Gweddi Dafydd Bob Man
Items in this story:
By Robert Owen Pritchard.
This story is only available in Welsh:
Gan Robert Owen Pritchard, Llanddaniel, Môn (gynt o Fetws Garmon, sir Gaernarfon)
Ond yr hen gymeriad arall hwnnw fydda Nhad sôn amdano, fydda'n dod heibio i chwilio am waith yn ardal Rhos-lan, Dafydd Bob Man odd o'n ei alw fo. A dyna lle bydda Dafydd yn dŵad, rywun wedi taro arno fo, 'Duwch Dafydd ma gin i isio chwalu tail. Dos draw 'cw.' Dafydd yn mynd. Wedyn fydda Dafydd yn mynd i weithdy crydd gyda'r nos a ryw hen hogia yn fanno.
'O wir, hogia bach', medda fo fel'na ynde.
'Mae'n noson cwarfod gweddi', medda rywun, 'a'r un ohonon ni wedi mynd i'r cwarfod gweddi.'
'A wir ma'n biti gen i', medda fo fel'na.
A dyna'r hen grydd yn deud:
''Swn i'n cal cyfla faswn i byth yn colli. Heblaw faswn i'n mynd i'r cwarfodydd. Beth am ofyn i Dafydd 'ma fasa wath iddo fo gymyd cwarfod gweddi yn fanma?'
Wel mi fydda Dafydd wrth ei fodd 'de. A wedyn,
'Wel, wath ti befo'r darllan, ma'n ddigon hawdd i ni ganu rwbath', medda'r hen hogia. Hen hogia'n canu rhywbath, ryw gomic song, ne rywbath, 'de. Dafydd gwbod dim gwahaniath, 'de. A wedyn gofyn i Dafydd: 'Wel ei di i weddi Dafydd? 'Sat ti'n gweddïo?'
'Wel â i', medda Dafydd.
Ac odd dafod dipyn bach yn dew gynno fo. Wedyn mi fydda Dafydd yn mynd ar 'i linia. Yr hen hogia 'ma i gyd yn trio bod mor ddistaw â medran nhw rhag iddyn nhw golli dim un gair fydda gin Dafydd, achos fydda perla yn disgyn o ben Dafydd ar brydiau, 'te. A wedyn mi fydda yn dechra, fydda'n gofyn i'r Arglwydd fadda iddyn nhw am bod nhw mewn lle 'run fath ag yr oddan nhw, na fasan nhw yn y cwarfod gweddi y noson honno:
'Ond yr Arglwydd Mawr, 'dan ni'n dallt medri di ein clwad ni o fanma 'run fath yn union', medda fo. 'Dydy o'n gneud dim gwahaniath. Ac yn fanma rydan ni, a 'tasa 'ma ddim ond dau ne dri ohonon ni, neith o ddim tamad o wahaniath, yn na neith?' medda fo. 'Yma rydan ni, a mi 'dan ni'n credu bod ni gimin o bobol i Ti â'r bobol na sydd yn cynnal dy gwarfod gweddi di. Mi wyt Ti'n gofalu amdanon ninna 'run fath yn union ag wyt Ti'n gofalu am rheini hefyd, yn twyt? Wel, mi wyt Ti'n gofalu'n rhyfeddol amdanon ni. Wyt Ti'n gofalu am yr adar bach 'na sy yn hofran yn yr awyr', medda fo. 'Mi wyt Ti wedyn yn gofalu amdanon ninnau, y bobol sy ar y llawr. A mi wyt Ti yn gofalu hyd yn oed am y pry genwar bach 'na sy mynd o dan y dduar na ŵyr y cradur bach p'un ta 'i din o ta 'i ben o sy mynd gynta. Ia, diolch i Ti am gofio amdanon ni i gyd.'
Tâp: AWC 4529. Recordiwyd: 27.ii.1975, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: Robert Owen Pritchard, Ynys Môn.
Ganed: 6.vii.1904, Bryn Afon, Betws Garmon, Sir Gaernarfon. Gweithio i'r Bwrdd Marchnata Llaeth. Gŵr diwylliedig ac yn meddu ar gyfoeth o iaith, fel ei chwaer (recordiwyd hithau gan AWC), Mary Awstin Jones, Waunfawr.