adeilade hardd odd yn cal ’u codi i gofio amdano fo. Ddaru o ’rioed feddwl am y garreg enfawr roddwyd ar gyfer lle ganwyd o — y tŷ yn nhop tref Yr Wyddgrug. Ddaru o rioed feddwl y buase tre’r Wyddgrug yn cal ’i alw’n Dre Daniel Owen. A ddaru o rioed feddwl am y dathlu mawr fuo ’ne — fydde ’ne ar ’i ôl o — ar ôl can mlynedd i gofio ’i eni o. A Lloyd George ac Elfed ac enwogion erill yn annerch ...

‘Mistar heb ’i fath; gŵr dirodres yn caru’r encilion; casáwr pob ffug a rhagrith; cellweirus ’i dafod ond glân ’i wefus; gŵr na chafodd erioed ’i sbwylio gan enwogrwydd, a gŵr na fu erioed angen dileu yr un linell a ysgrifennodd erioed. Dene Daniel Owen.’

A mae o’n grynhoad perffaith ohono fo, ’dach chi’n gweld. Chafodd o mo’i sbwylio gan enwogrwydd. A cofiwch un peth, mae o’n eilun y gienedl o hyd. Y gweinidogion a’r gweithwyr o hyd yn dyfynnu o Rhys Lewis. Dywediade Meri Lewis ac Abel Huws a Bob, Thomos Bartle a rheini i gyd, chi’n gweld.

Tâp: AWC 4476-77. Recordiwyd: 30.x.1974, gan Robin Gwyndaf.

Siaradwraig: Leisa Davies, Tre-boeth/Handbridge, Caer.
Ganed: 14 Ebrill 1881, ym Mhen-y-boncyn, Coed-talon, ger Treuddyn, sir Y Fflint. Ganed ei mam, Elizabeth (Williams cyn priodi), a’i thad, Peter Roberts, yng Nghoed-llai, ger Yr Wyddgrug, sir Y Fflint. Bu Leisa Davies yn forwyn cyn priodi. Wedi priodi, symudodd i Gaer i fyw.

Yr oedd yn amlwg ym mywyd y capel (eglwys MC Caer) ac enillodd Fedal Gee am ei ffyddlondeb i’r Ysgol Sul. Roedd yn wraig ddiwylliedig ac eang ei diddordebau. Y ddrama oedd un ohonynt. Yr oedd Daniel Owen yn arwr ganddi hi a’i theulu, a bu’n annerch droeon ar ei fywyd a’i waith.