Celwyddau Golau Dafydd Jones, Porthmadog

Items in this story:

By John o John, Porthmadog

 

 

This story is only available in Welsh:

 

Ia, diar annwl dad, rodd yr hen Ddafydd yn nodweddiadol o'r cymeriada lliwgar ddechra'r ganrif ddwytha, y rhei nad oddan nhw ddim wedi cal dim manteision addysg, ac eto i gyd, rodd gynno fo ryw ddawn, ryw ddychymyg i fynd i fyd y plentyn, ychi, ryw straeon. Odd bys cynta Dafydd Jôs wedi'i wargamu felna, wedi'i blygu, ac ydw i'n cofio i mi ofyn:

'Be ddigwyddodd i'ch bys chi Defi Jôs, 'i weld o wedi plygu?' 'O', medda fo, 'pan on i'n gweithio yn y banc estalwm yn hel y ceinioge, ti weld, 'i roid yn y drôr, wedi bod wrthi felly yn hel canodd ohonyn nhw a 'mys i wedi mynd yn stiff felna, 'sdi', medda fo.

Wel fedrach chi ddim cymeryd dim odd o'n 'i ddeud ond efo pinsiad o halan, ond rodd o'n gymeriad byw.

Doedd o rioed wedi bod yn y banc?

Nagodd, tad! Bobol, dyna'r lle dwytha'n y byd, os na fuo fo yno yn llnau carpedi. Odd o'n ddiniwad hollol, ychi. Mi fydda'n dŵad i'r stryd weithia, ond 'never on a Sunday'. Ddôi Defi Jôs ddim i olwg y stryd ar y Sul. Na. Odd o rhy flêr, greadur tlawd, wchi. 'Achos 'i ddiwrnod O ydi dydd Sul', medda fo, 'a dos gin i ddim dillad ar 'i gyfar O.' De! Meddyliwch chi am y syniada odd gynno fo. Wel, odd o'n neud i mi feddwl, un wedi cal ryw lun o fanteision, yndê.

Ble byddech chi'n 'i gyfarfod o amla?

O, yn yr efal. Fydda'n dŵad i'r efal, efal Wiliam Ŵan y go, i ferwi ryw dun odd gynno fo i ddal te. Rodd o'n rhoid y tun 'ma yn y tân i ferwi iddo fo gal 'i banad. Fydda yn fanno, ne yn ymyl y gwaith nwy, ychi, yma. Fydda Defi'n fanno ac mi gâi gynulleidfa o blant lle bynnag y bydda fo. Gofio fo un tro yn deud am yr amsar rodd o wedi bod yn y milisia - 'maligians' fydda Defi'n galw nhw - yn Gynarfon adag ymweliad y Frenhinas Victoria. Dwn i ddim, credwch fi, wn i ddim faint o wir sy yn yr un o'i storïau fo, ond odd o'n ddeudwr da, ychi, ac yn 'u deud nhw fel petai nhw yn wirionadd. Odd o wedi mynd i Gnarfon, ac odd o'n cal ryw jobsys gan y milisia 'ma i bario tatws i'r batalion. A dyma y General yn dŵad rownd ryw ddiwrnod a gofyn i Defi fasa fo'n dŵad allan o'r cookhouse - yn fanno odd o ar y pryd - fod o ishio gair efo fo, y very man.

'You're the very man', medda hwnnw.

'Duw, feddylish i mai 'Meri Ann' odd o wedi deud am mai gneud gwaith dynas on i, 'sdi, pario tatws.'

'O, ia?'

'Ia. A dyma fo'n deud bod ishio i mi fynd i ofalu am y Queen yn ystod 'i arhosiad yn Gnarfon.'

'O, ia? Aethoch chi?'

'Wel, esh i i lawr efo'r General am jwg, wst ti.'

Jwg fydda fo'n ddeud, wchi, am beint.

'Esh i i lawr am jwg efo fo, a dyma fo yn deud wrtha i bod o'n mynd i ymddiriad Brenhinas Prydain Fawr i ngofal i am yr wsnos, tra byddwn i yn y camp - yn y gwersyll. Ac yno buon ni', medda fo. 'Wel oddan ni wedi mynd yn ffrindia mawr, ychi.' (Odd hi wedi bod yn 'i dŷ o.) 'Oedd hi wedi dŵad i Dremadog i ddysgu - i mi 'i rhoid hi ar ben ffor' i reidio beic.'

'Duwadd! Odd hi, wir?' Ac odd raid i chi gymyd arnach bod chi'n credu'r cwbwl i gyd, dach chi'n gweld, i'w borthi o ymlaen.

