Cân Gynyddol: 'Dyn Bach o Fangor Newydd Ddod i'r Sarn'
Items in this story:
By William Rowland, Porthmadog
This story is only available in Welsh:
Dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Blew ar gynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Blew ar gynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Blew ar gynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Locsyn pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Locsyn pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Locsyn pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Chwannen ar locsyn pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Chwannen ar locsyn pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn,
Chwannen ar locsyn pry ar flew cynffon ci merch chwaer dyn bach o Fangor newydd ddod i'r Sarn.
Tâp: AWC 4635. Recordiwyd: 7.vi.1967, gan Robin Gwyndaf.
Canwr: William Rowland, Porthmadog.
Ganed: 1887, Rhiw, Sir Gaernarfon.
Prifathro Ysgol Ramadeg Porthmadog.
Awdur nifer o lyfrau.
Ni chofiai William Rowland gan bwy y clywodd y gân gynyddol hon, ond credai mai 'yng nghylch Eifionnydd' y clywodd hi, ac yntau bryd hynny o leiaf yn ugain mlwydd oed. Nid oedd wedi'i chlywed o gwbl yn Llŷn pan oedd yn hogyn. Cyfeiriai ati fel cân 'Dyn Bach o Fangor'.
Arferai William Rowland ganu'r gân hon mewn socials wedi iddo ddod yn Brifathro ar Ysgol Ramadeg Porthmadog yn 1924. Cyfeiriai'r plant ati fel 'hen gân y chwannen'. Byddent yn arfer â dweud: 'Da chi'n cofio fel oech chi'n canu "hen gân y chwannen", am 'i bod hi'n gorffen efo'r chwannen.'
Fel gyda chaneuon cynyddol eraill, megis 'Y Pren ar y Bryn', 'Cyfri'r Geifr', 'Ble mae Daniel' a 'Cân yr Ych, Tarw, Blaidd a Chi', y gamp oedd canu cân 'Dyn Bach o Fangor' yn glir, yn gywir ac yn gyflym, heb golli gwynt.