Swyno'r eryr

Items in this story:

  • 1,007
  • Use stars to collect & save items login to save

By John Thomas Jones, Rhoshirwaun, Caernarvonshire

This story is only available in Welsh:

Gan John Thomas Jones, Rhoshirwaun, sir Gaernarfon

Fasech chi'n dweud wrtha i rwan yr hanes yma am witshio sy gynnoch chi?

Wel, dim ond efo dyn Y Rhiw 'ma efo'r halan. Mi odd 'ma yn yr hen oes, adag y toll ar halan, ddau ddyn wedi mynd o'r Rhiw, y plwy agosa 'ma, i Werddon i nôl halan a'i smyglio fo i'r wlad. A dyma nhw'n landio jest yn Aberdaron fanna efo'r halan. A wedi gwerthu'r llwyth mi aen nhw'n ôl wedyn i Werddon am lwyth arall, mewn ryw gwch go fychan, y ddau ohonyn nhw. A pan oddan nhw yn Werddon un waith yn nôl llwyth yn Dublin, dyma rywun yn y doc yn deud wrtho bod yna ryw hen Wyddel yn Dublin a'r eryr arno fo.

'Tasat ti'n medru 'i witshio mi gaet ffortshiwn dda iawn am neud', medda fo. 'Duwch, â i yno', medda'r hen foi, 'heddiw, atat ti.'

Wel, dyma fo'n mynd efo ryw hen Wyddel a mi rodd yr hen Wyddel dan yr eryr yn y tŷ. Wel, dyma fo'n deud yn Gymraeg wrtho fo:

'Yma y doish i o wlad bell.
Os na wna i ti ddim gwaeth, wna i mohonot ti ddim gwell.
Pe cawn i olwg unwaith ar fynydd Y Rhiw
Waeth gin i ti'n farw mwy nag yn fyw'

ac yn pwyri ar yr eryr. A mi âth oddi yno. Wel, doth adra i'r Rhiw efo'i lwyth. Wedi'i wagio o'r llong fach, dyma fo'n mynd yn ôl wedyn i Werddon. A dyma fo'n mynd i edrych sut odd yr hen Wyddel. A mi odd yr hen Wyddel wedi mendio o'r eryr, a mi gafodd o ffortshiwn bach ddel am 'i witshio. Wel ma honna'n stori wir.

Tâp: AWC 1995. Recordiwyd: 29.x.1968, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John Thomas Jones, sir Gaernarfon.
Ganed: 1911, Bryn Golau, Rhoshirwaun. Crydd.
Darllen llawer. Perchennog llyfrgell 'Gwilym y Rhos'.