Plant y Tylwyth Teg

Items in this story:

  • 775
  • Use stars to collect & save items login to save

By Robert Owen Pritchard.

This story is only available in Welsh:

 

[Wrth sôn am yr enwau a ddefnyddid am blant anghyfreithlon.] Wel, cywion siawns, ne gywion chwyaid gwylltion. Fydda cyw hwiaden wyllt yn enw cyffredin, 'tê. A plant Tylwyth Teg fydda rhei'n galw nhw. Ma 'na stori arall am blant Tylwyth Teg hefyd. Oddna ryw hen deulu – diawch, raid i mi beidio deud ryw lawar am hon achos ma gimin ohonyn nhw'n fyw hiddiw, 'dê. Hen deulu wedi mynd allan gyda'r nos ar y dydd byr a clwad ryw blentyn yn crio. Todd gynnyn nhw 'im plant eu hunain ac oddan nhw wedi mynd rhy hen i gal rai. Clwad ryw blentyn bach yn crio rywla. Ffwr â nhw i chwilio amdano fo. A niwl fath â fydd yn Betws Garmon a'r ochra yna hyd at y llawr, fel plancad. A dyma nhw dan gwr o niwl, mynd am y llais 'ma. Duw, be odd yno ond plentyn bach. A dyma'i godi o a mynd â fo i'r tŷ, a'r amsar honno ddoth na neb i feddwl chwilio amdano. Duw, ma amsar ers hynny a ma siwr bod rywun, hogan hwyrach, wedi mynd yn anlwcus, wedi'i adal ar ei hôl yn fanno 'te yn ddistaw bach. Gwbod am yr hen bobol hwyrach, basa nhw'n ei glwad o 'nde. Wel ta waeth, mi magwyd o gin y ddau. A wedi iddo gal ei fagu, mi dyfodd i fyny, yn fab iddyn nhw – fo odd yn cal y cwbwl i gyd. Wel, rŵan, mi briododd hwnnw a mi odd gin hwnnw deulu, a ma 'na lot o'r teulu ar gal heddiw. Swn i'n gallu enwi llawar iawn ohonyn nhw, ond hwyrach bod well i mi beidio.

Ond dyna fyddan nhw'n arfar â ddeud, 'Welodd neb yr un ohonyn nhw'n marw 'rioed. Bydda'r Tylwyth Teg yn dod i nhôl nhw cyn iddyn nhw gweld nhw.' A dwi'n cofio Now, mrawd, a finna yn mynd i'r gwaith ryw fora a ryw hen fachgan odd yn gwithio 'no yn taro ryw ddyn a holi iddo sut odd 'i dad o.

'Duwch, mae wedi marw ers bora', medda fo. 'Duwch annwl', medda fo felna, 'pryd bu o farw?' 'Fedra i ddim deud yn iawn pryd buo fo farw', medda fo, 'achos todd 'na neb yno, wedi marw'n ddistaw heb i'r un o ni fod ar 'i gyfyl.' 'Tylwyth Teg wedi dod i nôl o', medda Twm Jos y munud hwnnw, 'ndê. Odd o'n profi stori Tom Jos bod y Tylwyth Teg yn dod i nôl nhw, 'ndoedd.

Ond dwi'n siwr na fydda ddim gwahanieth gynnach chi ddeud wrtha i nawr ym ble daru nhw gal hyd i'r plentyn bach?

Wel ... rhwng Rhyd-ddu a Snowdon Ranger. Rywla yn y cyrion o dan y niwl. Yr hen hotel, 'tê. Merseyside Youth Hostel ydy hiddiw, 'dê. Ia. Yn fanno.

Ac wedyn fe'i magwyd o ar fferm ...?

Ar y fferm yn lle cafwyd o. ... Dydyn nhw ddim yn licio'r stori

Ma' nhw'n gwbod am y stori?

Ma 'na rywun wedi edliw y stori iddyn nhw. Wedi taflyd rywbath atyn nhw. Mai plant y Tylwyth Teg ydyn nhw 'te.

Odd 'na gred o gwbwl bod plant y tylwyth teg yn wahanol i blant erill?

Wel, odd. Bod 'na ryw lwc yn 'u canlyn nhw o hyd, o hyd, o hyd. 'Sach chi'n meddwl mentro ar ryw ddîl, ne bally. A duwch, os och chi'n un o blant y Tylwyth Teg, wnâi chi ddim methu. Ia. Bod 'na ryw lwc. Bron 'sach chi ddeud bod o wedi rhagweld bod o'n dŵad, i ryw bwynt 'de.

Pwy glywsoch chi'n deud hyn?

Wel, ryw hen frawd o Abarsoch o'n deud wrtha i. Hwnnw'n sôn am, wch chi, medrwch chi sôn am blant felly rŵan – ym mhob ardal ma 'na blant tylwyth teg, 'tos? Bron bob ardal. Fydde ne ryw ddyn yn Rhoshirwaun yn deud wrtha i bod o wedi cal llawar o sgwrs efo ryw rei ohonyn nhw. A'r hen fachgan wedi'i gladdu esdalwm. Odd o'n trio deud wrtha i: 'Ma 'na ryw hen le yn ochor y ffor wsti, ma 'na gelaets [gellhesg] yn tyfu 'no', medda fo. 'Yn ganol rheini, efo rheini byddwn i'n cal sgwrs', medda fo. Wel on i'n meddwl tybed odd o'n colli arni, bod o'n gweld ryw betha. Duw, na. Odd o'n cal 'i gyfri'n un o'r dynion mwya cyfrifol odd yn Rhoshirwaun wedyn. Dew, odd o'n beth od, wch chi, clywad y dyn 'ma'n sôn fath yn union 'sa [fo] wedi cal sgwrs efo nhw.

Beth odd 'i enw fo?

Owen John Roberts odd enw'r dyn.

Ond mae o wedi'i gladdu erbyn hyn?

Mae wedi'i gladdu.

'Na chi.

Mae ei ferch o'n byw yn yr un fferm o hyd.

Ie? Ac yn Llŷn ma hyn?

 

Ia.

ôs 'na lawar iawn o bobol yn y cylch heddiw yn gwbod am y gred am y Tylwyth Teg?

Wel, ma nhw'n hen bobol bron i gyd. Ryw hen bobol, 'tê. Duw, ma'r oes ifanc 'ma'n chwerthin am pen chi os dach chi'n digwydd sôn am rywbath felly wrthyn nhw. Dyw hi ddim yn sbort iddyn nhw, nag ydi.

Dech chi'n meddwl bod 'ne ryw bosibilrwydd bod y peth yn wir felly?

Dwi ddim yn meddwl bod na ddim gwir yno fo. Ond ma 'na ryw betha dach chi'n meddwl amdanyn nhw. Ma rywun yn sôn am nefoedd ac uffarn. Wel, fyddai'n deud wrthof fi fy hun, 'Os oes ffasiwn le â nefoedd yn bod, fyswn i'n licio bod yno, yn hytrach na bod yn y lle arall, yntê.' A'r un fath, tydy o'n gneud dim drwg i neb feddwl, ac os oes rywbeth yno fo yn plesio rywun, wel dyna fo.

Tâp: AWC 4526. Recordiwyd: 26.ii.1975, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: Robert Owen Pritchard, Ynys Môn.
Ganed: 6.vii.1904, Bryn Afon, Betws Garmon, Sir Gaernarfon. Gweithio i'r Bwrdd Marchnata Llaeth. Gŵr diwylliedig ac yn meddu ar gyfoeth o iaith, fel ei chwaer (recordiwyd hithau gan AWC), Mary Awstin Jones, Waunfawr.