'O, oddach chi?'

'Oddwn. A mi ddigiodd hi, ydw i'n meddwl, ychi', medda fo, 'oherwydd odd hi wedi gyrru platiad o deisan mwyar duon i mi ac on i wedi gyrru'r plât yn ôl iddi, heb 'i olchi. Ac wedyn, wrth gwrs, esh i allan o'r llyfra am sbel', medda fo.

'O, dudwch chi.'

'Wedyn mi fuom i yn mynd efo hi, wedi dŵad â hi i Gnarfon - dyna sut oddan ni'n ffrindia. Dew, doddan ni'n ddigon o ffrindia i galw hi'n 'hen fodan'. Achos pam lai, 'te? Odd hi'n ngalw fi yn 'co bach'.'

'O, ia, ardderchog.'

'Wedyn, mi odd hi ishio i mi fynd â hi ar y swings a'r ceffyla bach, ychi, y ceffyla troi rownd 'ma, ac on i ofn iddi fynd yn sâl, ychi, achos oddan ni newydd gladdu platiad o chips a pys a fish efo hi. Ond yn hytrach nag iddi dorri 'i chalon, mi esh i â hi i guro coconyt. A mi darish ddau goconyt ac mi aethon o'n dau i'r castall i byta nhw.'

Odd y Frenhines wedi anfon crempoge iddo hefyd ryw dro, odd?

O, bobol bach, odd.

Sut odd o'n adrodd yr hanes yna? Ellwch chi 'i ddeud o fel rodd o yn siarad?

Wel, mi odd yr hen Ddafydd, ychi, yn rhwymo y stori yma rŵan wrth un arall on i wedi ddeud cynt mewn ffor' - efo'i deisen mwyar duon - a dodd hi ddim yn unochrog, cofiwch. O na, odd ynta'n gyrru petha iddi hitha hefyd. Odd o'n gyrru cwpwl o wningod iddi weithia i Lundan, medda fo. Am 'i charedigrwydd hi'n anfon crempoge iddo fo. Odd ynta'n talu'n ôl iddi hi felna.

'O, oddach chi'n dallt ych gilydd?'

'Duw, oddan ni'n chdi a chdi', medda fo, 'efo'n gilydd yn iawn.'

Fuo gynno fo 'rioed waith parhaol?

O, naddo. O, bobol, rodd o a gwaith sefydlog rioed yn ffrindia. O, nagodd, er iddo fo ddeud 'i fod wedi bod ar un adeg ar y môr. Dwn i ddim faint o wir odd yn hynny chwaith, ychi.

Ymhle roedd o wedi bod?

O, odd o wedi bod rownd y byd i gyd, medda fo, ond wyddach chi ddim p'run ynta o ddifri, ynta smalio ynta be odd o.

Odd o wedi gweld ryw ryfeddode mawr dros y dŵr?

Wel, mi fydda'n sôn am ryw eliffant. Odd gynno fo eliffant pinc. Odd lliw yr eliffant yn ddigon i ddeud mai chwedl odd honna, 'te. Eliffant pinc, a bod o wedi bod yn tynnu hoelan o'i droed o:

'Odd yr eliffant 'ma yn gloff, ychi', medda fo, 'yn gloff, a mi esh i dynnu'r hoelan 'ma o'i droed o.'

'O, ia?'

'Ia. Ac mi ddoth y syrcas i'r Port, cofia.'

'Do?'

'Do, wir. Ac wyddost ti, mi welodd fi wedi mynd i ista i lle grôt a dima. Fanno fyddwn i'n mynd i syrcas, lle grôt a dima. A dyma'r eliffant pinc yn 'ngweld i, ac ma nhw'n deud nad ydy eliffant byth yn anghofio, wyddost ti, a dyma fo'n dŵad rownd ac yn roid 'i drwnc am fy nghanol i a nghodi fi i fyny i ista i lle hannar coron. Dyna i ti go' odd gin yr eliffant pinc', medda fo.

Tâp: AWC 3556-57. Recordiwyd: 27.vii.1972, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John O John, Porthmadog. Ganed: 19.v.1900, Heol yr Wyddfa, Porthmadog. Wedi byw ym Mhorthmadog ar hyd ei oes ac eithrio tair blynedd y bu yn y De.
Gwaith: amryw swyddi, ond yn Swyddfa'r Dreth Incwm, 1947-60.
Awdur nifer o lyfrau atgofion a rhai dramâu. Bu'n cynhyrchu dramâu ac yr oedd yn adnabyddus fel darlithydd poblogaidd.